Hela
HELA CADNOID YM MLAENAU TYWI
Mae’r helfa’n dyddio’n ôl i 1914 pan gafodd Mr Tom Jones, Fferm Penrhyn a Mr Alfred Jones (Arolygydd yr Heddlu wedi ymddeol) o Grove Cottage, Rhandir-mwyn nifer o gŵn hela o groesiad Cymreig gan y diweddar Mrs Hughes o Neuadd-fawr, Llambed. Cadwyd y cŵn i ddechrau mewn cartws ar fferm Galltybere, ond am i genawon gael eu magu o’r cŵn hela hyn, aeth y cartws yn rhy fach a chodwyd cyndy ar fferm Bron-cwrt, Rhandir-mwyn. Cafodd y cŵn eu cofrestru a daeth Helfa Rhandir-mwyn i fodolaeth. Y tu allan i’r tymor hela, yn ystod misoedd yr ha, câi’r cŵn eu cadw ar wahanol ffermydd yn hytrach nag yn y cyndy a byddai’r ffermwyr yn mynd â’r cŵn am dro.
Byddai’r helfa’n cyfarfod yn y Miners Arms, Rhandir-mwyn (1 Stryd Pannau). Yr heliwr cyntaf oedd Mr Tom Jones, Troedrhiwcymmer a’r meistr oedd Mr Alfred W Jones, Grove Cottage, Rhandir-mwyn. Tua 1936 daeth Mr Stanley James, Maesygwandde, Llanymddyfri, yn heliwr a chyn bo hir trosglwyddwyd y cyndy i fferm Clyn-mawr lle mae’n dal i fod hyd heddiw. Cyflog Mr James i ddechrau oedd £2 yr wythnos, ond yn ddiweddarach fe’i tociwyd i 30 swllt. (£1.50) ond byddai’n derbyn deuswllt am bob cadno a mochyn daear a fyddai’n cael eu dal. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd yn 1939, daeth yr helfa dan ofal Mr G. V. Lloyd, a oedd yn feistr a heliwr. Roedd hi’n gyfnod anodd ac roedd arian yn brin.
Trwy gydol blynyddoedd y rhyfel, roedd Helfa gyfagos Tywi a Theifi hefyd yn ei chael hi’n anodd goroesi a phenderfynwyd uno â Helfa Rhandir-mwyn. Yn 1945 ffurfiwyd helfa newydd, dan yr enw Helfa Tywi a Chothi, a dyna yw’r enw hyd heddiw.
Gwnaed Mr G. V. Lloyd a Mr D. E. Thomas yn gyd-feistri. Roedd hon yn Helfa Ffermwyr yn cael eu rhedeg yn bennaf gan ffermwyr a chyfeillion cefn gwlad.
Daeth y canlynol yn feistri’r helfa: Mr D. E. Thomas, Troedrhiwbylchau, y Capten B. Williams, Mr G. N. Lloyd a Mrs Raleigh Blandy. Roeddynt yn hela ardal eang ar y pryd - Cynghordy, Cil-y-cwm, Rhandir-mwyn, Cwrtycadno, Pumsaint, Crug-y-bar, Llanwrda, Porth-y-rhyd, Llangadog, Llanymddyfri, Myddfai a Halfway.
Ar 25 Mai 1954 ymddiswyddodd Mr D. E. Thomas o fod yn feistr Helfa Tywi a Chothi a ffurfiodd helfa newydd, sef Helfa Cwrtycadno. Dyna pryd etholwyd Mrs Raleigh Blandy yn gyd-feistr newydd gyda Mr Llewelyn Jones, Clyn-mawr yn feistr maes. Fe’i holynwyd gan Mr John Davies, Nantfforest, Mr Emrys Price, Nant-gwyn, a Mr Arwyn Clement.
Yn ystod y blynyddoedd ar ôl y rhyfel, ffynnodd yr helfa dan arweiniad nifer o helwyr da - Mr Watkins o Aberhonddu, yna Mr John Davies, Rhandir-mwyn ac wedyn Mr Johnny Morgan, Dinas-bach, Rhandir-mwyn. Yr heliwr a ddilynodd Mr Johnny Morgan oedd Mr Rhys Jones, Nant-llwyd, Cwm Camddwr. Roedd sawl aelod o deulu Mr Jones yn helwyr gyda sawl pac o gŵn hela yn y cyffiniau. Roedd yna frwdfrydedd mawr y dyddiau hynny a llawer o ddilynwyr ar gefn ceffylau. Glynwyd wrth hen draddodiadau a lle bynnag y byddai’r helfa’n cael ei gwahodd, byddai gwledd o fwyd a diod ar gael i’r dilynwyr.

Tua diwedd y 1960au, etholwyd Mr D. J. Lewis, Llwynjack, Llanymddyfri yn feistr a bu yn y swydd am flynyddoedd lawer. Fe’i holynwyd gan Mr Robert Powell, Cefntrenfa, a fu farw pan oedd yn dal yn feistr. Y nesaf i fod yn feistr oedd Mr Wil Evans, Cwmcynwal, a bu yn y swydd am sawl blwyddyn. Bryd hynny, yr heliwr oedd Mr Dewi Price, a fu yn y swydd am 30 mlynedd, sef y cyfnod hiraf i unrhyw heliwr yn hanes Helfa Tywi a Chothi .
Er i’r helfa ffynnu yn y 1950au a’r 1960au, roedd cymylau’n crynhoi ar y gorwel. Cafwyd nifer o flynyddoedd anghyfforddus wrth i leisiau gwrthwynebwyr hela fynd yn uwch. Gwnaed ymdrechion rheolaidd i atal hela, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny o Loegr lle'r oedd pobl gyfoethog yn dilyn yr helfeydd.
Ni chafwyd fawr o wrthdaro yng nghanolbarth Cymru ac aeth hela yn ei flaen.
ThYn y diwedd, cafwyd pleidlais rydd yn y Senedd yn Llundain a daeth Deddf Hela 2004 i rym. Ni chafodd hela cadnoid ei wahardd yn llwyr, ond cafwyd nifer o gyfyngiadau. Mae aelodau Helfa Tywi a Chothi wedi dygymod â’r rheolau hyn ac mae yna ddilynwyr brwd o hyd.
Roedd Mr Gareth Morgan yn heliwr tan 2011. Yr heliwr presennol yw Mr John Hughes a’r Meistri yw Mr Tegwyn Powell (Meistr Dryll) a Mr Ken Price (Meistr Maes).

THE TOWY AND TEIFI HUNT - MEET AT RHANDIRMWYN
The 26th December was a notable day in and about the above place. It was the day of the special meet of the Towy and Teifi Hunt, when about 40 sportsmen on horses attended, and also about 15 motor-cars and motor-bicycles from the district of Pumpsaint, Llanycrwys, Llangybi, Llangeitho and Llanddewi-Brefi, all supporters of the hunt and faithful followers of the hounds in their districts.
At Troedrhiwgelynen, Rhandirmwyn, all were invited to lunch at 9. 30 a.m. through the generosity of Mr Tom Thomas, the son of the farm who is a successful solicitor at Dorchester. Through the loyalty to the hunt, and the kindness of the ladies of the farm and others from the vicinity, the field had a thoroughly enjoyable time. Some friends of the Hunt delivered appropriate speeches in thanks to Mr Tom Thomas for his liberal hospitality, and enthusiastic cheers were given him and a heart-felt desire was expressed for his success.
Afterwards the hounds were let free and the field moved out, and in a short time Reynard was on the run; he showed his cunning by making a fair double by the Gwenffrwd River, and by this prank the hounds had to be closely on their guard for a few minutes. But after hounds came out of the “double’ it was a beautiful sight to see them making their way up through the fields and wood of Troedrhiwbylchau, right up to the hill as far as Cribyn Du, then across the land of Troedrhiwhir, and under Craig Ddu, Gellyhernyn, but he did not have leisure and time to climb up to his well known “mansion” at the top of the last named rock; instead he had to take the wood westwards towards Troedyrheol Wood, when again we
“Heard the hounds’ triumphant chorus,
And the deafening ‘Tally ho !’
When old Reynard brushing, dirty
Through the hedge, and then ‘dead ho ! “
So ended a glorious day of sport and enjoyment. May the success of the Towy and Teifi Hunt continue. That is the united wish of all sportsmen in the hilly district of North Carmarthenshire.
THE OLD SPORTSMAN
Carmarthen Journal, January 8th 1932