|
|||||||||||||
|
|
|||||||||||||
|
|
O Randir-mwyn i Pennsylvania
Hanes Thomas D. Evans a’i deulu
Ganed Thomas D. Evans yng Ngwernhirion, Rhandir-mwyn ar 10 Mai 1864. Roedd yn fab i Daniel a Mary ac yn frawd i fy hen fam-gu, Sarah. Roedd ei dad, Daniel, yn fwynwr i gwmni gwaith plwm Nant-y-mwyn. Aeth Thomas hefyd i weithio yn y mwynglawdd pan oedd yn ifanc. Mae Cyfrifiad 1881 yn cadarnhau hyn.
Yn 1883 priododd â Jane (nid
yw’r cefndir yn hysbys eto) ac yn 1884 ganwyd eu merch, Mary Ann. Heb
amheuaeth roedd bywyd yn galed ac mae’n
Yn 1888 cyrhaeddodd y teulu bach Ynys Ellis, Efrog Newydd, ac oddi yno aethant i Pennsylvania ac ymgartrefu yn North Mead Street, Wilkes-Barre. Roedd hon yn dref yng nghanol diwydiant glo America ac roedd Thomas yn gymwys i weithio yn y diwydiant yn sgil ei brofiad yn fwynwr yn Nant-y-mwyn. Bu’n gweithio i Gwmni Glo Red Ash a Glofa’r Empire, a oedd yn perthyn i Gwmni Glo Glen Alden, lle roedd yn fforman erbyn iddo ymddeol.
Arhosodd Thomas
a’i deulu yn America am weddill eu bywydau, gan ymgartrefu yn y diwedd
yn 148 South Sherman
Does dim cofnod ohonynt yn dychwelyd i Gymru, ddim hyd yn oed ar eu gwyliau. Bu aelodau eraill o’r teulu yn byw yn America, gan gynnwys David Harris Evans (nai) a’i chwaer, Margaret. Bu fy hen fam-gu, Sarah, yn America am gyfnod ond mae’n debyg iddi ddychwelyd i Gymru.
1918 oedd y flwyddyn waethaf ym mywyd Thomas. Ar 12 Hydref bu farw ei ferch, a phum wythnos yn ddiweddarach bu farw ei wraig hefyd - y ddwy o niwmonia.
Yn 1921 aeth Thomas ar daith i Buffalo a Rhaeadr Niagara Falls, ac o’r llefydd hyn anfonodd gardiau post at ei deulu a oedd bryd hynny yn byw yn Y Graig, Cwm Rhaeadr, Cil-y-cwm.
Ar 5 Mai 1934 bu farw Thomas, a chafodd ei gladdu gyda’i wraig a phlentyn ym Mynwent Mount Greenwood, Trucksville, Pennsylvania. Meddai adroddiad yn y papur newydd lleol:
‘Thomas D Evans 69 of 148 South Sherman Street, died in the general hospital on Saturday afternoon. Born in Wales Mr Evans came to this country 46 years ago. For long periods he was employed at the Red Ash Coal Company and Empire Colliery of Glen Alden Coal Company. He was a member of Fidelity Lodge of Masons, Loyal Order of Moose and the Odd Fellows. A niece, Margaret Evans and a nephew David Harris Evans of Camden, New Jersey survive’.
Detholiad o bapur newydd, 'Wilkes-Barre Recorder,' Mai 9fed 1934
Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Eglwys Bresbyteraidd Gymreig Wilkes-Barre. Yn 1997 es i Wilkes-Barre ac ymweld â’r eglwys. Cafodd ei chodi gan lowyr Cymreig. Er taw pren yw’r adeilad ar y tu allan, mae’r tu mewn yn debyg iawn i gapel Cymreig traddodiadol. Roedd yn hyfryd. Tan droad y ganrif roedd holl gofnodion yr eglwys yn Gymraeg.
Yn ddiweddarach ymwelais â Mynwent Mount Greenwood, Trucksville, a sefyll wrth ymyl bedd Thomas D Evans a’i wraig a’u plentyn. Roedd yn brofiad ingol.
|
||||||||||||