Llyn Brianne
Cronfa Ddŵr Llyn Brianne

Doedd neb ohonom wedi clywed y gair ‘Brianne’ hyd nes i’r gronfa ddŵr gael ei chodi.  Mewn gwirionedd, tarddiad yr enw yw nant fach a elwid yn ‘Nant y Bryniau’. Rhyfedd meddwl sut y cafodd y fath enw llygredig â ‘Brianne’ ei fathu.  Yn lleol, y farn yw bod rhywun wedi camsillafu’r gair ‘Bryniau’ - sy’n ddigwyddiad cyffredin pan nad yw pobl yn gyfarwydd â'n hiaith.  Yn anffodus, mae’n rhy hwyr i ni unioni'r cam erbyn hyn, a rhaid i ni dderbyn ‘Brianne’.  Credaf y buasai ‘Llyn yn y Bryniau’ wedi bod yn enw harddach o lawer – ac yn enw disgrifiadol iawn, hefyd.

Pan ddechreuwyd trafod y syniad o godi cronfa uwchben y pentref, cafodd y bobl a oedd yn byw yn is i lawr y dyffryn eu brawychu.  Cofiaf fy mam yn gofidio y gallai wal yr argae chwalu gan achosi llif ofnadwy.  Mae’n siŵr taw bod ag ofn yr anhysbys oedd hyn.  Cafwyd cryn wrthwynebiad (40) ac ym mis Rhagfyr 1966 cynhaliwyd Ymchwiliad Cyhoeddus i benderfynu'n derfynol ynglŷn â chodi cronfa.  Ar 3 Gorffennaf 1968 daeth Gorchymyn Bwrdd Dŵr Gorllewin Morgannwg (Llyn Brianne) i rym, a oedd yn golygu rhoi caniatâd i greu cronfa ddŵr.  Mae’n debyg fod hyn yn anochel o dan yr amgylchiadau.  Yn fwy na thebyg, un o'r prif ystyriaethau oedd na fyddai’r gronfa’n tarfu ar fywydau fawr neb.  Byddai’n boddi un fferm wag, Y Fannog,  a phlanhigfa fawr o  gonwydd.
 
Serch hynny, cafwyd gwrthwynebiad chwyrn i'r gronfa, ac ni pheidiodd brwydr William a Jane Jones, Fferm Troedrhiwruddwen.  Collodd y ddau ddarn bach o dir drwy brynu gorfodol, ac roedden nhw’n rhagweld y byddai eu cymdogaeth hardd yn newid yn llwyr.  Gallaf ddeall eu gwrthwynebiad, ac mae llawer hyd y dydd heddiw yn flin na lwyddodd y ddau yn eu brwydr ac atal y gronfa rhag cael ei chodi.  Mae llawer ohonom yn cofio’r dyffryn cyn y coedwigo a’r gronfa ddŵr.  Roedd yn lle bendigedig. (Edrychwch ar y lluniau o’r Fannog yn oriel luniau Tom Lewis).

Yn fuan, fodd bynnag, roedd y ffyrdd yn cael eu lledu ac roedd peiriannau trymion yn treiglo drwy'r pentref yn ddyddiol.  Doedd y lle erioed wedi gweld y fath olygfa. Mewn sawl ffordd roedd hi’n sefyllfa frawychus.  Symudodd dieithriaid ag acenion amrywiol i mewn i dai’r pentref a’r ardal oddi amgylch.  Roedd Llanymddyfri yn llawn o beirianwyr a gweithwyr adeiladu.  Roedd hyn yn fanteisiol i fusnesau lleol ac ymhen fawr o dro roedd bywyd y pentref wedi newid yn llwyr.  Ond roedd llawer yn dyheu am weld yr hen fywyd yn dychwelyd.  Bob dydd byddai rhesi o lorïau Wimpey melyn mawr yn teithio i fyny un ochr y dyffryn ac yna'n dychwelyd yr ochr arall, gan gario popeth i’r safle.  Deuai llond bysiau o bobl i weld yr argae mwyaf o’i fath yn Ewrop yn cael ei godi.  A fyddai bywyd byth yn dychwelyd i'r hyn ydoedd?

Ar 15 Mai 1973 agorwyd y gronfa yn swyddogol gan y Dywysoges Alexandra.  

Unwaith y diflannodd y peiriant olaf o olwg y dyffryn, dechreuodd bywyd ddychwelyd i raddau i’r hyn y bu.  Roedd y lle’n dawel unwaith eto.  Yn yr hen ddyddiau deuai pobl i weld ogof Twm Siôn Cati, ond nawr roedden nhw'n dod i weld y gronfa ddŵr newydd  ac roedd y ffyrdd newydd yn golygu bod modd gyrru drwy Fynyddoedd Cambria i Dregaron a thu hwnt.

Yn ddiamheuol, mae’r gronfa wedi bod yn llwyddiant mawr.  Mae wedi darparu dŵr i Orllewin Morgannwg yn ogystal ag i ardaloedd eraill.   Ar brydiau mae lefel y dŵr wedi gostwng yn sylweddol, fel y gwelwch yn y llun o ffermdy’r Fannog a ddaeth i’r golwg o’i fedd dyfrllyd.  Pan ddigwyddodd hyn, daeth cannoedd o ymwelwyr i ddringo dros y gweddillion.  A gosododd rhywun arwydd yn datgan fod y lle ar werth.  Ni chafwyd unrhyw gynigion oherwydd ymhen fawr o dro diflannodd y Fannog unwaith eto o dan y dŵr.

Os byddwch chi’n ymweld â Llyn Brianne y dyddiau hyn fe fyddwch chi’n sylwi ar dawelwch a llonyddwch y lle.  Ambell waith mae’r awyrgylch yn annaearol.  Sefwch ar wal yr argae ac fe fyddwch chi’n sylweddoli pa mor enfawr yw'r adeiladwaith.  Cafodd ei newid oddi ar 1973.  Bellach gall ddal rhagor o ddŵr a chafodd gorsaf hydro-electrig ei chodi wrth droed y wal.  Mae’n dal i reoli llif y dŵr yn afon Tywi, ac mae’r dŵr o’r gronfa yn llifo’n gyson i gartrefi a diwydiannau De Cymru.