|
|||||||||||||
|
|
|||||||||||||
|
|
Barcud Coch
Mi sefydlwyd dwy warchodfa adar yn ardal Rhandirmwyn i ofalu am y barcud coch. Maent mewn bodolaeth o hyd, Dinas a Gwenffrwd. Mae Dinas yn fwy adnabyddus i’r cyhoedd ond roedd Gwenffrwd yn fwy pwysig. Rhan o’r gwarchodfa hyn oedd allt Rhyd-y-groes sydd ochr draw i’r cwm i fferm Troedrhiwruddwen, cartref y diweddar William Jones. Ar ddechreuad y ganrif ddiwethaf roedd y barcud yn nythu yn un o’r coed ac roedd William yn medri gweld y nyth o’i dy. Yr oedd yn ddyn freintiedig dros ben am mae yma oedd bron yr unig le ym Mhrydain lle roedd y barcud yn nythu.
Mae yn stori o lwyddiant aderyn a oedd wedi suddo mewn nifer i fron un iâr a oedd yn medri magu, i’r sefyllfa iachus sydd gennym heddiw. Does dim amheuaeth fod cymdeithasau fel Pwyllgor Gwarchod y Barcud a’r RSPB a dyfalbarhad rhai unigolion wedi chwarae rhan fawr yn y llwyddiant. Heb ei cymorth, fyddai’r barcud wedi marw allan. Heddiw mae barcudiaid o’r cyfandir wedi ei cyflwyno i ardaloedd arall o Brydain a maent yn magu yn llwyddiannus.
Heddiw mi welwch rhai barcudiaid yn hedfan uwchben Rhandirmwyn. I mi hwn yw ei gwir gartref a maen deimlad twymgalon i feddwl efallai ei bod wedi hanu o’r barcudiaid a welais yma yn y pumdegau pan oeddwn yn fachgen. Rwyf efallai yn rhagfarnllyd ond mi welaf farcudiaid mewn llawer i fan yng Nghymru a bob tro rwy’n falch. Yn aml gwelaf llawer gyda’i gilydd cymaint a deuddeg ond mae gweld un yn yr awyr goruwch i Rhandirmwyn yn werth rhain i gyd.
Weithiau gwelaf rhai yn hedfan yn isel dros y pentref, ger yr eglwys ond fy hoff le yw gwylio ar y mynydd uwch i fferm Bwlch-y-ffin sydd ger Llyn Brianne. Yn ei lyfr, ‘The Kite’s Tale,’ mae’r awdur Roger Lovegrove yn sôn am ei ymweliad i Rhandirmwyn yn 1957 pan welodd ei farcud cyntaf ger Bwlch-y-ffin. Yn groes i sylwadau ganddo fod y Barcud wedi mynd o’r ardal mi allaf gadarnhau fod y barcud yma o hyd ac yn edrych mor rhyfeddol ag erioed. Mae’r llyfr yn ddarlleniad rhagorol a mae’n rhoi darlun clir o hanes y barcud Cymraeg. ISBN 0-903138-37-9
Tynnaf eich sylw yn nawr at lyfr a alwyd, ’Bird Life in Wild Wales,’ a’i gyhoeddodd yn 1903. Gwna’r awdur, Mr J A Walpole-Bond gyfeiriad am y barcud drwy bennod a alwyd, ’In the nest Haunt of the Kite.’ Dewed, ’Once common, even to the wonderment of foreigners, in the British Isles, the Red Kite is now reduced to a miserable remnant of some four pairs and an odd bird, which endeavour, but with ill success, to breed in a few chosen haunts in the Principality’. Aeth ymlaen i ddweud, ’At last measures have been taken (alas! all too late, I fear) to protect as far as possible this truly magnificent bird of prey..’
Gwelwch fod y sefyllfa’n ddiobaith yn 1903 sy’n gwneud stori’r barcud yn fwy rhyfeddol fyth. Ym mhob cyfeiriad mewn cylchgronau a phapurau dyddiol ni wnaeth yr unrhyw ddatganiad o’r man lle roedd y barcud wedi cartrefi. Y bwriad oedd i rwystro’r cythreuliaid oedd yn dwyn wyau adar. Roeddent, rwy’n ofn yn gwybod cymaint a’r arbenigwyr am gynefin y barcud a gyda chymorth ambell drigolyn llwyddont ddwyn wyau yn weddol rheolaeth.
Dyma doriad allan o bapur newydd yn yr wythdegau (1980’s) sy’n talfyrri cyfraniad yr RSPB a hefyd ffermwyr a thrigolion blaenau Tywi. Rwyf o’r farn dylai cofeb neu cerfddelw ei osod yn yr ardal i’n atgofio am gyfraniad y bobol a hefyd am frwydr ddewr yr aderyn rhyfeddol hyn. Y Barcud Coch. Oes gennych unrhyw farn am hyn. (Cysylltwch a mi) Farmers helped red kite
SIR,
— The statement made
by your reporter (Trail of the red kite to boost jobs, Western Mail,
March 14)
that “egg collectors
and farmers pose a deadly
threat” must be put
into proper context.
That egg collectors
pose a threat is not In dispute, but the co-operation of the army in
recent years has played a significant part In minimizing the effect of
these mindless predators.
Rwy’n gorffen gan gynnwys dogfen a argraffwyd yn 1953 gan Capten H R H Vaughan, Tŷ Nantymwyn, Rhandirmwyn. Rwy’n ei gofio’n dda a roedd yn dipyn o gymeriad. Bu’n byw yno gyda’i wraig Irene a roeddent yn flaenllaw iawn yng nghadwraeth y barcud coch. Morwr oedd Capten Vaughan a roedd wedi ymddeol o’r fyddin. Roedd yn ynad yn y llys yn Llanymddyfri a rwy’n sicr pe bai rhywun o’i flaen am ddwyn wyau’r barcud fyddai yna ddim trugaredd.
Roedd y capten byth yn agos iawn i’r gymuned ond roedd ganddo ddiddordeb mawr am ddigwyddiadau oedd yn effeithio’r trigolion a roedd yn gefnogol iawn i fentrai lleol. Pan oeddwn yn fachgen yr oedd arna i ofn o’r hen gapten. Roedd braidd yn swrth a weithiau croen denau. O flaen Tŷ Nantymwyn yr oedd yna berllan fawr ac ar adegau roedd yn rhaid i mi fynd yno i brynu afalau ar rhan fy mam. Fyddwn byth yn cytuno i fynd am yr oeddwn yn ofn cwrdd a’r capten. Roeddwn yn gwybod mae y cyfarch fyddai yn Saesneg, ‘Young Jones,what do you want?’. Yna fyddai yn galw ei wraig. Pob tro es i Dy Nantymwyn roeddwn yn gweddïo na welwn y capten. Er hynny roedd gennyf barch mawr iddo. Efallai fyddai’r byd yn llawer gwell lle pe bai cymeriadau fel ef yn ein cymunedau heddiw.
Llysieuydd oedd Irene Vaughan ac yn berson dymunol iawn ac roedd ganddi ddiddordeb mawr yn mhlant y pentref, yn aml yn sgwrsio am blanhigion ac anifeiliaid.
Roedd fy nhad yn bysgotwr da a dywed rhai ei fod yn dipyn o botsier hefyd. Weithiau roedd yn rhaid i mi ar ei rhan fynd a eog a ddaliwyd yn yr afon Tywi i’r capten. Rwy’n siŵr fod y capten yn amheus am gefndir y pysgodyn ond meddyliad fy nhad oedd pe bai mor anlwcus a cael ei ddal yn potsian, efallai fyddai’r capten yn oddefgar os fyddai o’i flaen yn y llys. Rwy’n ddiolchgar iawn na ddaeth pethau i hynny!
Anrhydeddwyd Capten a Mrs Vaughan gan yr RSPB a rhoddwyd iddynt medalau aur am eu cyfraniad tuag at gadwraeth y barcud coch. Bu farw y capten yn 1978. Aeth Mrs Vaughan yn nol i fyw yn Suffolk lle ganwyd hi a bu hi farw yn 1993 yn 103 mlwydd oed. A oes gennych luniau neu storiâu am y barcud coch. Oeddech yn un o’r milwyr a warchododd nythod y barcud am wythnosau. Os oeddech, cysylltwch a mi.
|
||||||||||||