Rhandirmwyn
  • Hafan / Home
  • Rhandir-mwyn (CYM)
    • Dyddiau Presennol
    • Bywyd Gwledig
    • Hela
    • Pobl 'Slawer Dydd >
      • DAFYDD DAFIS CYM
    • RHYFELOEDD BYD
    • Newyddion Y Dydd
    • Eglwysi A Capeli
    • Rhandirmwyn Oriel / Gallery
  • Rhandir-mwyn
    • Present Day
    • Country Life
    • Land Rover
    • The Hunt
    • People of the past >
      • DAFYDD DAFIS
    • World Wars
    • News of the day
    • Churches & Chapels
    • Rhandirmwyn Oriel / Gallery
  • Tom Lewis
    • Tom Lewis - Oriel / Gallery
  • Yr Hen Ysgol
    • Plant Noddedig
    • Yr Hen Ysgol - Oriel
  • Old School
    • Evacuees
    • Old School - Oriel / Gallery
  • Genealogy
    • Genealogy - Oriel / Gallery
  • America (CYM)
  • America
  • Gwaith Nantymwyn
    • Nantymwyn - Oriel / Gallery
  • Nantymwyn Mine
    • Simon Hughes
    • Dafydd Dafis
    • Tragedies and Obituaries
    • Maps & Plans
    • Miners Homes
    • Nantymwyn - Oriel / Gallery
  • Red Kite
  • Twm Siôn Cati
    • Twm Sion Cati - Oriel / Gallery
  • Llyn Brianne
    • Llyn Brianne Water Scheme By Dafydd Dafis
    • Documents
    • Newspapers Cuttings
    • Llyn Brianne - Oriel / Gallery
  • Dilynwch / Follow
    • Facebook
    • YouTube
  • Oriel / Gallery
Picture

CROESO I HANES RHANDIR-MWYN - DYDDIAU PRESENNOL 

Pentref gwasgaredig yw Rhandirmwyn wedi ei leoli yn rhan uchaf cwm Tywi, Sir Gaerfyrddin.  Mae’r enw wedi deillio trwy gyfuno dau air, sef  ‘Rhandir,’ a ‘Mwyn’.  ‘Rhandir’ – darn o dir. ‘Mwyn’ – lle cloddiwyd cannoedd o dunelli o blwm a sinc yng ngwaith mwyn Nantymwyn. 

Yn fy marn i mae’n enw prydferth i le prydferth iawn.   
 
Gobeithaf, wrth i chi ymweld a safle’r wefan yma, y cewch gipolwg o fywyd yr ardal tros gyfnod y flynyddoedd yn y cwm tawel yma a leolir ym mynyddoedd Y Cambria (Elenydd).  Hoffwn hefyd ddangos i chi rhai agweddau o fywyd yr ardal heddiw.
 
Dechreuaf drwy ddiffinio’r lle a elwir yn ‘Rhandirmwyn’.  Y sillafiad cywir yw Rhandir - mwyn.
Gall unrhyw un sy’n archwilio hanes ei deulu wynebu trafferthion wrth geisio dehongli ffiniau Rhandirmwyn heb yn gyntaf sylweddoli eanhger yr ardal.   Adnabyddir ardal Rhandirmwyn gan eu thrigolion fel un sy’n ymestyn ar hyd y ddwy ochr o’r afon Tywi tua dwy filltir i’r gogledd o bentref Cilycwm, i fyny i gwm Gwenffrwd hyd at Bwlch-y-rhiw ac yna i’r dwyrain tuag at Geredigion a Brycheiniog (Powys).  I’r dde o’r pentref mae’n ymestyn ar hyd ochr ddwyreiniol yr afon cyn belled a fferm Clynmawr.   O fewn y terfynau yma mae’r trigolion wedi disgrifio’u  hunain erioed fel “Pobl Rhandir”. 
 
 Felly, mae’n angenrheidiol i’r sawl sy’n archwilio hanes teuluol edrych ar gofrestrau a chyfrifiadau plwyfi Llanfair ar y Bryn, Cilycwm ac hefyd Doethie Camddwr. Cysylltwch â’r wefan am gymorth.
​​Bu plwm yn chwarae rhan bwysig yn hanes y pentref hwn. Mae lle i gredu fod Gwaith Plwm Nant-y-mwyn, sydd ychydig uwchlaw'r pentref, mewn bodolaeth yng nghyfnod y Rhufeiniaid - ac o bosibl cyn hynny. Rhoddwyd y gorau i gloddio yno yn 1932.
 
Yn ôl David Owen, awdur Rhandirmwyn – A Brief History, mae’r enw Rhandir-mwyn yn gymharol newydd; y cyfeiriad cyntaf a gafwyd hyd yma yw mewn hysbyseb yn rhifyn 10. 8. 1822 o’r Royal Cornwall Gazette, lle gwahoddir cynigion ar gyfer prydlesu’r ‘Lead Veins of Rhandirmwyn’. Cyn hynny, yr enw ar yr ardal oedd Rhandir Abad, ac wedyn Nant-y-mwyn.  

Mae hwn yn brosiect hirdymor a byddwn yn ychwanegu at yr wybodaeth drwy'r amser. Os oes gennych hanesyn neu lun neu unrhyw beth diddorol arall – hen neu newydd - ynglŷn â Rhandir-mwyn, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda.   

Rhandir-mwyn - Present Day - ​Country Life - The Hunt - People of the Past -  World Wars - News of the Day - Churches and Chapels

Picture

    CYSYLLTWCH A  Alun Jones

ANFON

LLEOLIAD Rhandirmwyn

Proudly powered by Weebly
  • Hafan / Home
  • Rhandir-mwyn (CYM)
    • Dyddiau Presennol
    • Bywyd Gwledig
    • Hela
    • Pobl 'Slawer Dydd >
      • DAFYDD DAFIS CYM
    • RHYFELOEDD BYD
    • Newyddion Y Dydd
    • Eglwysi A Capeli
    • Rhandirmwyn Oriel / Gallery
  • Rhandir-mwyn
    • Present Day
    • Country Life
    • Land Rover
    • The Hunt
    • People of the past >
      • DAFYDD DAFIS
    • World Wars
    • News of the day
    • Churches & Chapels
    • Rhandirmwyn Oriel / Gallery
  • Tom Lewis
    • Tom Lewis - Oriel / Gallery
  • Yr Hen Ysgol
    • Plant Noddedig
    • Yr Hen Ysgol - Oriel
  • Old School
    • Evacuees
    • Old School - Oriel / Gallery
  • Genealogy
    • Genealogy - Oriel / Gallery
  • America (CYM)
  • America
  • Gwaith Nantymwyn
    • Nantymwyn - Oriel / Gallery
  • Nantymwyn Mine
    • Simon Hughes
    • Dafydd Dafis
    • Tragedies and Obituaries
    • Maps & Plans
    • Miners Homes
    • Nantymwyn - Oriel / Gallery
  • Red Kite
  • Twm Siôn Cati
    • Twm Sion Cati - Oriel / Gallery
  • Llyn Brianne
    • Llyn Brianne Water Scheme By Dafydd Dafis
    • Documents
    • Newspapers Cuttings
    • Llyn Brianne - Oriel / Gallery
  • Dilynwch / Follow
    • Facebook
    • YouTube
  • Oriel / Gallery