Y Cysylltiad Americanaidd
William R Lewis a Jane ‘Jenny’ Lewis

Hanesion Jane ‘Jenny” Lewis a’r Barnwr William Lewis, Troed-rhiw-fer, Rhandir-mwyn
Ymchwiliwyd gan W. J. Richards (Florida, UDA) un o ddisgynyddion y teulu Lewis.

Dyma hanes disgynyddion Joseph ac Ann Lewis (Vipond cyn priodi), Troed-rhiw-fer, Rhandir-mwyn. Nid oes unrhyw fanylion pellach am Joseph Lewis.
Credir bod Ann Vipond wedi’i geni yn 1804. Efallai ei bod yn chwaer i William Vipond y mae hanes helaeth am ei fywyd yn America. Mae rhagor o wybodaeth am y teulu Vipond ar y wefan www.vieuxpont.co.uk .

Roedd gan Joseph ac Ann Lewis ddau o blant:
Thomas Lewis, a aned yn 1830.
Rhys ‘Rees’ Joseph Lewis, a aned ym mis Chwefror 1832 yn Rhandir-mwyn.
Ar 16 Tachwedd 1853, yng Nghil-y-cwm, priodwyd Rhys Joseph Lewis ac Anne Jones. Fe’i ganed hi yn 1832 ym mhlwyf Cil-y-cwm.

Ganed y plant a ganlyn iddynt:

i. Joseph R. Lewis  (1854)  
ii. Mary Lewis (1856).
iii. Ann "Annie" Lewis  (30 Tachwedd 1858)
iv. Jane "Jennie" Lewis (1862).  
v. Catherine "Kate" Lewis (3 Hydref 1864).
vi. William R Lewis (26 Chwefror 1867).
Ymfudodd y teulu i America ac ymgartrefu yn nhalaith Pennsylvania.  

Roedd Rhys Joseph Lewis, a fu’n gweithio yng ngwaith plwm Nant-y-mwyn, Rhandir-mwyn, wedi ymfudo i ardal Scranton er mwyn tyllu siafftiau.
Yn 1869, yn fuan ar ôl cyrraedd America, bu farw ei wraig Anne. Roedd hi’n 37 oed. Wnaeth e ddim ailbriodi a magwyd y plant ifainc gan ei ferch hynaf, Mary.  Bu farw Rhys ar 15 Mehefin 1887 yn Scranton, Pennsylvania.

Priododd yr holl blant a chodi teuluoedd, ac mae eu disgynyddion yn byw yn America.  Dyma hanes dau o’r plant, sef Jane ‘Jennie’ Lewis a William R. Lewis, a ddaeth yn ddinasyddion adnabyddus a pharchus yn Pennsylvania.

Roedd Jane yn weithgar iawn yn Urdd Seren y Dwyrain a Phlaid y Gweriniaethwyr. (Urdd Seren y Dwyrain yw'r sefydliad brawdgarol mwyaf yn y byd, ac mae hawl gan ddynion a menywod i fod yn aelodau ohono)
Mae'n bosibl taw Jane oedd y fenyw gyntaf i fod yn gynrychiolydd yng Nghynhadledd y Gweriniaethwyr. Roedd yn wraig fusnes nodedig.  Hi sefydlodd Lewis & Reilly, Inc. yn Scranton. Roedd hwn yn fusnes gwerthu esgidiau pwysig a ddechreuodd fasnachu ar 15 Rhagfyr 1888. Priododd ag Elias Evans yn hwyr yn ei bywyd, ac nid oedd ganddi unrhyw blant. Bu farw ar 17 Rhagfyr 1940 yn Scranton. Mae’r busnes yn dal mewn bodolaeth ac mae’r enw Lewis & Reilly yn bodoli hyd heddiw.

Ar 20 Mehefin 1894, priododd William R. Lewis â Josephine Lloyd, a aned yn Scranton ar 7 Medi 1869. Roedd hi’n ferch i Joseph D. Lloyd a’i wraig Hannah (Jones cyn priodi).  Graddiodd William o’r Ysgol Normal Daleithiol (Coleg Athrawon Taleithiol Bloomsburg erbyn hyn) yn 1886 a chwblhaodd y cwrs dwy flynedd mewn tri thymor am nad oedd ganddo ddigon o arian i dalu am y cyfnod llawn. Bu’n Brif Glerc y Llys o dan Thomas H. Dale.  Bu’n clercio yn swyddfeydd y gyfraith i’r Barnwr Gunter, y Barnwr Alfred Hand, a William J. Hand hyd nes iddo gael ei alw i’r bar yn 1893. Bu’n Dwrnai Sirol Lackawanna o 1901-1906.   
Am sawl blwyddyn, bu’n bartner gyda Herbert Taylor yng nghwmni Taylor & Lewis. Ceisiodd yn aflwyddiannus i fod yn farnwr, ond fe’i penodwyd i lenwi gweddill tymor y Barnwr Maxey gan y Llywodraethwr John Fisher ar 9 Rhagfyr 1930. Llwyddodd i gael ei ethol i ail dymor yn Farnwr yn y Llys Pleon Cyffredin yn 1932 (llofnodwyd ei gomisiwn gan y Llywodraethwr Gifford Pinchot) a bu farw o drawiad ar y galon, ar 17 Medi 1867, yn fuan ar ôl ymddeol o’r swydd. Gwelir portread ohono yn Ystafell Rhif 1 yn Llys Sirol Lackawanna yn Scranton.

Roedd yn gyfreithiwr a dyn busnes llwyddiannus iawn. Roedd yn berchen ar lofeydd yn Illinois ac, ar y cyd â’i chwaer Jane, roedd yn berchen ar fusnes Lewis & Reilly, Inc. Roedd iddo enw da am onestrwydd fel cyfreithiwr a barnwr. Fe’i ganed yng Nghymru, ond daeth i America pan oedd yn faban. Gallai siarad Cymraeg, roedd yn weithgar mewn cylchoedd Cymraeg ac roedd yn perthyn i’r Seiri Rhyddion. Byddai’n mynychu gwasanaethau crefyddol yn gyson hyd nes i’w blant gael eu geni, sef Hanna (1896) a Mary Lloyd Lewis (1898).
Wedyn, byddai’n treulio’r Sul yn gweithio o gwmpas y cartref ac yn cyflawni ei ddyletswyddau fel rhiant. Arferai gerdded i lawr y stryd â’i ddwylo y tu ôl i’w gefn. Nid oedd yn gyrru car, a byddai ‘Shink’ Davis, neu ei ferch Gertrude yn ei yrru o le i le.   
Rydym, yn ddiolchgar iawn i Bill am roi’r wybodaeth am y teulu Lewis. Mae yna lawer mwy, na chafodd ei gynnwys eto ar y wefan. Rydym wrthi’n creu coeden deulu ar gyfer y teulu. Os ydych chi’n ymchwilio i hanes y teulu Lewis o Randir-mwyn ac am wybod mwy amdano, byddwch cystal â chysylltu â’r wefan.