English

Cymraeg

 

 

 Hafan

 Rhandirmwyn

 Tom Lewis

 Oriel Llunian

 Media

 Mwyngloddio

 Yr Hen Ysgol

 Barcud Coch

 Llyn Brianne

 Yr Amerig

 Cysylltiadau

 Cysylltwch

Newydd

 

Y Presennol   Capeli Ffarmio Coedwigaeth Twm Siôn Cati Gwybodaeth

 

Pentref gwasgaredig yw Rhandirmwyn wedi ei leoli yn rhan uchaf cwm Tywi, Sir Gaerfyrddin.  Mae’r enw wedi deillio trwy gyfuno dau air, sef  ‘Rhandir,’ a ‘Mwyn’.  ‘Rhandir’ – darn o dir. ‘Mwyn’ – lle cloddiwyd cannoedd o dunelli o blwm a sinc yng ngwaith mwyn Nantymwyn. 

 

Yn fy marn i mae’n enw prydferth i le prydferth iawn.

 

Gobeithaf, wrth i chi ymweld a safle’r wefan yma, y cewch gipolwg o fywyd yr ardal tros gyfnod y flynyddoedd yn y cwm tawel yma a leolir ym mynyddoedd Y Cambria (Elenydd).  Hoffwn hefyd ddangos i chi rhai agweddau o fywyd yr ardal heddiw.

 

December 22nd 1873 Dechreuaf drwy ddiffinio’r lle a elwir yn ‘Rhandirmwyn’.  Y sillafiad cywir yw Rhandir - mwyn.

 

Gall unrhyw un sy’n archwilio hanes ei deulu wynebu trafferthion wrth geisio dehongli ffiniau Rhandirmwyn heb yn gyntaf sylweddoli eanhger yr ardal.   Adnabyddir ardal Rhandirmwyn gan eu thrigolion fel un sy’n ymestyn ar hyd y ddwy ochr o’r afon Tywi tua dwy filltir i’r gogledd o bentref Cilycwm, i fyny i gwm Gwenffrwd hyd at Bwlch-y-rhiw ac yna i’r dwyrain tuag at Geredigion a Brycheiniog (Powys).  I’r dde o’r pentref mae’n ymestyn ar hyd ochr ddwyreiniol yr afon cyn belled a fferm Clynmawr.   O fewn y terfynau yma mae’r trigolion wedi disgrifio’u  hunain erioed fel “Pobl Rhandir”. 

 

Felly, mae’n angenrheidiol i’r sawl sy’n archwilio hanes teuluol edrych ar gofrestrau a chyfrifiadau plwyfi Llanfair ar y Bryn, Cilycwm ac hefyd Doethie Camddwr.   Cysylltwch â’r wefan am gymorth.

 

Yn enghraifft o hyn ymddengys y geiriau yma yn Gymraeg ar garreg fedd ym mynwent Scranton, Pennsylvania yn cofnodi marwolaeth bachgen o Randirmwyn:

 

Er coffadwriaeth am William A Davies

Gynt o’r Rhandirmwyn, Plwyf Cilycwm,

Sir Gaerfyrddin, Deheudir Cymru.  Yr hwn

a fu farw Rhagfyr 22 1873 yn 26 mlwydd oed.

 

 

Y Presennol   Capeli Ffarmio Coedwigaeth Twm Siôn Cati Gwybodaeth

 

  ^Top^