|
|||||||||||||
|
|
|||||||||||||
|
|
Tom Lewis
Bryntowy, Rhandirmwyn
(1878 – 1950)
Ar ôl rhai blynyddoedd aeth i Lundain i fyw a sefydlodd yno siop ddillad ei hun. Treuliodd Tom gweddill ei fywyd yno ond ddaeth yn ôl yw gartref teuluol yn Rhandirmwyn yn aml. Ar nos cyn Y Nadolig 1919 mi briododd a merch o’r enw Joyce. Nyrs oedd hi ac yr oedd yn ferch brydferth ac yn aml fe ymddangosai yn ei luniau wedi ei gwisgo mewn dillad hardd a het fawr. Cawsont ddau o blant Monica a Myfanwy.
Er ei fod yn byw yn Llundain ei bleser mawr oedd gyrru ei deulu i Rhandirmwyn a threulio ei gwyliau yno. Dywed Monica ei farch am y siwrnai hir o Lundain i Fryntowy yn y ‘Bullnose Morris,’ weithiau am 10 i 12 awr ac yn aml yn cyrraedd yn oriau bach y bore. Ond dywed ei fod yn werth pob munud am fod Rhandirmwyn yn le mor wyrthiol.
Heblaw ei deulu roedd gan Tom ddau ddiddordeb mawr yn ei fywyd. Pysgota a tynnu lluniau. Yr oedd yn hoff iawn o fynd i fyny i gwm Tywi gyda’i wialen bysgota a chamera a threulio diwrnod yn dal ambell eog a thynnu lluniau o’r awyrgylch brydferth.
Roedd Tom yn ŵr busnes a welodd gyfle i wneud arian drwy gwerthi ei luniau fel cardiau post yn y siop fach ym Mryntowy. Gan wneud hyn mi adeiladodd gasgliad darluniadol o fywyd a ardal blaenau Tywi dros ddechreuad yr 20 fed ganrif. Aeth y cardiau post dros y byd i gyd, yn enwedig Yr Amerig lle ymfudodd llawer o bobol Rhandirmwyn yn cynnwys ei frawd.
Mae cyfraniad Tom Lewis o gofnodi hanes cymdeithasol blaenau Tywi erioed wedi ei gydnabod. Cymerodd luniau o ardaloedd arall hefyd yn enwedig Llanymddyfri a Cilycwm. Dylwn fod yn falch iawn ac yn ddiolchgar iddo.
Fel teyrnged iddo rwyf wedi cynnwys oriel o’i waith a alwyd, ‘Oriel Tom Lewis.’ Wrth edrych ar y casgliad welwch pa mor bwysig yw ei gyfraniad i ein hanes. Fi farw yn Llundain yn 1950.
Diolch i ei ferch Monica Barnes am adael i mi ddefnyddio ei chasgliad o’i luniau.
Alun Jones
|
||||||||||||