Y Cysylltiad Americanaidd
MORGAN B WILLIAMS
Dyma hanes y teulu Williams o Randir-mwyn. Y prif gymeriad yw Morgan B. Williams, aned yn Rhandir-mwyn ond a adawodd i chwilio am borfeydd brasach.  
Yn gyntaf, aeth i Awstralia, ond wedyn aeth i America lle ymgartrefodd yn y diwedd gyda’i briod o Randir-mwyn, Catherine Armstrong Jones. Adroddir yr hanes diddorol gan William R. Williams, un o ddisgynyddion y teulu Williams o Randir-mwyn. Mae’n byw yn Ohio, UDA.  

Rydym yn ddiolchgar i William (Bill) am rannu ei wybodaeth â ni.

Diolch yn fawr iawn.

Y TEULU WILLIAMS:  O RANDIR-MWYN I AMERICA
MORGAN B. WILLIAMS, BACHGEN LLEOL YN LLWYDDO YN AMERICA.  Byddai pennawd o'r fath yn swnio'n dda ar gyfer yr erthygl hon, ond ni fyddai'n gwneud cyfiawnder â fy nheulu Williams, a gafodd eu geni ac a fu’n gweithio ac yn byw ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn cyn dod i America. Daw’r bobl hyn yn fyw wrth i mi geisio rhannu eu llawenydd a’u tristwch, llwyddiant a methiant, balchder teuluol ac ysbryd anturus wrth adael eu Cymru annwyl i chwilio am fywyd gwell ar draws Môr Iwerydd. Aethant â’u profiad mwyngloddio i Awstralia, Pennsylvania, Canada a Mecsico Newydd a buont yn canlyn crefft ac yn masnachu yno, hefyd. Rwyf i’n fab i Americanwr Cymreig o Pennsylvania a ddaeth i Toledo, Ohio, lle cyfarfu a phriodi ag Americanes Gymreig - ac mae'n naturiol fy mod yn ymfalchïo yn fy nhreftadaeth Gymreig.
Mae’r stori’n dechrau gyda William Williams, a oedd yn rhannu f’enw ac a oedd yn Hen Hen Dad-cu i mi.  Fe’i ganed tua 1801, nid yn Sir Gaerfyrddin, ond fe aeth i weithio yng ngwaith plwm yn nhrefgordd Rhandir Abad (Rhandir-mwyn).  Yno, cyfarfu â merch leol, Rachel James, a phriodwyd y ddau yn Eglwys Llanfair-ar-y-bryn ar 23 Awst 1823 gan y ficer, William Morgan. Torrwyd llofnod gan William a gwnaed croes gan Rachel. Y tystion oedd Rich. Jones a Richard Morgan. Cafodd William ddyrchafiad i oruchwylio’r gwaith o glirio mwyn plwm yn Nant-y-mwyn . Addysgwyd ei blant yn ysgol Cil-y-cwm. Am eu bod yn Fethodistiaid Calfinaidd, bedyddiwyd ei ddau blentyn hynaf – Morgan, a aned 17 Medi 1831, a Mary, a aned 30 Hydref 1833, yn Nhŷ Cwrdd Cil-y-cwm .   Bedyddiwyd mab arall, Daniel, a aned 8 Rhagfyr 1835, yn Salem, Capel y Methodistiaid Calfinaidd.

Erbyn Cyfrifiad 1841, roedd y teulu’n byw ym Mhentwyn, Rhandir Abad (Rhandir-mwyn) gyda’r plant a ganlyn: Morgan (9 oed); Mary (7);  Daniel (5); Catherine (2), a William, fy Hen Dad-cu (4 mis).  Fe allai plentyn arall fod wedi ei eni ar ôl 1828, ac wedi marw yn ei blentyndod. Y plentyn olaf oedd John, yn 1843. Pan oedd Morgan yn ei arddegau cynnar, ymunodd â’i dad yn y gwaith mwyn. Roedd iechyd ei dad yn fregus a bu farw tua 1847.  Yn 16 oed, cymerodd Morgan le ei dad yn benteulu. Byddai ei frodyr, Daniel a William, yn ymuno ag ef yn y gwaith mwyn er mwyn helpu i gynnal eu mam weddw (pensiynwraig a ffermwr) a’u brodyr a chwiorydd iau.

Ailbriododd Rachel â William Theophilus a ganwyd mab, Timothy, iddynt ar 7 Tachwedd 1853. Bu farw ei hail ŵr o’i blaen hi, cyn 1861.  Roedd Timothy yn gweithio yn y mwynglawdd pan oedd rhwng 12 ac 20 oed. Yn 1856 hwyliodd Morgan i Awstralia i chwilio am aur. Daeth adref yn 1861 ac yn 1862 hwyliodd i America. Teithiodd William i Awstralia  yn 1864, i chwilio am aur yn Ballarat. Yno, priododd ag Elizabeth Campbell, o Glasgow yn yr Alban. Ganed tri o blant iddynt pan oeddynt yno, sef Rachel (1855), Thomas (1867) a William, fy nhad-cu, yn 1869. Ar ôl treulio bron 10 mlynedd yn Awstralia, daethant adref, cyn hwylio i America yn 1874.

Priododd Morgan â merch leol, sef Catherine, merch Joshua a Mary Armstrong Jones o Randir-mwyn. Daeth Timothy Theophilus i America yn 1873, i ymuno â’r teulu yn Wilkes-Barre, Pennsylvania. Dychwelodd am gyfnod byr i Gymru yn 1878, pan briododd â Sarah, merch Morgan a Sarah William Williams.  Ynglŷn â gweddill y teulu Williams, priododd Mary â Richard Davies, mwyngloddiwr, a ganed 3 o blant iddynt, sef Miriam  (1861), Elizabeth (1865) a Rachel. Pan fu farw Richard, roedd y teulu’n byw’r drws nesaf i Rachel ym Mhentwyn. Erbyn 1881, roedd  Miriam yn byw gyda Mam-gu, Rachel Theophilus. Daethant i America tua 1882. Priododd Mary â dyn â'r cyfenw Lewis ac arhosodd yng Nghymru. Roedd yn dal yn fyw yn 1904, a dyna’r cyfan a wyddom amdani. Priododd Catherine â David B. Thomas.  Ganed dau o feibion iddynt, sef John R. Thomas a D. V. Thomas. Daeth hithau i America, a phan oedd yn weddw priododd â David W. Evans, a oedd yn wreiddiol o Gymru. Daeth Daniel yntau i Wilkes-Barre. Ychydig a wyddys am John ar ôl 1861, pan ddywed cofnod y cyfrifiad ei fod yn 18 oed ac yn fab i fwynwr. Ni wyddys a ymfudodd ai peidio, ac ni chafodd ei restru yn ysgrif goffa ei fam yn 1887. Mae’n bosibl fod rhai o’r teulu James wedi ymfudo, ond nid oes tystiolaeth o hyn.
Bydd f’erthygl nesaf yn ymwneud â’r teulu Williams yn America, ynghyd ag ysgrifau coffa a fydd yn cynnwys gwybodaeth helaeth am William a Morgan, a fu’n llwyddiannus iawn yn America. Dechreuodd Morgan weithio fel mwyngloddiwr, a daeth yn berchennog mwynglawdd ynghyd â buddiannau mewn mwynglawdd graffit yng Nghanada. Roedd yn weithgar gyda’r Eglwys Bresbyteraidd Gymraeg (cyfrannodd $5000 tuag at y gost o’i hailadeiladu). Roedd yn hoff o gerddoriaeth, roedd ganddo lais canu da ac roedd yn aelod o’r Heights Glee Club pan oedd yn ddyn ifanc.  Cyfranogodd ym mhob agwedd ar fywyd cymunedol a llywodraethol a bu’n gwasanaethu yn Senedd Talaith Pennsylvania a Thŷ’r Cynrychiolwyr yn America. Yn ôl yr hanes, pan glywodd perthnasau yng Nghymru ei fod yn bwriadu ‘rhedeg am swydd’, dywedodd un ohonyn nhw ei fod yn rhy dew i redeg. Pan oedd yn aelod o'r Cynulliad, cefnogodd fesur i orfodi cwmnïau glofaol i dalu cyflogau bob pythefnos, a chefnogodd fesur dros gael gwared â siopau cyflogwyr. Mewn bywgraffiad ohono gan H.C. Bradby yn 1893, dywedir, “Mr Williams has become one of the most successful and influential Welshmen in the State of Pennsylvania.”

Fy Hen Dad-cu, William J. P. Williams, oedd y person mwyaf anturus.  Cymerodd ei deulu o Awstralia, i Pennsylvania ac yna i Oklahoma lle'r oedd ganddo ransh wartheg ac i Fecsico newydd lle bu’n oruchwyliwr glofa, cyn dychwelyd i Pennsylvania. Daeth yn oruchwyliwr Williams Coal Co. of Pottsville (Morgan's Co) ac wedyn yn oruchwyliwr mwynglawdd graffit yng Nghanada (Morgans hefyd) ac yn ôl unwaith eto i Wilkes-Barre, Pennsylvania. Yn ystod Streic Fawr y Golwyr yn 1876, ef oedd Llywydd Cymdeithas Glowyr Wilkes-Barre. Yn ddiweddarach, bu’n berchen ar siop gigydd, yn dosbarthu ffrwydron i fwyn gloddiau ac yn gontractwr mwyngloddio. Yn ystod contract o’r fath, fe’i lladdwyd yn 1904 pan gwympodd darn o graig o do mwynglawdd. Gobeithio, gyda’r holl enwau hyn sy’n gysylltiedig â Rhandir-mwyn y bydd modd cael hyd i ragor o gysylltiadau. Efallai y gall rhai o drigolion hynaf Rhandir-mwyn wneud y cysylltiadau hyn.  

Bydd yr ail ran yn ymwneud â’r teulu Williams yn America. Alun, yn fwy na thebyg, ni fyddaf byth yn ymweld â Chymru, ond mae’n rhoi boddhad i mi feddwl y bydd yr hyn ysgrifennais yn help i ddod â’r teulu Williams yn ôl i Randir-mwyn.  

William R. Williams ('R' am Rowland, sef cyfenw cyn priodi fy Mam-gu ar ochr fy nhad, o Ogledd Cymru).
Y TEULU WILLIAMS YN AMERICA

Treuliodd  Rachel (James) Williams Theophilus bum mlynedd olaf ei bywyd yn Nanticoke, Pennsylvania, gyda’i merch, Catherine a’i hail ŵr, David W. Evans, a oedd yn fforman gyda Chwmni Glo Susquehanna am 22 blynedd.  Bu farw Rachel ar 28 Awst 1887. Fel llawer o aelodau eraill y teulu, fe’i claddwyd ym mynwent Hollenback ar ôl gwasanaeth yn yr Eglwys Bresbyteraidd Gymraeg. Bu farw ei merch, Catherine yn 66 oed yn 1903, gan adael dau fab, sef John R. Thomas a’r Cynghorydd D. V. Thomas. Priododd Miriam Davies, wyres Rachel, â Wm. J. Davies, a bu iddynt dri o blant, sef Mary, Emily a Miriam. Bu farw yn 38 oed wrth roi genedigaeth. Bu farw Morgan yn 1903 a William yn 1904. Roedd brawd Morgan, Daniel yn adeiladydd a chontractwr yn Scranton, Pennsylvania. Roedd eu hanner brawd, Timothy Theophilus, yn gontractwr twnelau a gwasanaethodd sawl tymor yn Gynghorydd. Dychwelodd i Gymru, priododd ferch o Randir-mwyn ac aeth yn ôl i America.  

Byddai Morgan B. Williams, y mab hynaf yn dyrchafu ei hun o fod yn löwr i fod yn berchennog glofa, yn Seneddwr Talaith ac yn aelod o Dŷ’r Cynrychiolwyr.  Ei wraig gyntaf oedd Catherine, merch Joshua a Mary Armstrong Jones o Randir-mwyn, a bu iddynt dri o blant, sef Mary (Mrs. T.H. Griffiths), Rachel (Mrs. J.H. Williams o Scranton) a Benjamin F.  Ail wraig Morgan B. Williams oedd Mrs. Mary Edwards Davies, a bu iddynt un mab, sef  William. Mae’r ysgrif goffa sydd ynghlwm yn llawn canmoliaeth iddo.

Ganed tri phlentyn cyntaf Wm. J.P. Williams (Thomas, Rachel a William) yn Awstralia.  Eu tad oedd brawd ieuengaf Morgan. Dychwelodd Wm. J.P. Williams i Fecsico Newydd sawl gwaith. Ganed ei fab Daniel yn Pennsylvania a mab arall, Morgan, yn Mecsico Newydd. Pan oedd yn Mecsico Newydd, priododd ei ferch, Rachel, a oedd yn athrawes, ag Ed. Edleman, siryf, ac arhosodd yno pan ddychwelodd y teulu i Pennsylvania.  Bu farw yn 1902. Lladdwyd William pan fu cwymp mewn mwynglawdd yn 1904. Mae ei ysgrif goffa yntau yn helaeth. Bu farw ei weddw (Hen Fam-gu) tua 1924. Ni wyddys fawr ddim am y meibion Morgan a Thomas, a fu’n aelod o’r Bwrdd Archwilio Glofaol. .  

Ei fab William P (g.1869) oedd fy nhad-cu, a fu’n ddofwr ceffylau pan oedd yn ifanc ac yn sgowt yn Oklahoma cyn i’r teulu ddychwelyd i Pennsylvania. Bu’n gwasanaethu ar fwrdd llong ryfel, yr ‘USS Indiana’ yn ystod y rhyfel rhwng Sbaen a’r Unol Daleithiau ac arwisgwyd ef am ddewrder yn ystod Brwydr Bae Santiago. Tua hanner can mlynedd yn ddiweddarach, roeddwn innau’n gwasanaethu ar fwrdd y llong ryfel ‘USS Wisconsin’ yn ystod Rhyfel Corea.) Ar ôl gadael y Llynges, cyfarfu â fy Mam-gu, Ellen Rowland, (g.1877) a oedd wedi gadael Gogledd Cymru yn 10 oed. Bu William P. yn gweithio i’w dad ac yn cario ffrwydron i’r mwyngloddiau â cheffyl a chert. Yn ystod eu carwriaeth, fe’i cymerodd hi gydag ef yn ystod un o’i deithiau â ffrwydron. Mae’n amlwg fod Mam-gu yn ddynes nodedig.

Symudodd y teulu o Wilkes-Barre i Kingston. (Yn anffodus, cafodd eu holl luniau eu dinistrio mewn llif). Roedd ganddynt dri o blant: William, (g.1900) Sydney, fy nhad (g.1902) ac Ellen (g. 1916). Yn y 1920au cynnar, daeth fy nhad i Ohio lle agorodd siop fwydydd yn Toledo. Un diwrnod, daeth William J. Hughes, saer, at y cownter a darganfu’r ddau eu bod yn rhannu etifeddiaeth Gymreig. Roedd teulu Mr Hughes yn dod o Benderyn ac roedd teulu ei wraig,   Ursula Morgan, wedi dod o Forgannwg, yn 1872, i Jackson County, Ohio. Roedd e’n dal i ddarllen ei Feibl Cymraeg. Gwahoddwyd Pops i gapel y Methodistiaid ac i ginio dydd Sul. Mae’n werth nodi fod gan fy nhad-cu chwe merch, dwy ohonynt o oed priodi. Priododd fy nhad a fy mam, Anna Hughes (g.1906) yn 1928 (Toledo, Ohio). Roedd gan f'ewythr Bill, plymwr,  (g.1900) a’i wraig Martha un ferch, Margaret, a briododd â Raymond Dukinas. Bu farw Wncwl Bill yn 1977. Priododd fy modryb Ellen (g.1916) â William Nast o Kingston, ac roedd ganddynt dri mab, sef William a gefeilliaid, Richard a Robert.

Modryb Ellen oedd yr aelod olaf o deulu fy nhad.  Roedd yn rhannu fy niddordeb mewn coeden deulu a bu o gymorth mawr i mi.  Bu farw yn 2003. Bu farw fy mam yn 1970 yn 64 oed, a bu farw fy nhad yn 1978 yn 76 oed..   Bu farw Dad-cu Wm yn 1945 yn 76 oed a Mam-gu Ellen yn 1971 yn 94 oed. Roedd Tad-cu Hughes yn 91 oed pan fu farw yn 1962. Teimlaf fy mod wedi helpu’r teulu Williams i gwblhau cylchdro o ddwy ganrif a dod adref unwaith eto i Gymru.  Byddaf yn dal i chwilio am ragor o berthnasau yng Nghymru a Pennsylvania. Mae’n debyg fod Hen Hen Dad-cu William wedi marw ym mis Mawrth 1847, ond ni chefais unrhyw lwyddiant yn dod o hyd i dystysgrif marwolaeth na man claddu. Gallai cael hyd i fan ei eni ddatgelu pwy oedd ei rieni. Hefyd, hoffwn wybod beth ddigwyddodd i Mary a John Williams a chael gwybodaeth am y teulu James er mwyn ychwanegu pennod arall.

Cofion William R. Williams (Bill)

Annwyl ddarllenwyr, byddwch cystal â derbyn f’ymddiheuriadau os wyf heb gynnwys rhywun.  Wrth i’r goeden dyfu, mae’n mynd yn anos dal i fyny â’r holl ychwanegiadau.
OS OES GENNYCH YCHWANEGIAD AT EIN COEDEN DEULU, A FYDDECH CYSTAL Â THROSGLWYDDO’R WYBODAETH I MI.
Gallwch adael unrhyw wybodaeth ar ein tudalen i westeion neu wrth gysylltu â ni trwy e-bost alun@rhandirmwyn.net  a throsglwyddwn yr wybodaeth honno i  William (Bill) Williams.