Home

News

The Story

The Cave

Photographs

Media

Rhandirmwyn

Hafan

Newyddion

Y Stori

Yr Ogof

Lluniau

Media

Rhandirmwyn

 

Croeso i wefan Twm Siôn Cati. 

 

Cafodd ei chreu i ddathlu bywyd Thomas Jones, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Twm Siôn Cati.  Tyfodd amryw o chwedlau o’i amgylch, ac mae amryw o’r rhain yn gysylltiedig â Rhandir-mwyn a Blaenau Tywi.  Fe’i ganed yn Nhregaron yn 1532, ac yn ôl y sôn roedd ganddo guddfan ar lechweddau Dinas ger Fferm Ystrad-ffin, Rhandir-mwyn, mewn ogof sy’n cael ei galw’n Ystafell Twm Siôn Cati.  Cafodd llawer ei ysgrifennu am ei anturiaethau, a’r gobaith yw y bydd y wefan hon yn gwahaniaethu rhwng y ffeithiau a’r chwedlau.  Tua diwedd ei oes, priododd â Joan, gweddw a oedd yn byw ar fferm Ystrad-ffin.  Bu farw yn 1609. 

 

Prynwch ein llyfryn newydd am Twm Siôn Cati, a gyhoeddwyd fel rhan o’r ŵyl. Mae’r llyfryn, a gafodd ei lunio gan Handel Jones, yn rhoi manylion hanesyddol am gysylltiad Twm ag Ystrad-ffin a’r ystafell (ogof) yn Rhandir-mwyn, yn ogystal â ffeithiau eraill amdano a all fod yn destun syndod i chi.
Mae’r llyfryn ar werth yn Siop y Pannau, Rhandir-mwyn am £3 + costau cludiant. Cysylltwch â Siân ar 01550 760139.
Bydd manylion am y mannau eraill lle bydd ar werth ar gael cyn bo hir. Prynwch ar-lein nawr.

Roedd Gŵyl Twm Siôn Cati (21 – 23 Awst 2009) yn llwyddiant mawr.  Byddwch cystal â chlicio ar y Dudalen Newyddion i weld ffotograffau a lluniau fideo o’r ŵyl.  Rydym yn ddiolchgar dros ben i bawb a fu’n cymryd rhan ac yn helpu gyda’r ŵyl. 

 Rhaid cyfeirio yn arbennig at Mr Geoffrey Jones, Fferm Ystrad-ffin, Rhandir-mwyn am ei haelioni ac amynedd wrth ganiatáu i ni ddefnyddio lleoliad mor fendigedig i gynnal yr ŵyl.  Diolch yn fawr iawn.  Bydd rhagor o ffotograffau a gwybodaeth ynglŷn â’r llwybr troed a’r bwrdd gwybodaeth, etc. ar gael cyn bo hir.  

Ymholiadau

Cyswllt Alun  Jones

E-bost ogof@twmsioncati.com

Ffôn 01656 773266

Lleoliad

Map yn fwy  Printio map

 

 

Mae Ogof Twm Siôn Cati wedi ei leoli ym mlaenau Tywi tua dwy filltir goruwch i bentref Rhandirmwyn, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin. 

Map ‘Explorer’ 187 Cyfeirnod 783466 Cod Post SA20 0PG.  Gwyliwch mapiau ynghlwm


 

Links Page