Share on Facebook Share on Twitter Share via e-mail Print
Y PREIFAT TIMOTHY DAVIES, REIFFLWYR BRENHINOL Y BRENIN

Timothy Davies, Preifat, Corfflu Reifflwyr Brenhinol y Brenin: ganed yn 1892, yn fab i Thomas a Margaret Davies, Cwrdinas, Rhandi-mwyn. Ymunodd â’r fyddin yn Llanymddyfri ym mis Tachwedd 1915 a chyrhaeddodd Ffrainc yn y mis Ebrill canlynol.  Ym misoedd Gorffennaf ac Awst, bu’n ymladd ym mrwydrau ymgyrch y Somme, yn Bazentin, Pozières a Flers-Courcelette. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, chwaraeodd ei Adran ran bwysig wrth gipio Beaucourt. Adroddwyd bod Timothy ar goll a hwyrach wedi’i glwyfo ar 14 Tachwedd 1916, ond cyhoeddwyd wedyn iddo gael ei ladd yn y frwydr y diwrnod hwnnw. Roedd yn 24 oed, ac fe’i cofir ar Gofeb Thiepval yn Ffrainc.


Dychwelyd

RB1

Dychwelyd

RB1