English

Cymraeg

 

 

 Hafan

 Rhandirmwyn

 Tom Lewis

 Oriel Llunian

 Media

 Mwyngloddio

 Yr Hen Ysgol

 Barcud Coch

 Llyn Brianne

 Yr Amerig

 Cysylltiadau

 Cysylltwch

Newydd

 

 

Stryd y Pannau

Rhodfa Argall

Tŷ  Nantymwyn

Y ‘Dry

Teras Nantymwyn

Map

Nantybai

 

Y ‘Dry

 

Y ‘Dry.’  - Rhes o dri bwthyn a oedd yn wreiddiol yn adeilad a ddefnyddiwyd gan y gwaith mwyn.  Roedd ger allanfa, ‘Lefel y Bad Isaf,’ (lower boat level) lle allanwyd rhan helaeth o’r ysbwriel a’r plwm.  Roedd yr adeilad wedi ei rhanni i dri; efail, stordy a rhan agored lle gadawodd y gweithwyr ei dillad i sychu.  Y rhan hyn a alwyd gan y gweithwyr gan y gair Saesneg, ‘The Dry.’  Gan fod llawer o fewnfudwyr o Gernyw yn gweithio yno roedd defnydd o’r Saesneg yn weddol gyffredin.  Tua 1920 newidiwyd yr adeilad i dri bwthyn a alwyd,

 

The Dry

 

Tŷ Newydd, Ger-y-Nant  a Brynawel ond mae’r enw, ‘Dry,’ wedi sefyll hyd heddiw.

 

Yn rhedeg o flaen Y Dry a heibio i eglwys Sant Barnabas mae Heol y Dram.

Yma roedd yna rheilffordd fach lle tynnwyd y dramiau, llawn o fwyn a cherrig  gan geffyl neu asyn i safle a alwyd, ‘Crusher.’  Yma chwalwyd y cerrig a tynnwyd y mwyn allan.  Yn y 1700fed ganrif camlas oedd yma a cludwyd y cerrig mewn badau.  Pan yn llawn roedd pwysau’r bad tua pum tunnell. 

 

Crusher 

 

Stryd y Pannau

Rhodfa Argall

Tŷ  Nantymwyn

Y ‘Dry

Teras Nantymwyn

Map

Nantybai

 

  ^Top^