Gwaith Mwyn Nantymwyn
Felly, fe gludwyd deunaw llwyth o fwyn ar y dydd hwn yn dod i gyfanswm o 26 tunnell 2 gant
0 chwarter o bwysau o Nant-y-bai i Lanymddyfri.  Byddai Thos. Harries, Gwynfaes, am y ddau lwyth a gariodd, yn ennyll:
            t    c     q
          04   10    0        @ 5/10 per ton  = £1. 6. 3.  (£1.31)

Am ei ymdrechion, a byddai Jas. Lloyd, Troedrhiwfer, ond yn cael:

            t    c    q
           0   12    0        @ 5/10 per ton = £0.3.6. (17 pence)
Octavius  & Margaret Davies
Ni theimlai pawb yn besimistaidd ynglŷn â dyfodol y gwaith serch hynny ac un a deimlai’n hyderus bod dyfodol iddo oedd Mr Octavius Davies o’r Hen Siop ger sgwâr y pentre, gŵr mae llawer o drigolion hŷn y pentre yn ei gofio ef a’i wraig yn dda.  Bu ef a rhyw saith o weithwyr yn gwneud profion o dan ddaear rhwng 1908 a 1911.  Wedyn yn 1914, sicrhawyd y brydles gan Joseph Argall, gŵr a fu’n rheolwr ar y gwaith yn y 1890’au ac a anrhydeddwyd trwy gael stryd o dai, Argall Avenue, wedi ei henwi ar ei ôl yn y pentre.  Yn y flwyddyn ganlynol trosglwyddwyd wŷd y brydles i Nantymwyn Mine Ltd. A nhw bu wrthi am ddeng mlynedd a rhagor yn rhedeg y gwaith gyda’r gweithlu yn amrywio o 33 i ddim.

Ym 1925, dangoswyd diddordeb yn y gwaith gan y Sulphide Corporation, cwmni a lyncwyd yn ddiweddarach gan Rio Tinto Zinc.  Yn ogystal â phlwm, roedd gan y cwmni hwn ddiddordeb yn y sinc gogyfer a’i smelter sinc yn Seaton Carew.  Roedd gobeithion y cwmni’n uchel gan fod sylffid sinc (sffalerit) fel arfer i’w ddarganfod lle mae presenoldeb uchel o galena ac yr oedd y broses arnofiant, a oedd erbyn hyn yn un effeithiol iawn, yn cynnig gwell adferiad o blwm a sinc na’r ben ddulliau a ddibynnai ar ddisgyrchiant.  Adeiladwyd melin arnofiant (Flotation Mill) a fedrai drafod 125 tunnell y dydd a suddwyd y Siafft Newydd rhyw ganllath a hanner i’r gogledd-ddwyrain o Siafft Angred.  Malwyd 6,615 o dunelli gan ennill 165 tunnell o blwm a 529 tunnell o grynodeb sinc (zinc concentrates).  Roedd y costau o redeg y felin yn uwch na’r disgwyl a phris plwm a sinc, ill dau, yn werth tua £35 y tunnell ac ar ben hyn daeth dirwasgiad difrifol 1931-32.  Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, i waethygu’r sefyllfa’n fwy byth profodd datblygiad pellach yn siomedig iawn oherwydd ar ôl clirio’r Lefel Fad Ddofn ym 1931 gan ddisgwyl dod o hyd i ddyddodion da o sylffid sinc, cafwyd bod braidd dim yno y gellid ei weithio ac ym 1932 rhoddwyd y gorau i’r fenter a gadawsant y lle.  Yn y modd hwn y caewyd pennod hir yn hanes diwydiannol pentre Rhandirmwyn.

Dafydd Dafis.
Tŷ’r Ysgol
Rhandirmwyn.
Yr Hen Waith Mwyn - Nant-y-Mwyn
gan Dafydd Dafis

Mae ymwelwyr a newydd-ddyfodiaid i’r ardal yn ei chael hi’n anodd i dderbyn bod Rhandirmwyn, o ystyried prydferthwch naturiol a chymeriad amaethyddol y lle, wedi bod yn bentref diwydiannol prysur hyd at 30au’r ganrif hon.  Yn ffodus, cuddir y rhan fwyaf o olion hagr y diwydiant hwnnw tu ôl i fryniau coediog a llethrau grugog mewn llecyn does fawr neb yn ymweld ag ef, a’r unig sŵn a glywir yno heddiw yw bref y ddafad a chrawc y gigfran.  Y canlyniad yw bod y mwyafrif mawr o’r miloedd sy’n ymweld a Llyn Brianne bob haf yn anymwybodol o’r cefndir diwydiannol yn hanes datblygiad y pentref.

Lleolir y rhan fwyaf o’r hen waith mwyn yng nghwm Nant-y-bai sydd yn tarddu yng Nghefn-Ystradffin ac yn rhedeg tua’r de-orllewin i gwrdd a’r afon Tywi tua hanner ffordd rhwng pont Pwllpriddog a phont Bronvwrt.  Serch hynny, yr enw a roddwyd i’r gwaith oedd Nantymwyn, nant sy’n codi ym Mhencerrig-mwyn ac yn rhedeg trwy ganol y pentref, ac y mae’n wir i ddweud bod rhai siafftau a lefelau ar y llethrau uwchben y pentref a gerllaw y tai.

Cloddiwyd cyfanswm sylweddol o fwynhau metelifferaidd anfferrus o greigiau Silwraidd ac Ordofigaidd canolbarth Cymru o’r gyfnod Rhufeinig hyd at ddechrau’r ganrif bresennol, ac yn ôl G. W. Hall (1971), Nantymwyn oedd y gwaith metel pwysicaf yn neau Cymru ac eithrio Ogofau Pumsaint, oherwydd y swm o fwyn plwm a godwyd yno.

Mwynau mwyaf cyffredin y canolbarth yw sylffid plwm (galena,PbS) a sinc (sffalerit ZnS) ond yn gysylltiedig â’r rhain ceir swm llai o fwynau arian a chopr.  Am gyfnod hir yn hanes gweithfeydd y canolbarth, gan gynnwys Nantymwyn, dim ond arian a phlwm a dynnwyd ymaith gan ddiystyru sinc nes i’r alwad am haearn galfanedig gynyddu ym 1850.

Y tebygrwydd yw mai’r Hen Wythïen, sydd yn dod i’r brig ger copa Pencerrig-mwyn (cyfeirnod map SN 790 444) tua 1250 troedfedd uwch lefel y môr, oedd yr un gyntaf i’w darganfod a’i gweithio.  Yn ôl map John Rolley, a baratowyd cyn 1800, dywedir bod y wythïen hon wedi ei darganfod gan y Rhufeiniaid ond ni wyddys am dystiolaeth i gefnogi’r honiad.  Y tirfeddiannwr, yr Arglwydd Cawdor, oedd yn rhedeg y gwaith bryd hynny a Rolley oedd goruchwyliwr ei ystad yn Rhandirmwyn.  O ystyried y cymhlethdod o gloddio a thwnneli a geir ar fapiau’r cyfnod mae’n bur debyg bod cloddio am fwynau wedi bod yn mynd ymlaen yma am gyfnod hir iawn cyn i’r mapiau gael eu llunio.  Yn y cyfnod hwn, yr enw ar y gwaith oedd Cerrir-mwyn ac fe welir llun dyfrliw gan John Warwick Smith, a ddyddiwyd 1792, yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, yn dangos llun o’r gwaith gyda olwyn ddŵr wrth enau’r Lefel Fad Uchaf.

Gwyddys bod y gwaith yn un llewyrchus yn ystod y cyfnod o 1775 hyd at 1823.  Dengys y cyfrifon am y blynyddoedd o 1775 i 1797 (sydd ymhlith Papurau Cawdor a gedwir yn swyddfa Archifau Sir Gaerfyrddin) y ffigurau am y mwyn a godwyd bob blwyddyn yn ystod y cyfnod a’r elw blynyddol a wnaed.  Roedd y costau o redeg y gwaith yn ystod y blynyddoedd hyn yn dod i £126,000, cyflogwyd hyd at 400 o weithwyr a chodwyd 30,000 o dunelli o fwyn.  Roedd yr elw yn amrywio o £12,526.13.11 yn y flwyddyn 1779, i £320.12.6 ym 1797.  Am y 23 mlynedd o dan sylw roedd yr elw blynyddol ar gyfartaledd £3,770, elw a ddaeth a chyfoeth mawr i’r Arglwydd Cawdor.

Bu John Rolley farw ym 1805 ac fe ddaeth gŵr o Gernyw yn ei le, gŵr o’r enw Joel Williams.  Er bod pethau’n anoddach oherwydd lleihad yn y mwyn a gloddiwyd, llwyddwyd i gynhyrchu rhwng 300 a 500 tunnell y flwyddyn yn ystod ei deyrnasiad ef, ond ym 1823, mae’n debyg i Williams gael ei ddiswyddo ac yn fuan wedyn penderfynodd yr Arglwydd Cawdor, am nad oedd y gwaith yn gwneud yr elw yr arferai fwynhau, i roi’r gorau iddi a mynd ati i brydlesu’r gwaith.  

Bu’r gwaith wedyn o dan ofalaeth gwahanol gwmnïau nes iddo syrthio i ddwylo’r Meistri Williams o Scorrier House, ger Redruth, ym 1836 a bu’r brydles yn eu meddiant nhw wedyn hyd at 1900.

Ym Mhapurau Cawdor mae’r nodyn credid hwn sydd yn ymwneud â’r tal a oedd yn ddyledus i’r Iarll Cawdor am y cyfnod o chwe mis yn diweddu ar y dydd olaf o Ragfyr 1867

Cr. Earl Cawdor for Lead and Lead Ore
Dues sold 6 months to end December 1867
1867
Aug 6
Tons @ 100
£12.17.6 per ton
£1287.10.0
Sept 3
Tons @ 100
£12.19.6 per ton
£1297.10.0
Oct 4
Tons @ 100
£13.3.0 per ton
£1315. 0.0
Nov 4
Tons @ 100
£12.16.6 per ton
£1282.10.0
Dec 23
Tons  100 @
£12.7.5 per ton
£1237.10.0
__________
£6420.  0.0
Potter’s Ore  4 tons @ £18
72.  0.0
__________
         £6492.  0.0
Deduct
Carriage of ore to Llandovery
500 tons @ 5/10 per ton
£145.16.8
Man at Llandovery looking after
Ore Yard 6 months @ £3.5.0
£19.10.0
Stamps for Bills, discounts toBuyers etc
£8. 1.4
                     £8. 1.4           
£173. 8.0
___________
Due @ 1/12 *  
£6318.12.0
           526.11.0
1868 Feb 17     To Draft       526.11.0
acknowledged 29 Feb. 1868    T Mit  (T Mitchell).

Roedd y deuddegfed ran* o bris y mwyn, ar ôl diddwytho’r gost o’i gludo i Lanymddyfri a mân gostau eraill, yn ddyledus i’r Iarll Cawdor ac yn dod i £526 am y chwe mis, £206 yn fwy nag a wnaethpwyd o elw gan yr Iarll am flwyddyn gyfan yn 1797, a felly roedd manteision i’r ystad o brydlesu’r gwaith.

Fel y gwelwch, y tâl am gludo 500 tunnell o’r mwyn am 5/10 (29c) oedd £145.16.8 (£145.83p).  Cludwyd y mwyn i Lanymddyfri ar hyd heolydd gwael gan ffermwyr lleol yn defnyddio ceffyl a chart ac y mae’n siŵr y byddai’r tâl yn dderbyniol iawn fel ychwanegiad at incwm ffermwyr yr ardal yr adeg honno.  Cedwid manylion dyddiol o’r cludwyr mwyn. Eu henwau, enw’r fferm a’r pwysau o fwyn a gludwyd ganddynt.  Cofnodwyd y cyfan mewn llawysgrifen ardderchog mewn cyfrolau trwchus wedi’u rhwymo’n dda â chlawr caled.  Mae’r cyfrolau hyn ar gael o hyd yn archifau’r sir a gan fod y nodyn credid yn ymwneud â’r cyfnod Awst – Rhagfyr 1867, dewisais ddiwrnod ym mis Awst 1867; y 15ed.

Carriage of Lead Ore
1867      August 15      
tons
cwt
qrs
Thos. Harries, Gwynfaes  
2
5
0
David Davies, Pantllech
2
4
0
David Price, Penrhiwfach  
1
2
0
Dd. Davies, Pantllech
2
4
0
Thos. Harries, Gwynfaes
2
5
0
David Price, Penrhiwfach  
1
2
0
Jas. Lloyd, Troedrhiwfer
12
0
David Harries, Senr. Penlan
19
0
Isaac Thomas, Penrhiwronnen
1
16
0
John Meredith, Pendrainllwyn
1
2
0
John Davies, Bwlchrhew (sic)
2
0
0
Daniel Williams, Bwlchcynant  
1
0
0
David Thomas, Cynant
1
0
0
John Morgan, Dinasbach
1
0
0
Sil Jones, Cwmrhaiadr   
1
2
0
Sam Walters, Nantgwyn  
1
0
0
Eliz. Thomas, Gorofmelyn
1
4
0
Isaac Thomas, Erwrhwch  
1
5
0
Byddai cludo dau lwyth y dydd o Nant-y-Bai i Lanymddyfri, pellter o 32 o filltiroedd o leiaf, yn hen ddigon i ddyn ac anifail ar hyd ffyrdd gwledig y cyfnod.

Joel Williams, gŵr o Gernyw, fel y soniais, oedd yn rheoli’r gwaith ar ran yr Arglwydd Cawdor o 1805 i 1823.  Nes ymlaen, syrthiodd y gwaith i ddwylo’r Meistri Williams o Redruth, yng Nghernyw, ac fe fuont yma o 1836 hyd at 1900.  Roedd felly dylanwad Cernyweg ar y gwaith yn ystod y cyfnod hwn a’r canlyniad oedd i wŷr o Gernyw amlygu eu hunain yn Stryd y Pannau, Rhandirmwyn, yn Nghyfrifiad 1841; yn eu plith oedd John Renowdon a aeth yn dafarnwr ar y Royal Oak ar sgwâr y pentref yn ddiweddarach.  Roedd mewnfudwyr o Gernyw yn amlwg o hyd yng Nghyfrifiad 1851 gan fod enwau fel Bargwanan a Morcum i’w cael ymhlith y mwynwyr yn Stryd y Pannau.  Erbyn 1861 roedd y Cernywyr bron â diflannu’n gyfangwbl ac efallai bod hyn yn rhoi sail i’r traddodiad lleol bod gwŷr o Gernyw wedi ei tafli allan o’r pentre yn dilyn brwydr ffyrnig rhyngddynt a’r brodorion.

Gwaetha’r modd, roedd y diwydiant plwm i fynd yn yr un cyfeiriad ag y mae glo yn ein dyddiau ni ac am yr un resymau. Rhwng 1878 a 1885 bu cwymp trychinebus yn y pris oherwydd y plwm rhad a fewnforiwyd o wledydd tramor. Serch hynny, brwydrodd y cwmnïau yn eu blaen gan godi yr un faint o fwyn, mwy neu lai, hyd at ddiwedd y ganrif.  Yn y 1890’au roedd cymaint â 90 o bobl yn cael eu cyflogi yn y gwaith mwyn yma o hyd.

Ar y 28ain o Fawrth 1892 pan oedd y Capt. George Oates yn rheolwr y gwaith a’r Capt. Argall yn ei gynorthwyo, digwyddodd damwain, yr hon a cafodd yr Arolygwr Ffrwydryddion, yr
Is-gyrnal  R.A Cundill, hi’n anodd iawn i’w hesbonio.  Bu dau weithiwr, W.J. Beswetherick (25) a J. Lewarne (33) farw o ganlyniad i ffrwydrad yn y gwaith ac fe gynhaliwyd y cwest i’w marwolaeth yn y Royal Oak, Rhandirmwyn, gan Grwner y Sir, Mr. R.S. Lewis, at y 7fed o Ebrill 1892.  Beth ddigwyddodd mae’n debyg oedd i Lewarne ostwng bocs 50 pwys o ddynameit gelatin ar raff o enau’r lefel 24 gwryd (24 fathom = 144ft.) i lawr i Beswetherick a safai i’w dderbyn wrth enau’r lefel 36 gwryd.  Doedd fawr o amheuaeth beth ddigwyddodd  wedyn.  Llithrodd y bocs o afael y rhaff tra roedd yn cael ei ostwng i lawr i siafft a chwympo’n rhydd am ryw 48 troedfedd fan pellaf gan daro’n erbyn llwyfan pren a ddefnyddid i orwedd ysgolion arno. Yma digwyddodd y ffrwydrad ond dim ond ffrwydro’n rhannol wnaeth cynnwys y bocs a’r tebygrwydd yw i ran fwyaf o’r cynnwys losgi gan ryddhau nwyon gwenwynig a achosodd farwolaeth y ddau ddyn.  Nid y ffrwydrad a’u lladdodd canys ar wahân i ychydig o grafiadau arwynebol nid oedd dim byd allanol i’w weld o le arnynt.  Cerddodd y ddau ddyn adref ar ôl y ddamwain ond o fewn chwe awr yr oedd Beswetherick wedi marw a dau ddiwrnod yn ddiweddarach bu Lewarne farw.  Y dystiolaeth feddygol oedd bod y ddau ddyn wedi marw o effaith anadlu mwg gwenwynig.  Yr hyn oedd yn ddirgelwch i Cundill oedd achos taniad y ffrwydryddion.

‘But it is not altogether easy to say what caused the explosive to ignite.  Numerous experiments have been made with dynamite satisfactorily, neither in experiments nor actual practice have we any record of the simple fall of a case of such explosives, when packed in accordance with the regulations, being ignited or exploded.’

Llefydd peryglus yw gweithfeydd tanddaearol o bob math ac, fel y tystia mynwentydd y pentref, nid oedd gwaith mwyn Rhandirmwyn yn eithriad.  Ym 1900 rhoddodd y Mr. Williams y ffidil yn y to a phenderfynu tynnu allan.