|
|||||||||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||||||||
|
|
Ffermio
Ffermio ar wahân i mwyngloddio, ffermio oedd y prif alwedigaeth yn yr ardal. Magu defaid fel heddiw oedd y brif waith ond hefyd plannwyd llysiau a gwenith. Roedd bywyd yn galed a roedd rhan helaeth o ffermwyr yn llwm. Yn aml i ychwanegu at incwm o’r fferm hirwyd ceffylau a ceirt i gwmni’r gwaith mwyn i gludo plwm a sinc i Lanymddyfri. Roedd diwrnod cneifio yn ddiwrnod pwysig iawn i’r ffermwyr, ac i’r gymuned. Diwrnod o waith ond hefyd amser i sgwrsio a mwynhau cwmni ffrindiau a chymdogion. Doedd hi ddim yn ddoeth i gweryla gyda’ch cymdogion neu fyddai diwrnod cneifion yn ddydd unig dros ben. Rydym wedi cynnwys lluniau o, ‘ddiwrnod cneifio,’ ond mae llawer mwy i ddod.
|
||||||||||||||||||||||||