English

Cymraeg

 

 

 Hafan

 Rhandirmwyn

 Tom Lewis

 Oriel Llunian

 Media

 Mwyngloddio

 Yr Hen Ysgol

 Barcud Coch

 Llyn Brianne

 Yr Amerig

 Cysylltiadau

 Cysylltwch

Newydd

 

 

Stryd y Pannau

Rhodfa Argall

Tŷ  Nantymwyn

Y ‘Dry

Teras Nantymwyn

Map

Nantybai

 

 Mwyngloddio

 

Gwaith Mwyn Nantymwyn

 

Fydd ymwelwyr i Rhandirmwyn heddiw yn methu credi fod lle mor brydferth yn ardal ddiwydiannol brysur prun dros ganrif yn ôl.  Roedd Gwaith Mwyn Nantymwyn yn un o’r gweithfeydd mwyaf a chynhyrchiol yn ne Cymru ac ar un adeg roedd 400 o bobol yn gweithio yno.  Credir mae y Rhufeiniaid  a ddechreuodd y mwyngloddio ond yn yr oes fodern mae yna dystiolaeth fod yna gynhyrchu yma yn 1304 ond yr oes aur oedd yn ddiweddar yn y 17fed ganrif a dechrau y 18fed ganrif pan allanwyd dros 100,000 dunnell o blwm a 500 tunnell o sinc.  Ar ôl llawer o ansicrwydd caewyd y gwaith yn 1932.  Dim ond adfeilion sydd ar ôl yno yn nawr.

 

 

Yn sefyll goruwch i’r gwaith mwyn a’r pentref mae yna frigiad mawr a alwyd Pen Cerrigmwyn ac mae’n atgof parhaol o’r oes a fi.  O dan Pen Cerrigmwyn digwyddodd rhan helaeth o’r mwyngloddio.

 

 

Mae adfeilion o’r hen waith yma o hyd ac mae ogofäwyr o bryd i bryd wedi bod i fewn i’r hen waith.  Deallaf fod llawer o ddŵr tu mewn a felly mae’n le peryglus dros ben i fynd iddo.

 

Stryd y Pannau

Rhodfa Argall

Tŷ  Nantymwyn

Y ‘Dry

Teras Nantymwyn

Map

Nantybai

 

  ^Top^