English

Cymraeg

 

 

 Hafan

 Rhandirmwyn

 Tom Lewis

 Oriel Llunian

 Media

 Mwyngloddio

 Yr Hen Ysgol

 Barcud Coch

 Llyn Brianne

 Yr Amerig

 Cysylltiadau

 Cysylltwch

Newydd

 

 

Croeso i’n gwefan sydd wedi ei neilltuo i hanes Rhandirmwyn a blaenau Tywi, Sir Gaerfyrddin, Cymru.  Ein bwriad yw crynhoi gwybodaeth, chwedlau a lluniau o’r oes a fu hyd at y presennol.  Os medrwch gyfrannu trwy gyflwyno storïau, chwedlau diddorol neu luniau rhowch alwad i ni

 

Tom Lewis 1878 – 1950.  Ganwyd ym Mryntowy, Rhandirmwyn, ffotograffydd o fri a adawodd gasgliad gwerthfawr o luniau o Gwm Tywi a’i phobl yn nechrau’r ganrif ddiwethaf. 

 

Gwaith Mwyn Nantymwyn – y mwyaf yn ne Cymru.  Gwelwch fapiau, lluniau o dai a strydoedd sy’n gysylltiedig â’r gwaith mwyn ar y wefan.  Bwriedir yn y dyfodol ychwanegu at y casgliad yma o luniau a chyflwyno hanes cyflawn o’r gwaith mwyn ynghŷd â dyfyniadau allan o stori mwynwr a weithiodd yno ar ddechreuad y ganrif ddiwethaf.

 

Yr Hen Ysgol.  Er tristiwch i drigolion Rhandirmwyn, caewyd ysgol y pentref yn 1969.  Chwaraeodd yr ysgol ran bwysig iawn ym mywyd yr hen bentref.  Gwelwch y lluniau a darllenwch yr hanes.  Mae yna lawer mwy i ddod.

 

Y Barcud Coch  Ysgrifenwyd  llawer am yr aderyn yma oedd ar un adeg bron diflannu o’r  wlad ar wahan i’r ychydig  a fodolai ym mlaenau Tywi yn ardal Rhandirmwyn.  Sefydlwyd dwy warchodfa, sef Dinas a Gwenffrwd i geisio sicrhau diogelwch i’r adar prin yma.  Bu’r ymgais yn un llwyddiannus dros ben. 

 

Cronfa Ddŵr Llyn Brianne  Agorwyd y safle yn swyddogol ar y 15fed o Fai 1973.  Fe welwch hanes y gwrthwynebiad, yr ymchwiliad swyddogol, cynlluniau ac hefyd lluniau.

 

Cysylltiad â’r Amerig  Aeth llawer o drigolion Rhandirmwyn i fyw yn yr Amerig yn y ddeunawfed ganrif.  A ydych yn chwilio am aelodau o’ch teulu a ymfudodd yno?  Hoffwn glywed eich stori.

 

Cyswllt Hoffem glywed eich barn ar y wefan yma.  A oes gennych gyngor neu gwynion?  Hoffwn glywed oddi wrthych.

  ^Top^