Rhandirmwyn
  • Hafan / Home
  • Rhandir-mwyn (CYM)
    • Dyddiau Presennol
    • Bywyd Gwledig
    • Hela
    • Pobl 'Slawer Dydd >
      • DAFYDD DAFIS CYM
    • RHYFELOEDD BYD
    • Newyddion Y Dydd
    • Eglwysi A Capeli
    • Rhandirmwyn Oriel / Gallery
  • Rhandir-mwyn
    • Present Day
    • Country Life
    • Land Rover
    • The Hunt
    • People of the past >
      • DAFYDD DAFIS
    • World Wars
    • News of the day
    • Churches & Chapels
    • Rhandirmwyn Oriel / Gallery
  • Tom Lewis
    • Tom Lewis - Oriel / Gallery
  • Yr Hen Ysgol
    • Plant Noddedig
    • Yr Hen Ysgol - Oriel
  • Old School
    • Evacuees
    • Old School - Oriel / Gallery
  • Genealogy
    • Genealogy - Oriel / Gallery
  • America (CYM)
  • America
  • Gwaith Nantymwyn
    • Nantymwyn - Oriel / Gallery
  • Nantymwyn Mine
    • Simon Hughes
    • Dafydd Dafis
    • Tragedies and Obituaries
    • Maps & Plans
    • Miners Homes
    • Nantymwyn - Oriel / Gallery
  • Red Kite
  • Twm Siôn Cati
    • Twm Sion Cati - Oriel / Gallery
  • Llyn Brianne
    • Llyn Brianne Water Scheme By Dafydd Dafis
    • Documents
    • Newspapers Cuttings
    • Llyn Brianne - Oriel / Gallery
  • Dilynwch / Follow
    • Facebook
    • YouTube
  • Oriel / Gallery
Picture

Dyddiau Presennol

​Mae yma olygfeydd rhyfeddol o brydferth ym mlaenau Tywi - paradwys i gerddwyr a phobl sy’n  hoff o’r awyr agored.  Twristiaeth  yw’r prif ddiwydiant yn awr, ond fe welir llawer o adeiladau ffermydd wedi’u trawsnewid i dai preswyl a thai haf.

Mae ffermio o hyd yn un o'r diwydiannau mwyaf pwysig sy'n parhau i gyfrannu'n helaeth tuag at yr economi leol. Erbyn heddiw mae nifer y ffermydd wedi lleihau ond pob ffarm yn fwy ei maint.  Ffermio defaid wna’r mwyafrif heddiw, ond mae yna lawer o ffermwyr wedi arallgyfeirio i dyfu llysiau organig ac eraill wedi ymuno â'r diwydiant twristiaeth.

Caewyd ysgol y  pentref ym 1969 a gorfu’r plant lleol deithio i Ysgol Cilycwm, ond er tristwch i bawb mae Ysgol Cilycwm erbyn hyn wedi ei chau.  Mae'n rhyfedd fel y mae rhywbeth neu gilydd o hyd yn codi pen ac yn tarfu ar dawelwch yr ardaloedd gwledig yma ac yn bygwth ffordd o fyw.  Gwelwyd hyn yn hanes Rhandirmwyn; unwaith y caewyd yr ysgol fe adawyd gwacter mawr yn y gymuned. 

Os deuwch i Randirmwyn heddiw fe welwch bod yna lawer o newidiadau wedi cymeryd lle tros y blynyddoedd.  Mae yna dai newydd wedi eu hadeiladu a llawer o goed pinwydd wedi eu plannu ar y mynyddoedd cyfagos. Ar wahân i hyn ymddengys popeth yr un fath heb fawr o newid. 

Y peth mwyaf trawiadol yw’r newid yn y boblogaeth yn ystod y 25 mlynedd ddiwethaf.  Heddiw, prin iawn yw'r defnydd o'r iaith Gymraeg.  Mae'r rhan fwyaf o'r mewnfudwyr o gefndir Seisnig, ond i fod yn deg mae yna rai sydd wedi ymdrechi i ddysgu'r Gymraeg, ond does gan y mwyafrif ddim diddordeb o gwbl yn ein hiaith. Gobeithio bydd y genhedlaeth iau yn gwerthfawrogi’r cyfle a gynigir iddynt i ddysgu'r iaith yn yr ysgol. Cawn weld! 
 
Yn y pentref mae yna ddau dŷ tafarn, y Towy Bridge, sydd ger yr afon rhyw filltir i fyny’r cwm, a’r Royal Oak, yng nghanol y pentref. I lawr ger yr afon Tywi mae yna safle carafannau a gwersyllfa arbennig o dda. Gwyliwch ei gwefan (www.campingandcaravanningclub.co.uk) am fanylion.  
 
Mae yna ddigonedd hefyd o fywyd gwyllt yn yr ardal;  wiwerod coch, moch daear, llwynogod ac amrywiaeth mawr o adar.  Mae’n werth talu ymweliad â’r Warchodfa Adar Dinas, a leolir i ogledd y pentref ac hefyd, yn agos i bentref Cilycwm, sefydlwyd prosiect Cwm Rhaeadr.  Datblygwyd y prosiect yma yn benodol ar gyfer y cyhoedd iddynt fwynhau gweithgareddau awyr agored yn nghefn gwlad. Mae yna safle beicio addas ar gyfer yr egniol ond y maent hefyd wedi darparu cyfleusterau i’r anabl iddynt hwythau fedru mwynhau’r awyrgylch.
 
Am fwy o fanylion gwyliwch wefan (www.cilycwm.com)
 
Lleolir Rhandirmwyn o fewn cadwyn mynyddoedd y Cambria (Elenydd).  Sefydlwyd “Cymdeithas Mynyddoedd Cambria” yn 2005 i’r pwrpas o geisio cael penodiad “Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol” i’r ardal yma; yn dilyn hyn parhau gyda’r frwydr a ddechreuwyd ym 1965 i gael penodiad swyddogol iddi fel “Parc Cenedlaethol”.  Mae’n drist iawn bod angen brwydro i’r fath raddau i sicrhau’r statws i amddiffyn a diogelu yr harddwch naturiol a welir yma.

Mae’r stori yma yn un hir, yn dyddio’n ôl i 1965 pan benderfynodd y Comisiwn Parciau Cenedlaethol benodi mynyddoedd Cambria yn unfed parc ar ddeg o fewn Parciau Cenedlaethol Prydain Fawr.   Ym 1972 gwnaeth Comisiwn Cefn Gwlad Orchymyn penodol Parc Cenedlaethol dros fynyddoedd y Cambria, i’w gadarnhau  gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.  Trwy wneud y Gorchymyn yma ystyriwyd y tirlun yma gan y Comisiwn o bwysigrwydd cenedlaethol (Prydain Fawr):
“.......wedi ei dorri gan gymoedd dwfn coedol a cheunentydd, y gweundir  sy’n lliwgar drwy’r tymhorau ac un o’r ardaloedd cefn gwlad mwyaf hardd a phrydferth ym Mhrydain .....  yn  deni mwy a mwy o ymwelwyr sy’n gwerthfawrogi fod yr hyn a alwyd yn,  ‘Ysbrydoliaeth Cymru,’ sy’n gyfartal mewn harddwch i lawer parc cenedlaethol sy’n bodoli yn barod.”

Cafodd y Gorchymyn ei wrthod gan ffermwyr a’r mwyafrif o’r cynghorau lleol cysylltiedig, ac ym 1973 penderfynodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Thomas, beidio a llofnodi’r Gorchymyn.  Ers hynny mae mynyddoedd y Cambria wedi eu hanwybyddu’n llwyr.  Heb amheuaeth mae’n un o’r ardaloedd harddaf yng Nghymru a Lloegr sydd yn deilwng o statws “Parc Cenedlaethol”, ond mor belled heb gydnabyddiaeth swyddogol ac yn gwbl ddiamddiffyn, yn dibynnu’n gyfan gwbl ar benderfyniadau ein gwleidyddwr. 
 
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar, “Mynyddoedd y Cambria” i ymweld â’r wefan. Gobeithio y tro hwn bydd y Gymdeithas yn llwyddiannus.

Efallai hoffech  ymuno yn y frwydr. (www.cambrian-mountains.co.uk).
 
Dyma ddyfyniad allan o un o lyfrau Jim Perrin, ‘Travels with The Flea and other  eccentric journeys.’  Rwy’n falch medru dweud mae enw’r ci oedd ‘Flea.’  Mae’r llyfr yn un diddorol dros ben ac mae’n adrodd am ei deithiau dros y  byd i gyd, gan gynnwys Rhandirmwyn.

Dywed yn Saesneg  ........”There are many  places in Wales of which I am fond, all of them  entrancing in their different ways and at their proper seasons.  But if I were asked by a stranger to this loveliest of all countries which place is the most beautiful, then I would tell of the pleasure in walking up the Afon Doethie  on a fine day in the high spring of May or June when hawthorn blossom beacons  the hillsides and bluebells shimmer like a low flame amongst the  woods.”
 
Mae’n mynd ymlaen i’n rhybuddio o’r posibilrwydd am fwy o ddatblygiadau yn y dyfodol yn ein hardal brydferth ....... “It’s reached from Rhandirmwyn by walking up towards the new reservoir of Llyn Brianne, the disfigured hand-shape of which grasped too much of Wales’ beauty when it drowned the infant streams of Camddwr and Craflwyn, Tywi and Nant Gwrach.  Those culpable surveyors looked, no doubt, at the adjacent valleys of the Doethie and the Pysgotwr, and I don’t for a moment disbelieve that they are capable of looking there again (at Blaen Doethie currently there are plans to install a huge wind-farm development, which would be desecration here).”  
 
Travels with The Flea.  (2002) ISBN. 1-903238-36-6
Jim Perrin has long been recognised as the finest of British mountaineering and outdoor writers, with regular, outstanding features in the Daily Telegraph, Climber and The Great Outdoor.
He gets his joy and expresses it like a poet, from solitude and nature.’The  Observer

Mae cefn gwlad yn parhau o dan fygythiadau a phwy fedrir dweud beth a ddigwydd yn y dyfodol i’r ardal brydferth hon.  Gobeithiaf bydd statws, ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol,’ yn gymorth i atal unrhyw ddatblygiadau eraill

Alun Jones ​

Rhandir-mywn - Dyddiau Presennol - Bywyd Gwledig - Hela - Pobl 'Slawer Dydd - Rhyfeloedd Byd - ​Newyddion Y Dydd - Eglwysi A Capeli
Picture
Proudly powered by Weebly
  • Hafan / Home
  • Rhandir-mwyn (CYM)
    • Dyddiau Presennol
    • Bywyd Gwledig
    • Hela
    • Pobl 'Slawer Dydd >
      • DAFYDD DAFIS CYM
    • RHYFELOEDD BYD
    • Newyddion Y Dydd
    • Eglwysi A Capeli
    • Rhandirmwyn Oriel / Gallery
  • Rhandir-mwyn
    • Present Day
    • Country Life
    • Land Rover
    • The Hunt
    • People of the past >
      • DAFYDD DAFIS
    • World Wars
    • News of the day
    • Churches & Chapels
    • Rhandirmwyn Oriel / Gallery
  • Tom Lewis
    • Tom Lewis - Oriel / Gallery
  • Yr Hen Ysgol
    • Plant Noddedig
    • Yr Hen Ysgol - Oriel
  • Old School
    • Evacuees
    • Old School - Oriel / Gallery
  • Genealogy
    • Genealogy - Oriel / Gallery
  • America (CYM)
  • America
  • Gwaith Nantymwyn
    • Nantymwyn - Oriel / Gallery
  • Nantymwyn Mine
    • Simon Hughes
    • Dafydd Dafis
    • Tragedies and Obituaries
    • Maps & Plans
    • Miners Homes
    • Nantymwyn - Oriel / Gallery
  • Red Kite
  • Twm Siôn Cati
    • Twm Sion Cati - Oriel / Gallery
  • Llyn Brianne
    • Llyn Brianne Water Scheme By Dafydd Dafis
    • Documents
    • Newspapers Cuttings
    • Llyn Brianne - Oriel / Gallery
  • Dilynwch / Follow
    • Facebook
    • YouTube
  • Oriel / Gallery