Rhandir-mwyn – Pentref yn nyffryn hyfryd Blaenau Tywi yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin. Yma fe welwch dudalennau am bobl ddiddorol a anwyd yn Rhandir-mwyn neu sy’n gysylltiedig â’r ardal ynghyd â hanes a lluniau capeli ac eglwysi a hen luniau eraill.
Tom Lewis, Ffotograffydd – Mae ein dyled yn enfawr i Tom oherwydd hebddo ef a’i debyg, ni fyddai gennym y lluniau bendigedig o fywyd ym Mlaenau Tywi dros y can mlynedd diwethaf a mwy. Gobeithiwn y bydd y wefan yn rhoi iddo ychydig o’r gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu. Wrth edrych ar ei luniau, ystyriwch yr ymdrech a olygodd eu cymryd – cario camera platiau trwm a thrybedd bren i fannau anhygyrch. Yn sicr, rwyf i’n falch iddo wneud hynny.
Yr Hen Ysgol – Yma mae gennym hanes Ysgol Rhandir-mwyn gan Dafydd Dafis, y prifathro olaf. Hefyd, mae gennym luniau gwych o’r disgyblion dros y blynyddoedd. Ar un adeg roedd dros gant o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol. Pan gaeodd, dim ond tri oedd yno. I ble aeth pawb?
Hel Achau – Mae’r ychwanegiad hwn yn dilyn llu o geisiadau gan bobl yn y DG, Awstralia ac America am wybodaeth ynglŷn â’u hynafiaid a hanai o ardal Rhandir-mwyn. Gallwn gynnwys hanes eich teulu chi os mynnwch, a gwnawn y cyfan yn ein gallu i’ch helpu i olrhain eich hynafiaid.
America – Mae’n anhygoel faint o bobl adawodd Rhandir-mwyn i ddechrau bywyd newydd yn America. Aeth lawer i weithio yng nglofeydd Pennsylvania ac ymgartrefu yn nhrefi Wilkes-Barre a Scranton. Ydych chi’n ddisgynnydd? Os ydych chi, beth am gael hanes eich teulu?
Twm Siôn Cati – Roedd Thomas Jones yn lleidr pen ffordd a ddaeth wedyn yn ŵr bonheddig parchus. Mae’n berson pwysig yn hanes a chwedloniaeth Cymru, ac mae ganddo gysylltiad agos â Rhandir-mwyn a Blaenau Tywi. Fe’i ganed ger Tregaron yn 1532. Yn ôl traddodiad, roedd ganddo guddfan mewn ogof ger Fferm Ystrad-ffin, Rhandir-mwyn, sef Ystafell Twm Siôn Cati.
Gwaith Plwm Nant-y-mwyn – Hwn oedd y gwaith plwm mwyaf o ran maint a chynnyrch yn ne Cymru. Ar un adeg roedd yn cyflogi dros 400 o bobl. Dywedir taw’r Rhufeiniaid oedd y cyntaf i gloddio am fwyn yn y bryniau uwchben Rhandir-mwyn, ond mae lle i gredu fod pobl yn cloddio yno cyn hynny.
Y Barcud – Blaenau Tywi yw gwir gartref yr aderyn ysglyfaethus godidog hwn. Yma, yn ystod rhan helaeth o’r ugeinfed ganrif, oedd ei unig loches ledled Prydain. Ffermwyr a thrigolion eraill y dyffryn, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Barcutiaid Cymru, yr RSPB a phobl frwdfrydig eraill, a arbedodd yr aderyn hwn rhag difancoll. Yn haeddiannol, hwn yw Aderyn Cenedlaethol Cymru.
Cronfa Llyn Brianne – Mae’r gronfa hon, a agorwyd yn 1973, yn un o brif nodweddion Blaenau Tywi erbyn hyn. Bu gwrthwynebiad cryf iddi, a gallwch ddarllen yma am y frwydr i geisio atal boddi’r tir. Mae’r hanes yn ddiddorol dros ben.
Oriel – Yma fe welwch luniau hen a newydd o Randir-mwyn a’r ardal gyfagos. Rydym yn ychwanegu at y dudalen hon drwy’r amser. Tynnwyd rhai o’r lluniau tua 1900, ac maen nhw’n rhoi cip diddorol ar fywyd yr ardal bryd hynny.
Cysylltu – Mae sawl ffordd o gysylltu â ni, sef Message Pad, Facebook, Twitter (cyn bo hir) ac Youtube. Hefyd, mae gennym e-bost. Hoffem gael unrhyw wybodaeth am unrhyw beth sy’n ymwneud â Rhandir-mwyn a’i hanes.
Croeso i’n gwefan sydd wedi ei neilltuo i hanes Rhandirmwyn a blaenau Tywi, Sir Gaerfyrddin, Cymru. Ein bwriad yw crynhoi gwybodaeth, chwedlau a lluniau o’r oes a fu hyd at y presennol. Os medrwch gyfrannu trwy gyflwyno storïau, chwedlau diddorol neu luniau rhowch alwad i ni.