|
|||||||||||||
|
|
|||||||||||||
|
|
YSGOL RHANDIRMWYN
1900 - 1930 - 1934 - 1934.1 - 1950 - 1953 - 1958 - Gwersi - Disgyblion diwethaf - Amgueddfa’r ysgol [1] [2]
Sefydlwyd yr ysgol gyntaf yn Capel Peulin, Ystradffin yn ystod canol yr ail ganrif ar bymtheg. ’Roedd y Capel yma ar un adeg o dan berchnogaeth Mynaich Sistersaidd (Cistercian Monks), Ystrad Fflur; nhw hefyd oedd perchnogion “Y Grange” a’r capel arall o’r un enw “Capel Peulin” yn Nant-y-bai. Credir i’r ysgol, ychydig yn ddiweddarach, gael ei symud i Nant-y-bai.
Ym 1833 adroddodd Samuel Lewis fel a ganlyn:-
‘Abad Rhandir (Rhandir Abbot) – Saif Capel Nantybai yn y pentrefan yma. Fe’i ail godwyd ar y safle yma yn hytrach nag yn Ystrad Ffin lle safai’r adeilad gwreiddiol. Y fywoliaeth oedd curad parhaol, gyda gwaddol o £200 yn roddion preifat ynghyd â £1,000 o bownti brenhinol, ac o dan nawddogaeth Iarll Cawdor. Dyma ysgol ddyddiol, yn cynnwys 25 o blant, gyda chefnogaeth rhannol Iarll Cawdor a roddir £5 y flwyddyn i’r athro, a chan y rhieni; hefyd 3 Ysgol Sul lle y dysgir yn rhad tua 120 o ddynion a menywod.’
‘Rhandir Abbot’ - The chapel of Nant y Bai is in this hamlet, having been re-erected here instead of Ystrad Ffin, where the original building stood. The living is a perpetual curacy, endowed with £200 private benefaction, and £1,000 royal bounty, and in the patronage of Earl Cawdor. Here is a day school, containing 25 children, which is supported partly by Earl Cawdor, who allows the teacher £5 p.a. and partly by the parents; also 3 Sunday Schools in which about 120 males and females are gratuitously taught.’
Daeth addysg ffurfiol i Randirmwyn trwy gyfrwng yr Ysgolion Cenedlaethol (National Schools) ym 1859 pan adeiladwyd yr ysgol gyntaf. Er hynny ni agorwyd drysau’r ysgol i ddisgyblion tan 1860 ac ni welwyd ychwaith unrhyw gofnod yng nghofrestr yr ysgol tan 1863. Dyma’r hyn a gofnodwyd:-
Ysgol Genedlaethol Rhandirmwyn (Rhandirmwyn National School)
‘Sefydlwyd yr ysgol uchod yn
y flwyddyn 1859 trwy ymdrech a dylanwad y Parchedig Joshua Hughes,
Llanymddyfri. Fe’i agorwyd ar Chwefror 7fed,
Diwrnod trist i’r gymuned gyfan oedd y diwrnod hwnnw ym mis Tachwedd 1969 pan gaewyd drysau’r ysgol am y tro diwethaf.
‘Rydym wedi cynnwys rhai hen luniau o ysgol Rhandirmwyn ar hyd y blynyddoedd, ac yr ydym yn awr yn y broses o grynhoi hanes yr hen ysgol gan gynnwys adroddiadau gan Olwen Jones, Llethrgwyn a Tommy Williams, Troedrhiwhir am eu hamser yn yr ysgol o gylch 1920. Oes gennych chi atgofion o’ch cyfnod yn ysgol Rhandirmwyn?
’Rwy’n cofio cerdded y daith hir trwy’r glaw i’r ysgol ac yna eistedd yn y dosbarth gyda’n cotiau gwlyb wedi’u taenu dros y sgrin oedd yn amgylchu’r ffwrn dân fawr gyda chymylau o stêm yn codi i’r awyr. Wrth inni gerdded adref byddem yn arfer sefyll ar wal siafft gwaith mwyn Erw’r Hwch gan daflu cerrig i lawr iddi, a chyfrif tra’n gwrando’n astud am yr atsain dawel yna pan ddisgynnai’r garreg i’r gwaelodion. Yna fe osodwyd sgrin fawr drosti, a dyna ddiwedd ar ein hwyl. (Diolch am hynny, neu efallai byddai ein chwarae ni wedi troi’n dristwch.)
Nid ysgol yn unig oedd Ysgol Rhandirmwyn, ’roedd yn rhan annatod o fywyd cymunedol. Yn aml byddai’r ysgol yn cael ei thrawsnewid i fod yn neuadd gyngerdd gyda llwyfan a llenni. Yn ystod cyfnod y rhyfel cynhaliwyd cyngherddau “Welcome Home” i’r milwyr lleol i’w croesawu adref dros dro. Fe fyddai’r arweinydd dawnus, Mr. David Thomas, Nantgwyn, yn llwyddo i gadw’r gynulleidfa o dan ei gyfaredd gyda’i hiwmor a’i storïau gwych. Gwelwyd amrywiaeth o dalentau lleol yn ymddangos ar y llwyfan i ganu, adrodd neu talu teyrnged i’r gwr neu’r gwyr ifanc a fyddai, cyn bo hir, yn gorfod dychwelyd i faes y gad.
Yr ysgol hefyd oedd canolbwynt yr ardal; dyma’r lle byddai aelodau’r gymuned yn cwrdd adeg unrhyw argyfwng, e.e. cynllun Llyn Brianne neu unrhyw achlysur arall a olygai bod angen i’r trigolion ymgynnull.
Yn ystod fy mhlentyndod llwyfannwyd cyngherddau ardderchog yno ac ambell ddrama o bryd i’w gilydd. Cynhaliwyd hefyd Gyrfaon Chwist a “Play at your Peril”. ’Roedd rhai o’r gwragedd hŷn yn bencampwyr ar chwarae cardiau, ac ambell dro llwyddwyd i berswadio rhai o’r bobl ifanc i ymuno er mwyn gwneud fyny y rhifau. Hefyd fe fyddai chwaraewyr cardiau profiadol yn teithio o Gilycwm a Chynghordy a’u bryd ar ennill. Llawer gwaith bu rhaid i mi ysgwyddo cynddaredd rhai o’r gwragedd yma, oherwydd un carden anghywir oedd angen, a dyma hi! Yn sydyn byddem yn ganolbwynt y sylw i gyd. Fe’m disgrifiwyd ganddynt yn ‘llo’; ‘penbwl twp’; neu ‘mae e’ fel bat’. Dros y blynyddoedd fe ddefnyddiwyd y termau yma i gyd i’m disgrifio. Erbyn yr Yrfa Chwist nesaf byddai’r cyfan wedi ei anghofio a byddem unwaith eto yn barod i ymuno er mwyn gwneud fyny y rhifau. Fe glywyd y geiriau “good boy” ar draws yr ystafell nes imi unwaith eto chwarae carden anghywir, ac yna byddent yn dychwelyd at ddefnyddio’r un termau ag a ddefnyddiwyd yn yr ornest flaenorol. Nid wyf bellach yn chwarae cardiau. (Alun Jones)
Nid oes angen dweud ein bwriad yw ychwanegu at straeon yma ynglŷn â bywyd yn, ac o amgylch, Ysgol Rhandirmwyn. Os oes gennych stori neu hen luniau, a wnewch chi gysylltu â ni?.
1900 - 1930 - 1934 - 1934.1 - 1950 - 1953 - 1958 - Gwersi - Disgyblion diwethaf - Amgueddfa’r ysgol [1] [2]
|
||||||||||||