|
Newydd

Mary Ann
Evans

Thomas D Evans |
Yn fwy na thebyg rydych chi’n methu
deall pam mae tudalen yn ymwneud ag America ar wefan sy’n rhoi hanes
pentref bychan yng Nghymru. Mae dau air yn cysylltu Rhandir-mwyn ag
America, sef ‘plwm’ a ‘sinc’. Roedd mwynwyr plwm y graig galed yn gwbl
addas i weithio yng ngweithfeydd glo caled America, ac o ganol tan
ddiwedd y 1800au ymadawodd llawer am fywyd gwell yn y lle rhyfeddol hwn
a oedd yn llawn addewidion a golud. Fe fyddech chi’n synnu faint o bobl
adawodd y dyffryn hyfryd hwn i ddechrau bywyd newydd y tu hwnt i Fôr
Iwerydd. Talaith Pennsylvania oedd pen y daith i'r rhan fwyaf, yn
enwedig ardaloedd glo caled Scranton a Wilkes-Barre . Aeth rhai i
daleithiau eraill, fodd bynnag. Os ydych chi’n ddisgynnydd neu’n
berthynas i rywun a adawodd yr ardal hon, hoffwn glywed gennych. Ydych
chi’n chwilio am berthnasau a aeth i America, neu a ydych chi’n byw yno
– neu rywle arall o ran hynny - ac yn chwilio am hynafiaid oedd yn hanu
o Randir-mwyn neu Flaenau Tywi. Gadewch i mi gael eich hanes.
Er i lawer fynd i weithio yn y pyllau glo, aeth eraill ar drywydd gwaith
arall a llwyddo’n dda. Dyma hanes rhai o’r bobl hynny. Caiff hanes
eraill ei gynnwys yn y dyfodol.
Morgan B Williams
Ganed Morgan yn Rhandir-mwyn ar 17 Medi 1831. Hyd yma does gennym ddim
manylion am ei gefndir teuluol, ond rydym yn ymchwilio. Yn 1856 aeth i
Awstralia, gan ddychwelyd i Gymru yn 1861, ond ymhen fawr o dro
ffarweliodd â Rhandir-mwyn unwaith eto. Ym mis Mawrth 1862 aeth i
America ac ymgartrefu yn Scranton, Pennsylvania, lle bu’n gweithio yn y
pyllau glo.
Symudodd i Wilkes-Barre, Pennsylvania, ym mis Medi 1865 ac yn
ddiweddarach fe’i penodwyd yn arolygydd i Gwmni Glo Leigh &
Wilkes-Barre, swydd y bu ynddi am 14 blynedd. Roedd yn llywpdaethwr
ysgol a bu’n aelod o gyngor y ddinas am ddeuddeng mlynedd. Yn 1884
gwasanaethodd yn Senedd Talaith Pennsylvania a daeth yn aelod o Gomisiwn
Ffair y Byd yn Chicago.
Etholwyd Morgan B Williams i'r 55ain Cyngres fel gweriniaethwr a bu yn
Nhŷ
Cynyrchiolwyr yr Unol Daleithiau o 1897 tan 1899 fel cynyrchiolydd 12fed
ardal gyngresol Pennsylvania.
Parhaodd i weithio yn y diwydiant glo ac roedd yn is-lywydd a rheolwr
cyffredinol Cwmni Glo Red Ash. Bu farw yn 1903.
John T Williams
Ganed John T Williams ar Fferm Cwmsaethau, Rhandir-mwyn yn 1839, yn fab
i Barbara a Thomas Williams. Ymadawodd â’r ysgol leol yn 16 oed i fynd i
weithio yng ngwaith plwm Nant-y-mwyn, ond yn 1859 pan oedd yn 20 oed,
aeth John T. i America, gan hwylio o Abertawe a chyrraedd Efrog Newydd
fis yn ddiweddarach. Ymgartrefodd yn Scranton, Pennsylvania, lle bu’n
gweithio yng Nglofa Hampton i’r Delaware, Lockwana and Eastern Railroad
Company. Ymhen fawr o dro, fodd bynnag, roedd John T. ar grwydr unwaith
eto, a’r tro hon aeth i chwilio am aur yng Nghaliffornia. Yn 1861
hwyliodd ar fwrdd llong ager o Efrog Newydd i San Francisco. Bu yng
Nghaliffornia am bum mlynedd, gan gloddio yn San Juan. Er na chafodd ei
freuddwyd o ddod yn ddyn cyfoethog ei gwireddu, roedd John T. yn llawn
penderfyniad. Dychwelodd i Scranton ac yn 1867 a phriodi â Mary Lewis o
Neath, Pennsylvania. Roedd ei theulu hi’n hanu o Drecynon, ger Aberdâr
yng Nghymru. Ymgartrefodd y ddau yn Hampton Street, Scranton, a chawsant
bump o blant. Aeth John T. yn ôl i weithio yn y pyllau glo a daeth yn
fforman. Fodd bynnag, dechreuodd fuddsoddi mewn cloddio a chafodd ei
ddisgrifio mewn un cyfrifiad fel landlord a chyfalafwr. Yn 1874 roedd yn
un o’r cyfranddalwyr gwreiddiol pan sefydlwyd y West Side Bank.
Yn 1884, ar ôl marwolaeth ei dad, bu John T. yn ymweld â'i fam yn
Rhandir-mwyn. Yn fuan wedyn, cafodd ei enwebu gan y Blaid Weriniaethol
fel ymgeisydd i fod yn ddeddfwr talaith Pennsylvania a chafodd ei ethol
â mwyafrif o1300. Roedd hon yn swydd gyfrifol iawn. Mewn gwirionedd,
roedd yn aelod o’r llywodraeth ar gyfer Talaith Pennsylvania gyda
chyfrifoldeb dros weithredu deddfau’r dalaith.
Yn 1886 sefydlodd fusnes masnachol cyffredinol dan yr enw Williams and
Co. Roedd mewn partneriaeth â John Williams arall, sef John H. Williams
– ac roedd gwreiddiau hwnnw hefyd yn Rhandir-mwyn. Bu’n fenter
lwyddiannus dros ben. Roedd John T. yn gyfarwyddwr y Scranton Packing
Company yn ogystal, ac roedd wedi buddsoddi’n sylweddol yn y diwydiant
glo. Roedd yn gyfarwyddwr a thrysorydd y Cambrian Mutual Fire Insurance
Company.
Yn 1896 roedd John T. yn un o'r cynrychiolwyr yng Nghyngres Genedlaethol
y Gweriniaethwyr yn St Louis lle cafodd William McKinley ei enwebu am y
tro cyntaf yn ymgeisydd gweriniaethol ar gyfer Arlywyddiaeth yr Unol
Daleithiau. Fe’i etholwyd yn 1897 a bu yn y swydd tan 1901.
Daeth John T. yn llywydd y West Side Bank a bu farw yn 1903.
(Rydym yn ddiolchgar i Martha Phillips, Scranton, wyres John T. Williams
am yr wybodaeth hon).
Thomas D Evans -
O
Randir-mwyn i Pennsylvania
|