Gwaith Mwyn Nantymwyn
Yn sicr, roedd gan y Rhufeiniaid fwynglawdd aur ym Mhumsaint, 15 cilometr (9.5 milltir) i’r gorllewin o Nant-y-mwyn.  Mae ffordd Rufeinig Sarn Ddu yn mynd tua'r gogledd o Lanymddyfri (Alabum y Rhufeiniaid), i gyfeiriad Nant-y-mwyn, ac mae sawl hynafiaethydd wedi awgrymu fod y Rhufeiniaid wedi gwneud defnydd o’r mwynau.  Yn fwy na thebyg, ni chodwyd Alabum cyn 70 O.C. ac ymddengys y bu anheddu yno tan oddeutu 160 O.C.

Cafodd ‘Peter yr Almaenwr’ gyfarwyddyd gan Gomisiynwyr Mwyngloddio Harri VIII i wneud arolwg o fwyngloddiau haearn, copr a phlwm.  Yn 1530 nododd fod y mwynglawdd plwm canoloesol yn Rhandir-mwyn yn dal i weithio, er nad oedd mor werthfawr ag a fu am fod nifer o fwyngloddiau plwm eraill yn dechrau cynhyrchu yng Nghymru.  Mae yna gyfeiriadau cyfoes yn Llyfr Du Tyddewi at fwynglawdd plwm ger Llanymddyfri a oedd yn gweithio yn 1530 ac yn talu breindal o unfed ran ar ddeg.  Y cyfeiriadau hyn yw’r rhai cyntaf at Fwynglawdd  Nant-y-mwyn.

Yn ôl traddodiad, roedd y mwynglawdd yn gweithio adeg teyrnasiad y Brenin Siarl I.  Cafwyd hyd i ddogfennau erbyn hyn sy'n dangos fod y mwynglawdd yn cael ei osod gan Bushell yn 1641.  Fodd bynnag, prin fuasai’r gwaith oherwydd roedd ymerodraeth Bushell yn chwalu wrth i Cromwell ddenu cefnogaeth gynyddol.  Mae yna le i gredu iddo gael uchelfraint i ddatblygu’r ardal ar ôl 1636, ond mae’r cyfeiriad yn aneglur.

Mae Lewis Morris, Asiant y Goron ar gyfer Sir Aberteifi, yn sôn yn fyr am fwynglawdd plwm ger Ystrad-ffin mewn nodiadau â’r dyddiad 1747.  Ni all hyn gyfeirio at unrhyw safle heblaw Nant-y-mwyn.  Ceir cyfeiriad pellach yn 1763 gan Edward Hughes - ei nai (a chefnder pell o bosibl i awdur yr erthygl hon, Simon Hughes) at godi mwyn plwm yn Ystrad-ffin am 15/- y dunnell (75 ceiniog yn arian heddiw).  Dywedodd Warwick Smith, yr arlunydd, fod y mwynglawdd wedi’i agor gan y Rhufeiniaid a bod y gwaith wedi ailddechrau tua 1742.

Yn y 1760au mae’n bosibl fod y mwynglawdd yn eiddo i Chauncey Townsend, oherwydd cofnodir taw John Smith oedd y rheolwr.  Ar y pryd, roedd Townsend yn gysylltiedig â sawl mwynglawdd yn Sir Aberteifi ac roedd hefyd ganddo gysylltiad agos â rhedeg mwyngloddiau Iarll Powys.  Felly, byddai’n adnabod Robert Shore, y rheolwr a’r peiriannydd ym Mwyngloddiau Copr Ecton, a oedd hefyd yn gysylltiedig ag Iarll Powys.  Rhoddodd Townsend y gorau i fwyngloddio yn fuan ar ôl 1770 a throsglwyddwyd y rhan fwyaf o’i fwyngloddiau i Bonsall.  Er i Smith ddal i reoli rhai o’r rhain, trosglwyddwyd rheolaeth Nant-y-mwyn erbyn 1780 i ŵr llym o Gernyw o’r enw John Rolley.  Pan gyrhaeddodd Rolley, roedd sawl milltir o dwneli yn bodoli eisoes, sy’n cadarnhau fod y mwynglawdd wedi’i hen sefydlu.  Ni wnaed ymchwil i berchnogaeth y mwynglawdd cyn 1775; mae’n ddigon posibl ei fod yn eiddo i’r Goron neu’r Eglwys.
Ni chofnodwyd dyddiad cychwynnol ar gyfer y Lefel Bad Uchaf, ond rhaid ei fod yn gynharach na dyddiad y Lefel Bad Dwfn (1785).  Cafodd ei gloddio fel trawstoriad 365 metr (400 llath), ac os oedd y cloddio’n gyson, byddai  chwe blynedd yn amcangyfrif rhesymol ar gyfer cyfnod ei gwblhau.  Roedd Lefelau Badau yn boblogaidd ar y pryd.  Ymhlith enghreifftiau eraill mae Lefel Bad Worsley (1759), Lefel Draenio Hillcarr yn 1766, Ecton yn 1767, Lefelau Badau Speedwell a  Threffynnon yn 1774.  Ymddengys fod y Lefel Bad yn Pennerly, Swydd Amwythig, wedi’i gychwyn tua 1780 a Lefel Bad Grassington yn 1796.
Yn ystod gwaith maes o amgylch Pencerrig-mwyn, gwelwyd sawl maen melin grut, ond mae’n rhyfeddol pa mor brin yw’r meini morthwyl mewn cymhariaeth â safleoedd hynafol eraill.  Pan gyfarfu Cymdeithas Mwyngloddiau Cymru yn Nant-y-mwyn ym mis Medi 1991, darganfu Colin Armfield forthwyl carreg, ond ni chofnodwyd o ba ran o Bencerrig-mwyn y’i cafwyd.  Yn fwy na thebyg, mae brigiad yr Hen Wythïen yn un o’r datguddiadau gorau o’i fath yng Nghymru a rhaid ei fod yn hysbys ers pan anheddwyd neu ymwelwyd â’r ardal gan bobl â gwybodaeth fetelegol.  Awgrymwyd bod rhannau hŷn mwynglawdd  Nant-y-mwyn wedi cael eu gweithio gan y Rhufeiniaid.  Er na brofwyd hynny, nid yw’n annhebygol.
Rhan fwyaf dwyreiniol y cloddiadau uchaf yw’r rhai o amgylch Siafft William yn NGR. SN. 793-449 sydd erbyn hyn o’r golwg mewn planhigfa gonwydd.  Dyma hefyd ran uchaf y mwynglawdd - tua 365 metr (1200 troedfedd) uwch lefel y môr.

Mae rhan ddeheuol y cloddiadau uchaf yn dilyn cyfres o wythiennau eilaidd ar draws esgair Pencerrig-mwyn o Siafft Angred yn NGR. SN. 788-443 i Lefel Pannau yn NGR. SN. 787-438.

Derbyniwyd ers yn hir taw’r cloddiadau bas ar yr ‘Hen Wythïen’ yw rhan hynaf y mwynglawdd.  Yn ôl G.W. Hall, ymddengys taw’r wythïen hon yw Gwythïen Roderick yn y cynlluniau a’r trawsluniau diweddaraf.  Fodd bynnag, tueddaf i anghytuno, gan gredu fod yr Hen Wythïen i’r dwyrain o Wythïen Roderick ar esgair Pencerrig-mwyn.

Ymddengys nad yw’r hen gloddiadau sy’n gyraeddadwy yn arbennig o hynafol a’u bod yn nodweddiadol o’r 17g.  Hyd y gellir gweld, cafodd ceuffordd fach ddienw uwch y Lefel Fas ei chloddio heb ddefnyddio ffrwydron -  a hynny mor ddiweddar â chanol neu ddiwedd y 18g.

Mae gwaith diweddar mewn archeoleg fwyngloddio wedi dangos fod rhai o'r 'Mwyngloddiau Rhufeinig' honedig yn ddiwydiannau cynharach o dipyn ac mae prawf eu bod yn gweithio yn yr Oes Efydd Ganol.  Mae dyddio radiocarbon (C14) wedi adnabod defnyddiau o gyfnod mor gynnar â 1800 C.C. ynghyd â morthwylion carreg yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.  Yr un darganfyddiad archeolegol o unrhyw bwys yn Nant-y-mwyn oedd morthwyl carreg a ddarganfuwyd yn y 19g.  Dywedwyd yn Archaeologia Cambrensis 1943 ei fod yn 152.4 mm o hyd, 134.6 mm o led, 81.2 mm o drwch ac yn pwyso 2.720 kg.  Rydym bron yn sicr fod y morthwyl hwn - neu ordd a bod yn fanwl gywir - yn dyddio o gyfnod cyn y Rhufeiniaid, ac mae'n awgrymu y gellid ychwanegu Nant-y-mwyn at y rhestr o fwyngloddiau hynafol yng Nghymru.
Yn ddiddorol, gŵr a oedd yn gredwr cryf mewn lefelau badau, oedd Robert Shore o Fwynglawdd Copr Ecton, a oedd â buddiannau mewn rhai o fwyngloddiau Sir Aberteifi yn y 1770au a’r 1780au.  Ymddengys yn debygol fod Lefel Bad Uchaf Nant-y-mwyn wedi’i dechrau yn gynnar yn y 1770au ac wedi’i chwblhau erbyn 1780.  Hefyd, mae yna le i gredu taw Shore oedd y dylunydd a’r goruchwyliwr pan dyllwyd y Lefel Bad Uchaf.    
Mae cyfrifon Ystad Cawdor ar gyfer Nant-y-mwyn, sy’n dechrau yn 1775, yn dangos fod 910 tunnell o grynodiadau wedi’u gwerthu’r flwyddyn honno, ac mae hynny’n awgrymu fod y mwynglawdd wedi'i ddatblygu'n weddol dda eisoes.
Yn ôl llawer o gyfeiriadau eilaidd, hon oedd y flwyddyn y dechreuodd y mwynglawdd weithio, ond mae’n amlwg nad yw hynny’n gywir.
Yn rhesymegol, mae Lefel Maescaerhyg yn gynharach na’r Lefel Bad Uchaf ac mae Lefel Tan yn hŷn byth.  Tueddaf i feddwl y gallai Lefel Maescarhyg fod wedi’i dechrau tua 1750 a Lefel Tân tua chyfnod Bushell, h.y. 1632 – 1642.
Yn ddaearyddol, mae mwynglawdd Nant-y-mwyn wedi’i rannu’n ddau safle, sef  y Lefel Bad Uchaf  a’r Lefel Bad Dwfn.  

Mae cloddiadau’r Lefel Bad Dwfn oddeutu 500 metr i’r de orllewin o bentref Rhandir-mwyn (NGR (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol) SN 781434) a thua 137 metr (450 troedfedd) uwch lefel y môr.
Y gwaith mwyaf gogleddol ar yr wyneb yw Lefel Tan (NGR. SN. 789-449) tua 265 metr (870 troedfedd) uwch lefel y môr.  Yn ôl cynlluniau’r mwynglawdd, roedd yn codi 246 metr (809 troedfedd) ond mae’n amlwg taw gwall argraffyddol yw hyn a’i gwir godiad yn fwy na thebyg yw 246 metr (869 troedfedd.
Mae cloddiadau’r Lefel Bad Uchaf yn helaethach ac ar wasgar rhwng afonig Nant-y-Bai a mynydd Pencerrig-mwyn.  Y Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ar gyfer porth y Lefel Bad Uchaf yw SN. 784-446, ac mae’n 185 metr (608 troedfedd) uwch lefel y môr.  

Rhan fwyaf gorllewinol y mwynglawdd yw troed y domen ddatblygu o’r Lefel Bad Uchaf yn NGR. SN. 780-447.

Mae hefyd yn werth nodi fod rhai cwteri dibriddo yn rhedeg i gyfeiriad gogledd orllewinol o dan domenni Lefel Goch a Lefel Tân, ac felly rhaid ôl-ddyddio’r datblygiadau hyn.  Rhaid bod y ddyfrffos a’r argae wedi’u lleoli i’r gogledd neu i'r gogledd ddwyrain o Bencerrig-mwyn ac ymddengys taw tarddiad y dŵr dibriddo oedd Nant Gwyn yn hytrach na Nant-y-Bai.  Mae’r cwteri dibriddo yn bendant yn hŷn na’r 17g a gall eu bod yn dangos yn well na dim fod y Rhufeiniaid wedi archwilio mwynglawdd Nant-y-mwyn ddiwedd y ganrif gyntaf neu ddechrau’r ail ganrif.  Byddai cloddio llifddor yr argae a rhoi dyddiad carbon i’r pren yn rhoi dyddiad adeiladu pendant.  
Eerbyn hyn, mae’r llun hwn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, ynghyd â llun arall a baentiwyd yr un diwrnod, ‘A General view of Nant y Mowyn with the hills rich in lead above it.  The Towey in its early course extends through this valley to Llandovery in the Vale of Towey, Carreg y Mowen has long since been famed for its store of lead – the mines were worked by the Romans – Its present workings have been continued since the year 1742 and now belong to Lord Cawdor.  The White House under Carreg Mowyn was long the residence of Mr Rolley, the active and experienced agent of these mines’.

Bu farw Rolley yn 1805 ac etifeddwyd ei fuddiannau gan Joel (R.B.) Williams, gŵr arall o Gernyw.  Nid oedd Nant-y-mwyn mor llwyddiannus yn ystod y cyfnod hwn ac roedd y cynnyrch wedi gostwng i rhwng 300 a 500 tunnell o grynodiadau plwm y flwyddyn.

Rhoddir disgrifiad da o’r mwynglawdd yn 1815 gan y Parchedig Walter Davies (Gwallter Mechain).  Dywedwyd wrtho fod y mwynglawdd wedi agor tua 60 mlynedd cyn hynny (1765) ac wedi gwneud cryn elw.  Tua 1790, roedd 400 o bobl yn cael eu cyflogi yn y mwynglawdd.  Serch hynny, erbyn ymweliad Gwallter Mechain, er nad oedd prinder mwyn, ychydig iawn o bobl a oedd yn gweithio yno.  Cafodd ar ddeall fod y mwynglawdd bryd hynny wedi cynhyrchu cyfartaledd o 900 i 12000 tunnell o fwyn plwm y chwarter, er bod Cofnodion Ystad Cawdor yn nodi ond tua 1200 tunnell y flwyddyn.  Roedd ceuffordd, a ddefnyddid yn gamlas, ar ochr orllewinol y bryn ac yn arwain at siafft lle, ar ôl esgyn 70 troedfedd, roedd yn cysylltu â cheuffordd (Lefel Pannau yn fwy na thebyg) a oedd yn dod i’r wyneb ar ochr ddwyreiniol y bryn, sef pellter o oddeutu milltir i gyd.  Yn rhyfedd, nid yw Gwallter Mechain yn sôn am fodolaeth ail Lefel Bad.  Mae’n werth nodi hefyd fod Gwallter Mechain yn cofnodi bod mwyn plwm yn cael ei werthu bryd hynny am £10 y dunnell a blend sinc am £9 y dunnell.   Dim ond ychydig flynyddoedd yn gynharach, roedd mwyn plwm yn werth bedair gwaith yn fwy na'r blend.

Y datblygiad cyfoes a nodwyd gan Lloyd yn ‘The History of Carmarthenshire’, oedd bod yr hen ffwrneisi mwyndoddi plwm yng Nghaerfyrddin, a godwyd gan Iarll Cawdor ddiwedd y 1770au, wedi cael eu disodli gan rai mwy effeithlon yn Llanelli.  Yn y bôn, roeddynt yr un fath – ond wedi eu codi’n agosach at gyflenwad rhad o danwydd.  Iarll Cawdor oedd perchennog y ffwrneisi newydd, hefyd, ond ymhen tua 35 mlynedd o gynhyrchu llwyddiannus, cawsant eu prynu gan reolwr y gweithfeydd,  Charles Nevill.
Hanes Mwynglawdd Plwm Nant-y-mwyn, Rhandir-mwyn
Gan Simon Hughes
Cymerodd Neville un o’r teulu o Gwennap yng Nghernyw, ynghyd â Mr Sims a ffurfiodd gwmni Sims, Williams & Nevill a fu’n brif gwmni mwyndoddi yng Nghymru drwy gydol ail hanner y 19g.  Rhaid cofio hefyd fod gwerth mwyn plwm wedi gostwng yn sylweddol dros y deng mlynedd blaenorol a bod y gost o gludo mwyn mewn basgedi ar gefn mulod wedi cynyddu.  Felly, er mwyn arbed costau, roedd  y gweithlu wedi gostwng o oddeutu 400 o bobl yn y 1790au hwyr i 160 o ddynion a 40 o fenywod.

Mae cofnodion Cawdor yn dangos taw dim ond 93 o ddynion ac 20 o fenywod oedd yn cael eu cyflogi yn 1814 a bod yna gynlluniau i leihau'r nifer fwyfwy.  Fodd bynnag, newidiodd y sefyllfa’n fuan, ac erbyn 1823 cofnodir bod 105 o bobl yn ymwneud â chludo’r crynodiadau i Gaerfyrddin.

Mae hyn yn amheus oherwydd dim ond tua 500 tunnell a gynhyrchwyd gan y mwynglawdd y flwyddyn honno.  Dylid nodi fod 100 o’r 105 o bobl hynny’n ymwneud yn bennaf ag amaethyddiaeth, ond eu bod yn cael eu denu i weithio fel halwyr am fod y tâl yn dda.

Dywed G. W. Hall fod yna waith smeltio yn y fan a’r lle tua NGR. SN. 7864-4482 ar lannau deheuol Nant-y-Bai bron gyferbyn â White Hall a gerllaw porth Lefel Maescarhyg.  Yn ôl pob tebyg, mae’n hŷn na’r cyfnod pan oedd mwyn yn cael ei gludo i Gaerfyrddin i’w doddi a’i buro, a ddechreuodd cyn 1780.
Yn ystod gwaith maes, archwiliwyd y fan hon am unrhyw olion o'r ffwrneisi neu’r slag mwyn.  Ni chafwyd hyd i ddim, a rhaid bod y gwaith yn un bach na barodd yn hir.  Fodd bynnag, mae David Bick wedi darganfod slag plwm yn y tomenni o dan y Lefel Bad Uchaf.  Mae’n bosibl fod y gweithfeydd hyn yn rhan o’r Felin Mathru ac efallai y cafodd honno ei throi’n felin flawd yn ddiweddarach.   Posibilrwydd arall yw taw White Hall Uchaf oedd y gwaith smeltio gwreiddiol.  Mae olion y ddau adeilad yn awgrymu fod ganddyn nhw simneiau sylweddol flynyddoedd lawer yn ôl, ond does dim simneiau yn y darlun a baentiwyd yn 1792.  Felly, tueddaf i gredu taw dim ond rhwng tua 1760 a 1780 y defnyddiwyd y gwaith smeltio.

Diswyddwyd Joel Williams tua 1823 a chafodd y mwynglawdd ei reoli am rai blynyddoedd gan Iarll Cawdor.  Darganfu nad oedd mor broffidiol ag yr oedd wedi disgwyl.  Felly, penderfynodd y byddai’n well gosod y mwynglawdd ar brydles a derbyn breindal ar y cynnyrch.

Tua 1818, ffurfiodd Hugh Williams o Fachynlleth bartneriaeth gyda John Pugh (Pughe yn ddiweddarach) o Aberdyfi er mwyn cyfuno Mwyngloddiau Esgairgaled a Llechwedd Ddu i greu lefel Dylife.  Tua 1825, dechreusant reoli Mwynglawdd Nant-y-mwyn, a daeth partneriaid eraill yn rhan o’r Cwmni.  Fe welwyd cyfeiriadau at Ellis, Pugh & Co., ond mae’n siŵr taw’r un cwmni yw hwn.  Yn 1830 gorfodwyd y Mri Williams, Pugh a’u Cwmni i atal gweithio dros dro am fod y prisiau’n isel ac yn 1832 trosglwyddwyd eu prydles i Iarll Cawdor.

Rhoddwyd prydles newydd i’r Brodyr Williams, Scorrier House, Gwannap, Cernyw, mor gynnar ag 1832 yn ôl rhai ffynonellau, ond yn 1836 yn ôl ffynonellau eraill.  Cymerodd Michael a William Williams sawl prydles yng Nghanolbarth Cymru yn 1825, ond bu’n rhaid iddynt ollwng y rhan fwyaf o’r rhain yn 1832 oherwydd dirwasgiad yn y fasnach fetelau.  Erbyn 1836, nid oedd ganddynt fawr o ddaliadau yn sir Aberteifi a throsglwyddwyd y rhan fwyaf o’u mwyngloddiau i gwmni John Taylor a’i Fab.  Fel arfer, roedd cynnyrch Nant-y-mwyn oddeutu 200 neu 300 tunnell y flwyddyn yn y 1830au cynnar, ond cafwyd gwelliant ar ôl 1836, ac oherwydd hyn tueddaf i gredu eu bod wedi dechrau eu tenantiaeth y flwyddyn honno.

Bu Roderick Murchison, un o sefydlwyr gwyddor daeareg, yn ymweld â’r cloddiadau yn “Nant y Moen” yn 1833 ac yn ddiweddarach cyhoeddodd ei argraffiadau mewn cyfrol o’r enw “The Silurian System” a argraffwyd gyntaf yn 1839.  Dywed fod yna weithio ar dair prif wythïen, sef ‘The Master’, ‘The Red’ a ‘The Comet’.  Fodd bynnag, nid yw’n rhoi llawer o fanylion ac nid yw’n cyfrannu fawr ddim at wybodaeth ynglŷn â’r safle.

Cafodd y lefel 33 gwryd o dan y Lefel Bad Dwfn, ar y Brif Wythïen a’r Wythïen Ganol, ei ddatblygu cyn mis Tachwedd 1850, yn ôl trawslun a wnaed gan Abraham Rolf, Asiant y Mwynglawdd.  Ni chloddiwyd y mwynglawdd yn ddyfnach na hyn a chafwyd yr holl grynodiadau a gynhyrchwyd rhwng 1850 a 1930 wrth yrru lefelydd a oedd yn bodoli i mewn i’r gwythiennau cynhyrchiol.

Ymddengys taw Abraham Rolf oedd asiant Iarll Cawdor oherwydd dywed yr Ystadegau Mwynol fod Cwmni Nant-y-mwyn yn y 1860au a’r 1800au yn eiddo i W a J.M. Williams a bod John Harris yn asiant iddyn nhw.
Rhoddwyd hwb o’r newydd i Fwynglawdd Nant-y-mwyn yn 1865 am fod cludo’r crynodiadau i Lanelli’n rhatach ar ôl cwblhau’r rheilffordd i Lanymddyfri.

Diweddarwyd cynlluniau a thrawsluniau’r mwynglawdd eto ar 10 Ionawr 1879 gan Abraham Rolf, ond maent hefyd yn dangos datblygiadau ar ôl 1880 a chawsant eu diweddaru am y tro olaf gan y Sulphide Corporation yn 1931-32.  O’r herwydd, mae’n anodd iawn rhoi dyddiadau i ambell ddatblygiad.

Mae’r newidiadau hyn sydd heb ddyddiad yn rhoi’r argraff anghywir fod Siafft Angred wedi’i suddo o leiaf ddeng mlynedd yn gynharach na’r dyddiad cywir.  Rwy’n amau’n fawr na chafodd y droedffordd, a ddangosir ar gynllun 1850, ei gyrru tan oddeutu 1916, ac efallai mor hwyr â 1920.  Pan ddaeth y mwynglawdd dan reolaeth y Sulphide Corporation, darganfu’r cwmni fod y cynlluniau hyn mor anghywir fel nad oedd modd eu defnyddio i ddibenion mwyngloddio.  Roedd y stobau yn fwy niferus nag a nodwyd, roedd hen gloddiadau heb eu marcio, roedd lefelydd wedi cael eu gyrru ymhellach nag a awgrymwyd ac ymddengys nad oedd y cynllun wedi cael ei ddiwygio mor gyson ag a awgrymwyd yn flaenorol.   Sawl gwaith, darganfu Joe Nile hen gloddiadau lle’r oedd mwyn da i fod.  Erbyn i’r mwynglawdd gau, yn y mannau hynny uwchben y Lefel Bad Dwfn â chyflenwad enfawr honedig o fwyn heb ei gyffwrdd, nid oedd ond 15,000 tunnell o > 11% o Pb + Zn cyfunol a 166,000 tunnell o > 4%.

Roedd siafft Angred yn un o’r prif ddatblygiadau olaf yn Nant-y-mwyn, ac mae’n dyddio ar ôl 1887 pan wnaed arolwg ar gyfer y cyntaf o’r mapiau graddfa fawr gan yr Arolwg Ordnans.

Suddwyd y siafft dan oruchwyliaeth y Capten Joseph Argall, a reolodd y mwynglawdd drwy’r 1890au hyd nes i'r Brodyr Williams roi’r gorau i’w prydles yn 1900.

Yn ystod y degawd olaf hwn o weithio, roedd y mwynglawdd yn dal i gyflogi 90 o bobl er bod y pris isel am blwm wedi gorfodi’r rhan fwyaf o fwyngloddiau eraill yn yr ardal i gau.
 O’r cofnodion hynny o'r cyfnod a welwyd, ymddengys fod y mwynglawdd mewn cyflwr truenus dros ben a bod llawer o’r stobau yn rhedeg i mewn i’r lefelydd.

Yn y diwedd, suddwyd y siafft i ddyfnder o 113 gwryd (678 troedfedd = 206.65 metr) o dan ei choler a’i chysylltu â’r Lefel Bad Dwfn ar ddyfnder o 75 gwryd (450 troedfedd = 137.16 metr).  Ei man ddyfnaf, felly, yw 38 gwryd o dan y Lefel Bad Dwfn, a fyddai wedi rhoi lle digonol ar gyfer sỳmp o faint rhesymol o dan y lefel 33 neu 35 gwryd.

Nid oedd Nant-y-mwyn yn cael ei ystyried yn fwynglawdd arbennig o wlyb, ond fe fyddai angen tipyn o bwmpio i gadw’r lefelydd 10, 20 a 30 gwryd ar Gangen Pugh yn sych.  Roedd yna lefelydd hefyd ar ddyfnder o 11, 24 a 35 gwryd ar y Brif Wythïen, a byddai angen set o bympiau ar wahân i dynnu dŵr o’r rhain. Nid oes amheuaeth nad oedd llawer iawn o ddŵr yn llifo i lawr o’r hen gloddiadau, ond roedd hi’n hawdd ei ddraenio allan o'r Lefel Bad Dwfn.

Mae’n anodd deall pam y cafwyd injan drawst ddrudfawr ar gyfer Siafft Angred.  Yn sicr, doedd dim digon o ddŵr a mwyn i gyfiawnhau’r gwariant oherwydd roedd yna geuffordd ddofn  a digon o ddŵr i droi’r rhodau.  Rhaid bod yr injan a’r adeiladau perthynol wedi’u hadeiladu ddiwedd y 1880au neu ddechrau’r 1890au, ac ni allent fod wedi gweithio am yn hir.  Mae map Arolwg Ordnans 1904 yn dangos fod y cyfan wedi mynd erbyn y dyddiad hwnnw, ac mae hen adroddiadau’n cadarnhau fod yr holl adeiladwaith ynghyd â’r injan a’r bwyleri wedi’u gwerthu pan roddodd y Brodyr Williams y gorau i’w prydles yn 1900.  Roedd rhai o drigolion hŷn yr ardal yn gallu cadarnhau fod y peiriannau yn sicr wedi cael eu symud oddi yno ymhell cyn 1920.  Yn ‘Lead Mining in Wales’, dywed W.J. Lewis fod trigolion Rhandir-mwyn wedi dweud wrtho:-

  ‘The hig cost of coal was one of the reasons for the failure of the Nant y Mwyn Mine in the late 1920s’.


Mae’n amlwg nad yw hyn yn wir ac mae’n dangos sut gall rhai o hanesion yr hen fwynwyr gael eu derbyn yn wirionedd.  Ond byddwn yn derbyn taw dyna'r rheswm pam roddodd y Brodyr Williams y gorau iddi yn 1900.

Posibilrwydd na chafodd ei gadarnhau yw bod y Brodyr Williams ac Argall yn ymwybodol y gallai fod yna grynodiad mwyn o dan yr un a oedd wedi cynnal y mwynglawdd dros y canrifoedd diwethaf a bod bwriad yn wreiddiol i suddo Siafft Angred i ddyfnder o oddeutu 335 metr (1100 troedfedd) o dan ei choler (6.19).  Os yw hyn yn wir, cafodd y prosiect ei amseru’n wael oherwydd roedd gwerth plwm yn is nag a fu am ganrif ac roedd costau mwyngloddio a defnyddiau wedi dal i godi.

Rhaid cofio hefyd fod Argall yn gwybod am y dirywiad o dan ddaear ac roedd hefyd yn ymwybodol  y gallai’r mwynglawdd gael ei foddi a’i golli pe bai’r Lefel Bad Dwfn yn cael ei gau gan gwymp.  Mae’n bosibl taw ymdrech i achub y sefyllfa oedd Siafft Angred.

Siafft arall a suddwyd yr un pryd ag Angred oedd y Siafft Aer, a oedd yn cael ei galw hefyd yn Siafft Jones neu’r Siafft Llwytho Glo.  Cafodd ei suddo i ddyfnder o 84 troedfedd (25.60 metr) a’i chysylltu â'r Lefel Bad Dwfn y naill ochr ar y wal ddwyreiniol tua 726 troedfedd (221.28 metr) o’r Porth.  Ei phwrpas pennaf oedd ar gyfer arllwys glo o'r wyneb i mewn i’r cychod.  Oddi yma, câi’r glo ei gymryd o dan ddaear i Siafft Angred a’i gludo i’r wyneb.

Ar ôl rhoi’r gorau i weithio yn 1900, ni chafwyd unrhyw gynhyrchu wedyn tan 1915 er bod prydles wedi’i rhoi i Mr O Davies.  Yn ôl un o’r trigolion hŷn, roedd Octavius Davies, perchennog Siop Rhandir-mwyn, yn gwneud hanner ymdrech i adfer y mwynglawdd tua’r adeg honno.  Gwnaed rhai profion tanddaearol yn 1907-8 ac eto yn 1911, a chyflogwyd hyd at saith o ddynion yno bryd hynny.

Rywbryd rhwng tua 1890 a 1914 cafodd y Lefel Bad Dwfn ei ddraenio a gosodwyd tramffordd fwy confensiynol a chafwyd wagenni i gludo’r mwyn i’r wyneb.  Yn fwy na thebyg, gwnaed hyn gan Argall, yn hytrach na Davies, a oedd, mae’n ymddangos, wedi’i gyfyngu gan brinder arian.

Yn 1914, cymerwyd y brydles ar gyfer Nant-y-mwyn gan y Capten Joseph Argall, a fu’n rheolwr y mwynglawdd yn ystod y 1890au.  Rhwng 1900 a 1914, roedd wedi treulio sawl blwyddyn mewn gwersylloedd mwyngloddio ar draws Canada.  Erbyn diwedd Gorffennaf yr un flwyddyn, roedd wedi trefnu menter fwyngloddio, a gwerthodd gyfran o 51% i Nantymwyn Mine Limited am £3100.

Un o’r dynion mwyaf blaenllaw yn y byd mwyngloddio yn ystod y cyfnod hwnnw oedd Philip Argall o Denver, Colorado, a gall fod enw da Joseph Argall yn seiliedig ar ei achau yn hytrach na’i gymhwysedd.  Arbenigedd Phillip Argall oedd gwahanu mwynau.  Dyfeisiodd jig mwynol a sawl math o odynnau sychu a chrasu mwynau.  Ni wyddys a oedd y ddau ddyn hyn yn perthyn i’r un teulu.

Ariannwyd peth o waith Nantymwyn Mine Limited rhwng 1914 a 1926 trwy gloddio am fwyn plwm ar raddfa gyfyngedig ac ambell waith ond yn codi tywodfaen gwartsitig.  Dywedwyd wrthyf gan gyn-weithiwr fod y cwartsit yn cael ei gloddio mewn trawstoriad ychydig i’r dwyrain o borth y Lefel Bad Dwfn.  Rwy’n fwy tueddol o feddwl fod ffynhonnell y defnydd hwn yn y lefel a elwid “Trawstoriad Briciau Tân” a yrrwyd tua’r dwyrain oddi ar y Lefel Bad Dwfn a thtua 200 metr i’r de orllewin o Siafft Angred.  Oherwydd cymhorthdal y llywodraeth ar lafur mewn mwyngloddiau, roedd hyd at 33 o bobl yn cael eu cyflogi yn 1919, ond dinistriwyd y fenter gan y Rhyfel ac nid oedd yr un gweithiwr ar ôl erbyn 1921.

Cafodd y gwaith gan Gwmni Nant-y-mwyn ei nodi’n fyr gan yr Adran Datblygu Adnoddau Mwynol yn y Deyrnas Gyfunol, ond ni chafwyd unrhyw gymorth ariannol na chyngor i ddatblygu’r mannau hynny lle na fu cloddio.  Hefyd, nodwyd gweithgareddau’r cwmni gan Bwyllgor y Bwrdd Masnach i’r Diwydiant Mwyngloddio Anfferus yn 1920 ond mae’n amlwg o’r naill adroddiad a'r llall na wnaed llawer o waith ac ychydig iawn o le sy’n cael ei neilltuo i Fwynglawdd Nant-y-mwyn.

Ym mis Mai 1926, cynyddwyd cyfalaf cyfranddaliadau’r cwmni i £12,000 trwy werthu 50% o Nantymwyn Mine Limited i Sulphide Corporation Ltd. o Awstralia am 6,000 o gyfranddaliadau £1.00.

Ceisiodd y Sulphide Corporation godi £50,000 arall drwy ddyroddi dyledebau yn 1927.  Ar 2 Mawrth 1929 dechreuodd y cwmni godi melin arnofiant a phwerdy newydd, ynghyd â chloddio’r ‘Siafft Newydd’ tua mis yn ddiweddarach.  Gwnaed hyn er mwyn cael mynediad o’r felin i lawr i’r Lefel Bad Dwfn.  Datgymalwyd yr hen waith mathru yn y Lefel Bad Dwfn a’i symud i safle’r felin newydd, ger y Siafft Newydd, ganol 1929.  Roedd y cloddio’n gyflym.  Cloddiwyd y pellter cyfan o 118.26 metr (388 troedfedd) erbyn 8 Mehefin y flwyddyn honno.

Am nad yw’r adroddiad blynyddol ar gyfer 1929 yn cyfeirio ond at  68.5 metr (225 troedfedd) o gloddio, rhaid tybio fod y Siafft Newydd yn defnyddio tua 50 metr (163 troedfedd) o’r hen gloddiadau.  Mae modd gweld o’r cynlluniau fod y 33 metr (108 troedfedd) ar waelod y Siafft Newydd yn rhedeg drwy’r hen stobau o uwchlaw’r lefel 23 gwryd ac i mewn i’r Lefel Bad Dwfn.  Cyflogwyd hyd at  80 o ddynion yn y cyfnod hwn o ailddatblygu.  Erbyn hyn roedd y Lefel Bad Dwfn wedi’i ddraenio a gosodwyd tramffordd fwy confensiynol gyda merlod yn tynnu rhesi o wagenni.  
Adeg marwolaeth Argall ac ymlaen i gyfnod y Capten Nile, roedd y diweddar Jack Willson yn ymwneud â thyllu sawl twll â driliau diemwnt yng ngwadn y lefel 23 gwryd ger y Siafft Newydd.  Gwnaed hyn tua’r adeg yr oedd Willson yn gweithio ar amlinellu’r crynodiad mwyn ym Mhumsaint.  Yn ddiweddarach, bu o gymorth mawr i Bwyllgor Larke yn 1942, pan benderfynwyd na ellid dechrau ailgynhyrchu ar frys yn y mwynglawdd er mwyn cyfrannu at ymdrechion y rhyfel.  Hefyd, awgrymodd Willson y gallai ychydig o ddrilio ar yr wyneb ddangos estyniadau llorweddol i’r gogledd o’r hen fwynglawdd ac y byddai’n fwy defnyddiol na chwilota trwy hen gloddiadau i chwilio am flociau heb eu cloddio.

Yn fuan cafodd Joe Nile olwg mwy realistig o’r mwynglawdd a darparodd adroddiadau rheolaidd i’r cyfarwyddwyr.  Cafodd llawer o’r rhain eu cadw ac maent yn cynnwys rhai adroddiadau cyfoes defnyddiol dros ben.  Ar ôl marwolaeth Argall, difethodd y Sulphide Corporation ei holl gofnodion am eu bod yn cynnwys gwybodaeth ffug.  Roedd un bloc o dir a samplwyd gan Argall i fod i gynnwys tua 17% o sinc, ond pan gafodd ei roddi drwy’r felin gan Nile, darganfuwyd taw dim ond 5% oedd y cynnwys.

Dechreuwyd malu ar raddfa lawn ym mis  Mehefin 1930, ond daeth i ben ar 18 Hydref oherwydd cynnyrch siomedig, a diswyddwyd 50 ddynion y diwrnod hwnnw.  Oherwydd y prisiau isel am blwm a sinc, nid oedd yn werth trin llawer o’r mwyn a gloddiwyd.  Yna cyfyngwyd ar weithgaredd y Gorfforaeth i ail-samplu’r cloddiadau a chlirio rhai o'r hen lefelydd.  Mae’r adroddiadau blynyddol yn dangos fod 816 metr (2680 troedfedd) o’r hen lefelydd wedi’i glirio  a’i adfer yn ystod 1930.

Erbyn diwedd y 1920au roedd yr hen stobau’n mynd yn ansefydlog iawn.  Cafwyd tair damwain angheuol ac mewn digwyddiad arall cafodd pump o ddynion eu caethiwo o dan y ddaear am dri diwrnod cyn cael eu rhyddhau.  Gwyddys hefyd am ddamwain yn y 19g pan gafodd un dyn ei gladdu gan gwymp, a bu’n dioddef wedyn drwy gydol ei oes.

Ymddengys na wnaed unrhyw waith o dan y Lefel Bad Dwfn ar ôl 1900 pan roddodd y brodyr Williams y gorau i’w prydles a gwerthu’r gwaith.  Roedd sawl rheswm am hyn:-

A) Roedd y dŵr a oedd yn dianc o’r Lefel Bad Uchaf yn llifo i’r cloddiadau isaf ac ambell waith roedd yn ormod i’r Lefel Bad Dwfn.  Byddai wedyn wedi boddi’r siafft a’r cloddiadau isaf.

B) Roedd y pympiau wedi mynd yn rhy gostus i’w rhedeg oherwydd pris uchel glo a phris isel plwm.

C) Roedd y Capten Argall wedi cael problemau gyda’r Lefel Bad Dwfn yn y 1890au a gwyddys ei fod wedi creu argae wrth i lefel gael ei gyrru i osgoi 300 metr o stobau ar gefn Cangen Pugh i’r de orllewin o Siafft Angred, ond prin yw’r cofnodion ynglŷn â hyn.  Cynyddodd faint y dŵr fwyfwy yn y Lefel Bad Dwfn trwy yrru lefel 100 metr newydd i wasanaethu a draenio Siafft Angred.

Ataliwyd y gwaith datblygu yn yr hen fwynglawdd dros dro gan y Capten Nile a throdd ei sylw at glirio’r Lefel Bad Dwfn.  Dechreuodd hyn gan bwyll ym mis Ionawr 1931 pan ddechreuwyd clirio cwymp yn Esgynfa Theophillus.  Ar 17 Ionawr cafwyd cenllif a olchodd 300 metr ciwbig o falurion dros 35 metr (120 troedfedd) i lawr y lefel.  Yna cymerodd fis i glirio hyn a symud ymlaen 12 metr arall (40 troedfedd) trwy’r cwymp ar Ripyn Eben Harris lle darganfuwyd bod y lefel ar agor cyn belled â Thrawstoriad Eben Thoma, 733 metr (2400 troedfedd) o’r porth.

Yn ei adroddiadau ar ôl mis Mai, mae Nile yn crybwyll problemau am fod y to’n cwympo a dŵr yn llifo i mewn.  Erbyn mis Hydref y flwyddyn honno, roedd wedi ailagor digon o'r lefel i ganiatáu i ychydig o’r trawsdorri i ddigwydd - a datguddiodd hynny rai tunelli o fwyn.  Erbyn mis Tachwedd 1931, roedd Nile wedi llwyddo i gysylltu â gwaelod y Siafft Newydd, ond roedd yn cael ei lesteirio o hyd gan dywod a  llaid yn cael eu golchi i mewn o’r hen gloddiadau.  Yn ôl yr adroddiadau blynyddol, roedd y gwaith yn 1931 wedi’i gyfyngu i raddau helaeth i’r Lefel Bad Dwfn lle’r oedd 806 metr (2647 troedfedd) erbyn hyn wedi’i glirio, ac roedd 21 metr (70 troedfedd) pellach o waith datblygu newydd wedi’i gwblhau.

Daeth yr holl waith i ben yn ddisymwth ar 30 Tachwedd 1932 ar ôl sylweddoli fod y gwerthoedd metel yn y Lefel Bad Dwfn eithaf gwael.  Mewn un ymdrech olaf, dechreuwyd, cloddio yn y lefel 23 gwryd ac roedd rhai o'r canlyniadau cychwynnol yn galonogol.  Fel canlyniad, cafwyd gweithgaredd mawr yn y lefel o amgylch y Siafft Newydd, ond roedd yr amodau gwaith yn beryglus.  Bu’n rhaid awyru’r lefel ar frys a rhoddwyd drws yn y Lefel Bad Dwfn er mwyn gwella’r llif aer fwyfwy.

Mae adroddiadau Joe Nile o’r cyfnod hwn yn dangos natur beryglus y gwaith ac mae’n cyfeirio drwy’r amser at orfod cropian drwy stobau wedi hanner cwympo a symud yn llafurus trwy laid yn cyrraedd hyd at ei frest wrth chwilio am fwyn derbyniol.  Rhaid cofio hefyd ei fod gryn dipyn yn iau nag Argall a rhaid tybio na lwyddodd Argall gyrraedd sawl rhan o’r mwynglawdd oherwydd yr holl ymdrech a olygai hynny.  

Er gwaethaf ymdrechion glew, dim ond oddeutu hanner y cloddiadau ar y lefel 23 gwryd a gliriwyd a dangosodd y samplau nad oedd y bloc o fwyn mor werthfawr ag a dybiwyd.  Rhoddwyd sylw byr hefyd i rannau hŷn y mwynglawdd ac i’r Lefel Bad Uchaf lle cafodd rhai propiau hynafol eu newid cyn iddynt fethu ac ychwanegu at y dŵr a ddisgynnai i’r Lefel Bad Dwfn.

Adroddwyd bod gwythïen newydd yn cynnwys grisialau trwm yn brigo 250 metr i’r dwyrain o’r adeilad cywasgu ac adroddwyd bod gwythïen blwm-sinc a oedd yn anhysbys yn flaenorol gerllaw.  Fodd bynnag, roedden nhw wedi gwario’u harian i gyd a phenderfynwyd na ellid cyfiawnhau buddsoddi rhagor ym Mwynglawdd Nant-y-mwyn.

Penodwyd derbynnydd i waredu asedau Nantymwyn Mine  Limited.  Ddiwedd 1932 cafodd yr offer ei ddatgymalu a’i anfon i Dde Affrica yn 1933 neu 1934.  Diddymwyd y cwmni yn 1937.
Cafodd llawer o’r mwynwyr hyd i waith yn datblygu a gweithio ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, ond dychwelodd Joe Nile i Gernyw gyda’i deulu.

Yn 1942, paratowyd adroddiad ar Fwynglawdd Nant-y-mwyn gan Thomas Eastwood, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Arolwg Daearegol, ar gyfer Pwyllgor Larke a’r Adran Gyflenwi Mwynau Anffferrus.  Yng ngeiriau Eastwood, rhoddid pwysau arno gan Moelwyn Hughes A.S. a llawer o ‘r hen fwynwyr i ailagor y mwynglawdd fel rhan o’r argymhellion adeg rhyfel i gynyddu’r cyflenwad o fetelau cyffredin.  Cafodd y cofnodion a chynlluniau a oedd ar gael eu harchwilio’n drwyadl, ond ni fu unrhyw ddatblygiadau pellach.

Gwerthodd Iarll Cawdor y mwynglawdd a thir o’i amgylch i’r Economic Forestry Group oddeutu 1966.  Yna cafodd y rhan fwyaf o Bencerrig-mwyn ei aredig yn ddwfn, gan ddinistrio llawer o’r hen domenni.  Hefyd, cafodd rhai o’r tomenni datblygu mwyaf, yn enwedig y rhai o’r Lefelau Badau eu cario i ffwrdd ar gyfer gwaith adeiladu.

Tua 1969 cliriwyd gweddillion y tomenni datblygu o’r Lefel Bad Dwfn a’u defnyddio i godi argae Cronfa Ddŵr Llyn Brianne gerllaw.  Cliriwyd y cyfan o’r domen hon gan y contractwyr, a gwnaed y safle’n dir amaethyddol iselradd.  Roedd i’r domen arwynebedd o 2.5 hectar ac mae’n bosibl ei bod yn cynnwys 250,000 o dunelli metrig o graig.

Ac ystyried maint yr hen gloddiadau, mae’n syndod cyn lleied sydd bellach yn hygyrch.  Mae cofnodion y Sulphide Corporation yn dangos fod Joe Nile, pan adawyd y safle yn 1932, wedi gorchymyn y dylid cau’r holl fynedfeydd.  Mae'n debygol hefyd fod rhai rhannau o’r mwynglawdd yn anhygyrch ers canrifoedd lawer.  Mae arolwg 1870 yn anwybyddu’r holl waith blaenorol ar yr Hen Wythïen a’r Wythïen Ddeheuol; yn fy marn i gall fod y cynlluniau hyn yn dangos cyn lleied â 50% o’r cloddiadau.  Daeth Joe Nile i gasgliad tebyg pan oedd y mwynglawdd yn gweithio, ac mae’n rhaid bod y cyflwr wedi gwaethygu’n sylweddol yn ystod yr hanner canrif y bu’r mwynglawdd ar gau.

Mae’n hawdd cael hyd i Siafft Angred, sy’n gôn ymsuddiant ar ochr orllewinol yr hen simnai.  Mae’n hysbys fod peth ymsuddiant wedi digwydd cyn 1942.  Benthycwyd yr enw Angred o dyddyn Anghred gerllaw; ambell waith caiff y siafft hon ei galw’n anghywir yn Siafft Angharad.  Suddwyd y siafft ar ôl datblygu Lefel Angred a gychwynnwyd o bwynt tua 280 metr i’r dwyrain o’r tyddyn ac a redai drwy rewglai cyn taro yn erbyn craig.  Gorchuddiwyd yr ardal yn ddiweddarach gan sorod y Sulphide Corporation a phlannwyd planhigfa gonwydd yno ganol y 1960au.
Mae pen dwyreiniol Lefel Angred yn cysylltu â Gwythïen Roderick ac ymddengys ei bod wedi dod i'r wyneb yn y pen draw ar lannau Nant Gwyn.  Mae Lefel Lewis yn dilyn llwybr tebyg ac ymddengys ei bod yn dod i’r wyneb o dan y Lefel Fas (Cadno).

Mae porth y Lefel Bad Uchaf ar lannau deheuol Nant-y-Bai.  Cafodd y rhan fwyaf o’r ardal ei chladdu’n ddiweddarach gan wastraff.  Mae dŵr yn dod allan o gopa’r croestoriad a dim ond mewn cyfnod o sychdwr y mae digon o awyr i ganiatáu mynediad.  Cafod siafft awyr ychydig fetrau o’r geg ei llenwi â phridd sydd erbyn hyn wedi cau'r dramwyfa'n llwyr.  Tyllwyd drwy’r pridd ganol y 1960au ond, tua 100 metr o’r porth, cyrhaeddwyd siafft arall a oedd mewn cyflwr tebyg a rhoddwyd y gorau i’r prosiect.

Yn ôl yr hanes, cafodd rhai o’r badau bach haearn a ddefnyddid i gludo’r mwyn eu gadael yn y geuffordd hon, ond ni allaf gadarnhau hyn.  Hyd y gwyddys, dim ond dau gynllun o’r geuffordd hon sy’n bodoli.  Mae’r naill yn dangos un croestoriad ac mae’r llall yn dangos dwy ddolen basio sy’n gyfochrog â'r croestoriad.  Yn sicr, mae’n debygol fod dolenni pasio wedi’u creu oherwydd hebddyn nhw byddai wedi bod yn anodd i draffig lifo’n ddirwystr drwy dwnnel cul.

Mae’r Droedffordd yn nodwedd arall sy’n hawdd ei cholli.  Hon yw'r adeiladwaith wedi’i lagio’n drwm yn y llechwedd uwchben y tro sydyn yn y ffordd ger sylfaen goncrid y felin.  Oherwydd natur y coedio, mae’n sicr y cafodd ei gyrru gryn bellter drwy’r graig.  Gwnaed difrod mawr i’r porth wrth adeiladu ffordd newydd ganol y 1960au.  Cafodd y tir uwchlaw’r porth ei wastatau gan darw dur a gall fod y pwysau gormodol wedi peri i’r lagin dorri ychydig fetrau o’r fynedfa bresennol.  Ymddengys fod y droedffordd yn cael ei defnyddio’n gyson ddechrau’r 1930au ac mae i’w gweld yn glir ar ffotograffau cyfoes.  Mae’n anodd gwybod i sicrwydd pam y cafodd y lefel hon ei defnyddio o hyd gan y Sulphide Corporation.  Rwy’n amau ei bod yn ffordd haws o ddod allan o’r Siafft Newydd na thrwy Lefel Maescarhyg, sef Lefel nad oedd, mae’n ymddangos, yn cael ei weithio erbyn hynny.  

Mae Lefel Tân mewn coetir gweddol drwchus ar draws y ffordd o domenni eithaf helaeth o ddefnydd  wedi’i dorri â llaw.  Mae’r uchaf o’r cronfeydd sy’n dal i gadw dŵr tua’r un uchder.  Mae’r porth mewn cyflwr gwael.  Ymddengys ei fod yn adeiladwaith syml o ddwy wal gerrig ac ychydig o bolion dros y cyfan.  Mae’n debygol fod y safle’n dyddio o’r 17g a gallai fod o ddiddordeb archeolegol.  Gall fod yr enw’n deillio o’r arfer o ddefnyddio tân yn ystod y gwaith adeiladu, neu o’r mwg a allai fod wedi dianc o’r mwynglawdd drwy’r lefel.

Er i safle'r mwynglawdd gael ei ddifetha gan goedwigaeth yn ystod rhannau helaeth o’r 19g a'r 20g, mae rhan ddeheuol brigiad yr Hen Wythïen yn rhy ddiffrwyth ar gyfer coed ac mae’n dal mewn cyflwr eithriadol o dda.  Mae’r cyfuniad o’r brigiad cwarts enfawr a gwaith brig a lloriau triniaeth hynafol yn werth eu cadw a’u harchwilio fel mwynglawdd canoloesol digyffwrdd.

Ar safle’r Lefel Bad Dwfn, cafodd y tir ei adfer yn eithaf llwyddiannus.  Cliriwyd y felin a’r tomenni ar gyfer craidd caled ac mae’r safle, ar ôl cael ei ail-hau, bellach yn cael ei ddefnyddio fel gwersyllfa a thir amaethyddol isradd.  Mae modd gweld y porth yng ngardd tai “The Dry”.  Ond mae wedi llithro’n wael ac mae’n amlwg fod y gwaith carreg mewn cyflwr gwael.  Rhwng 1887 a 1900, suddwyd dwy siafft er mwyn cysylltu â’r Lefel Bad Dwfn.  Mae’n amlwg y defnyddid un i wella’r awyru ond mae’n anodd esbonio’n rhesymegol pam y suddwyd siafft o fewn 60 metr i’r porth.  Rwy’n tybio mai pwrpas y siafft hon oedd er mwyn atgyweirio’r gwaith carreg lle’r oedd yn ymuno â’r graig.  Dywedir bod y Lefel yn 10 troedfedd sgwâr (3.05 metr) a’i fod wedi cael ei yrru fel drifft drwy'r gwelyau grut.  O’i borth cafodd ei yrru tua’r gogledd-ddwyrain am 620 metr mewn llinell sydd bron yn syth cyn gwyro i’r dwyrain a chwrdd â’r stobau cyntaf.  Mae’r man pellaf o’r porth o dan Lefel Goch, sef pellter o 1200 metr.  Dim ond ychydig o groestoriadau a dyllwyd o’r drifft hwn.  Yn yr wythïen fwyn tyllwyd croestoriad byr tua’r de-orllewin er mwyn mynd trwy Ganghennau Pugh a Tank.  Rhwng y porth a’r Siafft Awyr, cafodd croestoriad 120 metr o hyd, "Drifft Pannau" ei gloddio tua'r dwyrain heb unrhyw bwrpas amlwg.  Honnwyd taw dyma ffynhonnell y cwartsit, ond rwy’n fwy tueddol o gredu taw er mwyn archwilio’n unig y’i defnyddid.

Mae porth y Lefel Fas (Cadno) tuag ugain metr i’r de o lwybr coedwig sy’n rhoi mynediad hawdd i’r geuffordd agored hon.  Ymddengys y cafodd ei chau ar ôl i’r Sulphide Corporation roi'r gorau iddi tua 1932, ond cafodd ei hagor gan y diweddar Bruce Foster yn 1962-63.  Am nad oedd neb yn gwybod ei henw, cafodd ei galw’n Lefel Cadno am fod cadnoid i’w gweld yn rheolaidd yno.  Defnyddiwyd yr enw gan Glwb Ogofeydd Cwmbrân o 1966 ymlaen pan fu'r aelodau'n archwilio'r cloddiadau hygyrch.  Gelwid y geuffordd hon Lefel Cadno gan Glwb Mwyngloddiau Sir Aberteifi hefyd pan wnaed ymdrechion aflwyddiannus pellach i gael mynediad i gloddiadau’r Brif Wythïen.

Mae porth Lefel Pannau tua chanol llithriad ar lan orllewinol Nant Gwyn, ar yr un haenlin â’r tomenni  mwynglawdd i’r gogledd-ddwyrain o Stryd Pannau ar derfyn gogleddol pentref Rhandir-mwyn.  Ymddengys taw un ‘n’ oedd yn y sillafiad gwreiddiol, ac ar y trawsluniau ceir ‘Panny’.   Mae’r geuffordd ymhlith y cloddiadau symlaf ar y safle hwn ac fe’i cyfyngwyd i ddrifft troellog ar hyd Gwythïen Roderick, gan godi i Lefel Angred a lefelau eraill.

Cafwyd esgyniad arall yng nghefn y geuffordd er mwyn cysylltu â’r wyneb tua 150 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r porth.  Ymddengys taw pwrpas yr esgyniad hwn yn rhannol oedd er mwyn archwilio gwerth Gwythïen Roderick a hefyd i wella’r awyru.  Mae’r trawsluniau’n dangos cloddiadau o dan Lefel Pannau nad ydynt yn ymddangos ar y cynlluniau.  Nid yw’r rhain o bwys mawr ac ymddengys eu bod yn draenio trwy gyfrwng croestoriadau i’r Lefel Bad Uchaf ar y Brif Wythïen.  Ymddengys taw’r is-lefelau hyn o dan Lefel Pannau oedd y llwybr a ddisgrifiwyd gan Wallter Mechain yn 1815 wrth iddo deithio dros y mynydd.

Mae’r rhan fwyaf o’r cloddiadau ar yr wyneb rhwng Siafft Conscience a’r Lefel Uchaf wedi’u difrodi mor wael fel ei bod yn amhosibl eu dehongli’n gywir.  Mae’n bosibl taw'r domen fawr uwchben y Droedffordd yw’r graig ddatblygu o Lefel Goch.  Ynglŷn â’r tomenni eraill, cafodd eu proffiliau eu newid i’r fath raddau fel ei bod yn anodd barnu a ydynt yn deillio o geuffyrdd neu siafftiau.
Hefyd, mae yna ddwsinau o hen gwteri dibriddo sy’n rhedeg ar draws y safle i’r gogledd a’r dwyrain  i Siafft Angred.  Mae cloddiadau'r ugeinfed ganrif a choedwigo diweddarach wedi difrodi’r rhain, ond mae modd eu dehongli o hyd – ac eithrio yn y goedwig ei hun.

Mae’n debygol fod yna weddillion amryw o felinau a glanfeydd camlesi wedi’u claddu o dan y tomenni ger ceg y Lefel Bad Uchaf ar lan ddeheuol Nant-y-Bai.  Roedd y gweddillion yn weddol gyfan yn ôl ffotograffau o’r awyr yn 1946, sy’n ategu’r Arolwg Ordnans o ran dangos fod y gyfadail hon yn debygol o fod yn helaethach na’r hyn a bortreadwyd gan John Warwick Smith yn 1792.  Mae Cynlluniau Ordnans 1884 yn dangos grŵp o 13 o adeiladau yn y fan hon ond ymddengys fod y felin fathru a’r lanfa wedi cael eu newid cyn rhoi’r gorau i’w defnyddio yn 1900.  Rwy’n tybio fod y tri adeilad mwyaf deheuol yn eithaf hen ac mae’n bosibl eu bod yn dyddio o gychwyniad y geuffordd yn y 18g ac mai’r felin falu, yr efail a’r gwaith smeltio  gwreiddiol ydyn nhw.  Gall taw simnai ffwrnais oedd yr arglawdd sy’n rhedeg i’r de ddwyrain o’r adeiladau hyn ac mae’n bosibl taw rhan o lanfa camlas a ddarluniwyd yn 1792 oedd y waliau i’r gogledd. (Paentiad: John Warwick Smith).

Mae’n ymddangos na wnaeth y Sulphide Corporation lawer o waith fan hyn ar wahân i glirio peth o’r graig ddatblygu drwy’r Lefel Bad Uchaf.  Mae’r adroddiadau cyntaf yn sôn am gwympiadau a dŵr yn cael ei ddargyfeirio, sy’n awgrymu nad oedd modd defnyddio’r geuffordd o gwbl, ond mae adroddiadau diweddarach yn cyfeirio at amnewid  propiau.  Ymddengys fod Eastwood wedi gallu mynd i mewn i'r rhan hon o'r mwynglawdd er mwyn cynnal arolwg byr yn 1942.  Erbyn 1946 roedd y porth wedi dechrau llithro ond roedd dŵr yn dal i ollwng drwyddo.  Dywedodd y diweddar Bruce Foster wrthyf fod y porth wedi cwympo’n llwyr erbyn 1963 a bod lefel y dŵr yn uwch na’r copa.  



S. J. S. Hughes
Joe Nile
Erbyn 1785 roedd y gwythiennau’n ddigon pwysig i gyfiawnhau dechrau’r Lefel Bad Dwfn.  O dan oruchwyliaeth John Rolley, cymerodd 13 blynedd i gloddio 730 metr (800 llath) i mewn i hen sỳmp, tua 54 metr (180 troedfedd = 30 gwryd) o dan y Lefel Bad Uchaf.
Pan ymwelodd John ‘Warwick’ Smith â’r ardal ar 13 Awst 1792 fe’i hysbrydolwyd gan geg y Lefel Bad Uchaf i baentio llun dyfrlliw,

‘The Interior of the Mining Parts of Carreg Mowyn where Lead Ore is principally carried in boats through narrow level communications branching from the mines’.  The boats used in this subterraneous navigation are narrow, sharp at each end and of about five tons – one man brings out several of these, sometimes using a paddle, sometimes grappling with the rock with his hands, but their favourite method is, by lying down on their backs with their feet against the roof – forcing the boats along – the buildings are adapted for a stamping and a corn mill for miners.’
Bu farw Capten Argall ar 30 Tachwedd 1929 – fis ar ôl i'w le gael ei gymryd gan Joe Nile – gŵr arall o Gernyw, a oedd wedi graddio o Ysgol Fwyngloddiau Camborne.

Roedd Joe Nile o dras ddiddorol, ac mae’n werth rhoi sylw iddi’n fyr   Ar ôl graddio o Ysgol Fwyngloddiau Camborne ymddengys y bu’n gweithio mewn sawl un o’r mwyngloddiau tun gorau yng Nghernyw ac roedd yn rheolwr Mwynglawdd Grenville tua 1920.  Priododd ag un o ferched William Thomas, ei hen Bennaeth yn yr Ysgol Fwyngloddiau, a oedd erbyn hyn yn beiriannydd ymgynghorol a rheolwr ym Mwynglawdd Tincroft.  Bu’r teulu Thomas yn gysylltiedig hefyd â Mwynglawdd Dolcoath am sawl blwyddyn.  Felly, roedd Nile yn frawd-yng-nghyfraith i’r Capten R.R. Nancarrow o Fwyngloddiau Lisburne, a oedd wedi priodi ag un arall o ferched Thomas.

Pan ymgeisiodd am y swydd o reolwr yn Nant-y-mwyn, un o’i ganolwyr oedd y Capten Josiah Paull, rheolwr mwynglawdd South Crofty.  Bu Argall, Nile, Thomas, Nancarrow a Paull yn rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgor y Bwrdd Masnach a fu’n ymchwilio i ac yn adrodd ar y Diwydiant Mwyngloddio Anfferus  yn 1920.  Gyda chefndir o’r fath, gallasai wedi bod yn chwithig ac anodd i gynnig y swydd i unrhyw un heblaw Joe Nile.  Er ei fod yn fwyngloddiwr o'r radd flaenaf, ni ddefnyddiodd y teitl ‘Capten’.


Mae trigolion lleol hefyd yn cofio marwolaethau’r Capten Thomas Mitchell (gynt o Gwmystwyth) a’r Capten Lewis yn ystod y 1920au.  Roedd y ddau’n eithaf oedrannus ac wedi rheoli’r mwynglawdd  o flaen Argall h.y. cyn 1890.