Dafydd Dafis
Os gwelwch ŵr a`i wallt yn wyn
yn troedio`n ysgafn dros y bryn,
a llyfr nodiadau yn ei law,
boed hindda, wynt, y niwl neu`r glaw.
Pwy yw sy`n enwi cen a llwyn?
Wel, Dafydd Dafis, Rhandir-mwyn.
Harri Williams
yn troedio`n ysgafn dros y bryn,
a llyfr nodiadau yn ei law,
boed hindda, wynt, y niwl neu`r glaw.
Pwy yw sy`n enwi cen a llwyn?
Wel, Dafydd Dafis, Rhandir-mwyn.
Harri Williams
DAFYDD DAFIS, RHANDIR-MWYN (1924-2012)
GAN RHIANNON.
Ganed ’nhad yng nghymuned lofaol fechan Cwmgïedd yn 1924. Yn fab i deulu o löwyr, disgrifiodd ei hun yn fachgen drygionus a oedd wastad mewn trybini, ond roedd hynny fel arfer am ei fod yn treulio oriau lawer yn crwydro ar lannau Afon Gïedd ac yn dringo’r bryniau o amgylch. Er nad oedd yn sylweddoli hynny ar y pryd, bu’r profiadau hynny yn ystod ei fachgendod yn fodd i feithrin ei gariad tuag at yr amgylchedd, a thyfodd y bachgen bach drygionus i fod yn ddyn a garai byd natur yn angerddol.
Bu’n rhaid i ’nhad, fel y rhan fwyaf o ddynion ifainc y cyfnod, wasanaethu am gyfnod yn y lluoedd arfog. Roedd am fod yn beilot, ond methai lanio awyren heb iddi ymddwyn fel cangarŵ, ac yn y diwedd derbyniodd hyfforddiant i fod yn lywiwr. Gwnaed rhan o’r hyfforddiant sylfaenol yng Nghanada. Yn ddiweddarach, roedd yn edifar ganddo na fanteisiodd ar y cyfle i ymweld â’r Parciau Cenedlaethol gwych sydd yno, yn lle treulio’i oriau hamdden yn mynd i glywed Frank Sinatra!
Yn ffodus, daeth y rhyfel i ben cyn i ’nhad orfod ymladd; gadawodd yr Awyrlu a dychwelodd i Gymru i dderbyn hyfforddiant i fod yn athro. Ni wnaeth cyfnod byr mewn ysgol yn Birmingham unrhyw beth i ennyn hoffter tuag at y dirwedd drefol, a dychwelodd i Gymru unwaith eto cyn gynted ag y gallai. Erbyn hyn roedd yn briod â Mam, sef Joan, a roddodd oes o gariad a chefnogaeth iddo, a ganed tair o ferched - Rhiannon, Siân a Catrin.
Yn 1958 bu symud i Randir-mwyn i fod yn brifathro ysgol y pentref yn gyfle i ddatblygu cariad ’nhad tuag at gefn gwlad. Roedd yn gymuned Gymreig iawn y dyddiau hynny – a chyn bo hir roedd pawb yn gwybod y byddai ‘Dafis y Sgŵl’ yn croesawu unrhyw beth anarferol, boed byw neu ddifywyd. Dros y blynyddoedd daeth yr ysgol yn amgueddfa byd natur a oedd yn cynnwys popeth o faen malu o Oes y Cerrig i belenni tylluanod wedi eu hagor yn ofalus.

Roedd ’nhad yn caru Dyffryn Tywi a brwydrodd yn galed i’w ddiogelu rhag sawl bygythiad. Bu'n ysgrifennydd y pwyllgor amddiffyn a geisiodd atal cronfa ddŵr Llyn Brianne. Er i’r frwydr honno gael ei cholli, ni fu pall yn ymroddiad ’nhad mewn ymgyrch galed yn erbyn cynllun i osod polion enfawr i gario ceblau trydan drwy’r cwm.
Fel cadwraethwr, roedd ’nhad flynyddoedd o flaen ei amser. Roedd yn aelod o Bwyllgor y Barcud, a fu’n goruchwylio'r strategaeth gadwraeth i arbed yr aderyn hardd; treuliodd bedair blynedd ar hugain yn cofnodi gwyfynod Blaenau Tywi; ac ysgrifennodd y llyfr diffiniol, Enwau Cymraeg ar Blanhigion. Enillodd ei ymrwymiad a’i angerdd dros fyd natur lawer o ganmoliaeth a sawl anrhydedd, gan gynnwys cael ei wneud yn Gymrawd o’r Gymdeithas Linnaeaidd a gradd M.Sc er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Efallai taw ei gamp fwyaf oedd sefydlu Cymdeithas Edward Llwyd ar gyfer naturiaethwyr Cymru ac sy’n cynnal ei holl weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yr anrhydedd yr oedd yn fwyaf balch ohoni oedd cael ei dderbyn yn aelod o’r Orsedd fel cydnabyddiaeth ei gyd-Gymry o’i gyflawniadau niferus.
Roedd yn ddyn caredig ac addfwyn a oedd bob amser wrth ei fodd yng nghwmni plant ac ni chollodd erioed mo’r gallu i ryfeddu fel plentyn at brydferthwch byd natur. Ei her a’i etifeddiaeth i bawb ohonom yw bod yn gyfrifol am yr hyn sy’n digwydd i'n cefn gwlad prydferth a gwerthfawr. -Rhiannon

Teyrnged i Dafydd Dafis gan Bethan Wyn Jones
Daily Post Mawrth 2012.
Teyrnged i Dafydd Dafis, Rhandirmwyn, Sir Gar, sylfaenydd Cymdeithas Edward Llwyd a chymwynaswr byd natur a fu farw yr wythnos diwethaf.
Ar ddiwrnod braf o Hydref yn 1979 y gwnes i gyfarfod â Dafydd Dafis am y tro cyntaf. Roeddwn i newydd ddechrau hefo Radio Cymru ym Mangor ac wedi mynd i lawr i Randirmwyn yng nghwmni Evan Roberts i wneud y rhaglen gyntaf mewn cyfres newydd o’r enw Awyr Agored. Afraid ydi dweud i mi gael pleser digymysg yng nghwmni Dafydd Dafis wrth iddo sôn mewn Cymraeg, glân, graenus am ryfeddodau byd natur oedd o’n cwmpas yn anifeiliaid ac adar, yn flodau, coed, rhedyn a chen. Roedd yr enwau gwyddonol a’r enwau Saesneg yn llifo yr un mor rhwydd ganddo â’r enwau Cymraeg.
Ar ôl y rhaglen gyntaf honno, mi fues i lawr yn Rhandirmwyn sawl gwaith yn recordio rhaglenni i Radio Cymru hefo Dafydd Dafis, ac yn dysgu rhywbeth newydd bob tro.
Mae arna i yn bersonol ddyled enfawr i’r cawr tawel, gwybodus, diymhongar yma wnaeth i mi sylweddoli ar ôl blynyddoedd o astudio byd natur drwy gyfrwng y Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth, fod modd astudio rhyfeddodau natur yn fy mamiaith, a’i fod o’n gymaint mwy pleserus a chyfoethog o wneud hynny.
Mi agorodd ddrws ar gyfandir cwbl newydd i mi ar y prynhawn hyfryd hwnnw o hydref, ac yn un rydw i’n dal i’w drysori heddiw.
Nid fi yn unig sydd â dyled i’r gr amryddawn hwn. Mae Cymru hefyd yn ei ddyled, a hynny oherwydd iddo sefydlu Cymdeithas Edward Llwyd a chychwyn y cylchgrawn, y Naturiaethwr.
Yn 1978 y cychwynnodd Gymdeithas Edward Llwyd a hynny ar ôl iddo dderbyn cais gan Alun Wyn Bevan, oedd yn athro ysgol ym Mrynaman ar y pryd, i arwain taith gan dynnu sylw at fyd natur. Fe gydsyniodd â’r cais ac ar yr 8fed Gorffennaf, 1978 fe arweiniodd griw ar y daith ar hyd yr Afon Twrch. Ar ôl hynny, doedd dim edrych yn ôl. Wir, doedd dim gobaith iddo, gan fod pawb oedd ar y daith wedi mwynhau eu hunain gymaint. Gofynnwyd iddo ysgrifennu adroddiad o’r daith ac roedden nhw eisiau mwy o deithiau! Wedi iddo gyrraedd adref y noson honno i D’r Ysgol, Rhandirmwyn, roedd yn gwybod beth i’w wneud – sefydlu cymdeithas a’i galw’n Gymdeithas Edward Llwyd, a chael cylchgrawn o’r enw’r Naturiaethwr. Buan iawn y daeth teithiau am 10.30 ar fore Sadwrn yn rhywbeth cyffredin.
Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf y Naturiaethwr yn 1979. Dafydd oedd yn gyfrifol am hwn – am y cynnwys, ei deipio, ei osod a’i ddyblygu ac roedd dau rifyn y flwyddyn yn ymddangos. Sut ar wyneb y ddaear roedd o’n dod i ben â’r holl waith, wn i ddim ond mae gan Cymru gyfan le mawr i ddiolch iddo am wneud hyn. Cyn hyn, doedd ’na fawr o ddim yngln â byd natur yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg. O’r fesen fach a blannwyd yng Ngorffennaf 1978, tyfodd derwen gadarn. Erbyn heddiw mae dros naw cant o aelodau yng Nghymdeithas Edward Llwyd. Nid un taith natur am hanner awr wedi deg ar fore Sadwrn sydd ’na, ond tair – yn y gogledd-orllewin, y gogledd-ddwyrain a’r de a’r canolbarth, ac mae pabell groesawgar bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r Naturiaethwr yn parhau i gael ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn ac yn ogystal â Chylchlythyr y Gymdeithas mae gwefan gan y Gymdeithas a Llên Natur.
Cyfraniad pwysig arall gan y Gymdeithas yw cyhoeddi enwau Cymraeg ar Greaduriaid Asgwrn Cefn, Planhigion Blodeuol, Conwydd a Rhedyn a Gwyfynod, Glöynnod Byw a Gweision Neidr.
Dafydd Dafis hefyd ynghyd ag Arthur Jones a gyhoeddodd Enwau Cymraeg ar Blanhigion (Amgueddfa Genedlaethol Cymru) yn 1995, ynghyd ag amryw o gyhoeddiadau eraill fel Llyfrau Llwybr Natur, a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer. Cafodd Radd er Anrhydedd gan y Brifysgol, ei urddo i’r Orsedd ac yn Eisteddfod y Bala yn 2009 derbyniodd y Fedal Wyddoniaeth. Yn ogystal â bod yn naturiaethwr brwd roedd o hefyd yn Gymro i’r carn ac yn un oedd yn sefyll yn gadarn dros y Gymraeg.
Ar ddydd ei angladd ddydd Llun diwethaf yn Eglwys Rhandirmwyn fe’i disgrifiwyd fel dyn annibynnol ac un roedd cymdogaeth a theulu’n bwysig iddo. Roedd yn cael ei adnabod fel Dai Abercraf gan aelodau’r tîm rygbi y perthynai iddo ac roedd yn bwysig fod teithiau natur yn gorffen mewn pryd iddo weld gemau rhyngwladol ac mi fuasai wedi bod wrth ei fodd y Sadwrn dwytha.
Bu’n Brifathro yn Ysgol Rhandirmwyn ac wedyn yn Ysgol Cynghordy a chlywyd am y cariad a’r caredigrwydd a ddangosai at blant ifanc oedd dan ei ofal yn ogystal â phwysigrwydd disgyblaeth a gwybodaeth. Roedd naws arbennig yn yr ysgol ac awyrgylch ofalgar a chefnogol ble roedd datblygiad pob plentyn yn bwysig o dan arweiniad gofalus y prifathro. Roedd rhywbeth mwy na darllen, ysgrifennu a gwneud syms yn yr ysgol hefyd a dysgodd iddynt fod byd natur yn werthfawr – i’w archwilio, ei adnabod a’i drysori. Mi alla i ddychmygu fod yr ysgol fel Ashmolean Rhandirmwyn.
Wrth ei roi i orffwys yn naear dangnefeddus Rhandirmwyn ar brynhawn mwyn o wanwyn, roedd yr haul yn tywynnu, cynffonau yn bach yn siglo o’r coed cyll, adar y to yn trydar o fondo’r eglwys, a llygaid y dydd a briallu yn wincio arnom o fôn y clawdd. Fedrwn i ddim llai na theimlo y byddai hyn wedi bod wrth fodd y meddyliwr a’r naturiaethwr gwylaidd hwn. Gadawodd i ni waddol amhrisiadwy fel cenedl; gadewch i ni anrhydeddu ei goffadwriaeth drwy ymroi i adeiladu ar y sylfaeni cadarn a osododd wrth warchod a thrafod byd natur yn ein mamiaith.

CYMDEITHAS MYNYDDOEDD CAMBRIA
DARLITH GOFFA Dafydd Dafis Rhandir-mwyn 2015

Mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria yn wirioneddol falch o fod yn cefnogi darlith gan ein Llywydd, Iolo Williams, er cof am Dafydd Dafis. Mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria yn teimlo’n angerddol am dirwedd a harddwch Mynyddoedd Cambria ac mae’n adeiladu ar waith pobl fel Dafydd Dafis Rhandir-mwyn a oedd yn caru’r ardal, yn ymgyrchu i ddiogelu ei thirwedd ac i gadw ei bywyd gwyllt a chynefin naturiol. Derbyniodd Dafydd Dafis, yn haeddiannol, nifer o anrhydeddau gan Gymru. Mae'n cael ei goffáu mewn barddoniaeth a gwobrau - ond yn bennaf oll yng nghalonnau a meddyliau pobl leol, llawer ohonynt yn gyn-ddisgyblion iddo ac yn ei gofio â hoffter a balchder. Mae ymddiriedolwyr Cymdeithas Mynyddoedd Cambria yn anrhydeddu’r holl waith a gyflawnwyd ganddo, y darganfyddiadau a wnaeth a'r ymgyrchoedd y bu’n eu harwain.
Gobeithiwn y gall y Gymdeithas gynnal darlith yn flynyddol er cof amdano ond, yn anad dim gobeithio y byddwch yn mwynhau heno. Hyderwn y cewch eich cyffroi gan ardal yr oedd Dafydd Dafis yn ei phortreadu mor glir i gynulleidfa eang, sef y dirwedd y mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria yn ei diogelu a’i hyrwyddo.
Yr Athro Roger Earis,. Cadeirydd Cymdeithas Mynyddoedd Cambria