Home

News

The Story

The Cave

Photographs

Media

Rhandirmwyn

Hafan Newyddion Y Stori Yr Ogof Lluniau Media Rhandirmwyn

 

Hanes am Twm Siôn Cati

Er bod tuedd i’w alw’n ‘Robin Hood Cymru’, mae Twm Siôn Cati (c1530-1609) yn haeddu gwell na hynny. Y gwir yw ei fod yn ŵr bonheddig, yn fardd ac yn arwyddfardd o fri - ac mae lle i gredu taw ffrwyth dychymyg nofelwyr yw llawer o’r castiau sy’n cael eu priodoli iddo.
Yn ôl tystiolaeth ddiweddar, gallai fod wedi cuddio yn yr ogof enwog honno yn Rhandir-mwyn rhag erledigaeth grefyddol, yn hytrach nag er mwyn osgoi pobl a oedd wedi dioddef oherwydd ei gastiau.


Thomas Jones oedd ei enw go iawn. Roedd yn fab anghyfreithlon i fonheddwr o Borthyffynnon, ger Tregaron, a’i fam oedd Catherine (Cati), merch anghyfreithlon i un o hynafiaid Syr John Wynn o Wydir.


Gwyddom iddo gael pardwn gan Elisabeth I, er bod ei union drosedd yn ddirgelwch. Gwyddom hefyd iddo weithredu fel stiward dros arglwyddiaeth Caron.
Tua diwedd ei fywyd, priododd â Joan, gweddw perchennog Ystrad-ffin. Roedd hi’n ferch i Syr John Price, Aberhonddu, a gyhoeddodd y llyfr Cymraeg cyntaf.


Er i chwedlau ynglŷn â Twm Siôn Cati gael eu cyhoeddi gyntaf yn 1763, y llyfr mwyaf dylanwadol oedd y nofel The Adventures and Vagaries of Twm Shon Cati gan T.J. Llewelyn Prichard, a gyhoeddwyd yn 1828. Cyhoeddwyd amryw o lyfrau amdano oddi ar hynny – gan gynnwys tair nofel Gymraeg gan T. Llew Jones – ac yn 1977 cynhyrchwyd cyfres deledu, Hawkmoor, yn seiliedig ar ei anturiaethau.
 


Outing to Twm Shon Catti’s Cave


On Tuesday, 22nd inst. the members of Pantycelyn Memorial Chapel, together with the Sunday School and choir, went for their annual outing to ‘Twm Shon Catti’s Cave’, a well-known pleasant resort. they were conveyed there in about fifteen vehicles, being about 140 in number. The trip was greatly enjoyed, the excursionists returning about nine o’clock, having spent the happiest day possible.
 

The Welshman, Friday, 30 June 1893. p6. c4