Ysgolion

Sefydlwyd yr ysgol gyntaf yn Capel Peulin, Ystradffin yn ystod canol yr ail ganrif ar bymtheg. ’Roedd y Capel yma ar un adeg o dan berchnogaeth Mynaich Sistersaidd (Cistercian Monks), Ystrad Fflur; nhw hefyd oedd perchnogion “Y Grange” a’r capel arall o’r un enw “Capel Peulin” yn Nant-y-bai. Credir i’r ysgol, ychydig yn ddiweddarach, gael ei symud i Nant-y-bai.
Ym 1833 adroddodd Samuel Lewis fel a ganlyn:-
‘Abad Rhandir (Rhandir Abbot) – Saif Capel Nantybai yn y pentrefan yma. Fe’i ail godwyd ar y safle yma yn hytrach nag yn Ystrad Ffin lle safai’r adeilad gwreiddiol.
Y fywoliaeth oedd curad parhaol, gyda gwaddol o £200 yn roddion preifat ynghyd â £1,000 o bownti brenhinol, ac o dan nawddogaeth Iarll Cawdor. Dyma ysgol ddyddiol, yn cynnwys 25 o blant, gyda chefnogaeth rhannol Iarll Cawdor a roddir £5 y flwyddyn i’r athro, a chan y rhieni; hefyd 3 Ysgol Sul lle y dysgir yn rhad tua 120 o ddynion a menywod.’
‘Rhandir Abbot’ - The chapel of Nant y Bai is in this hamlet, having been re-erected here instead of Ystrad Ffin, where the original building stood. The living is a perpetual curacy, endowed with £200 private benefaction, and £1,000 royal bounty, and in the patronage of Earl Cawdor. Here is a day school, containing 25 children, which is supported partly by Earl Cawdor, who allows the teacher £5 p.a. and partly by the parents; also 3 Sunday Schools in which about 120 males and females are gratuitously taught.’
Daeth addysg ffurfiol i Randirmwyn trwy gyfrwng yr Ysgolion Cenedlaethol (National Schools) ym 1859 pan adeiladwyd yr ysgol gyntaf. Er hynny ni agorwyd drysau’r ysgol i ddisgyblion tan 1860 ac ni welwyd ychwaith unrhyw gofnod yng nghofrestr yr ysgol tan 1863. Dyma’r hyn a gofnodwyd:-
Ysgol Genedlaethol Rhandirmwyn (Rhandirmwyn National School)
‘Sefydlwyd yr ysgol uchod yn y flwyddyn 1859 trwy ymdrech a dylanwad y Parchedig Joshua Hughes, Llanymddyfri. Fe’i agorwyd ar Chwefror 7fed, 1860 dan ofalaeth y Prifathro James Thomas gyda Thomas Evans, y Disgybl Athro, a ddechreuodd ei brentisiaeth fel athro ar y 1af o Ebrill, 1860.’
Diwrnod trist i’r gymuned gyfan oedd y diwrnod hwnnw ym mis Tachwedd 1969 pan gaewyd drysau’r ysgol am y tro diwethaf.
‘Rydym wedi cynnwys rhai hen luniau o ysgol Rhandirmwyn ar hyd y blynyddoedd, ac yr ydym yn awr yn y broses o grynhoi hanes yr hen ysgol gan gynnwys adroddiadau gan Olwen Jones, Llethrgwyn a Tommy Williams, Troedrhiwhir am eu hamser yn yr ysgol o gylch 1920. Oes gennych chi atgofion o’ch cyfnod yn ysgol Rhandirmwyn?
’Rwy’n cofio cerdded y daith hir trwy’r glaw i’r ysgol ac yna eistedd yn y dosbarth gyda’n cotiau gwlyb wedi’u taenu dros y sgrin oedd yn amgylchu’r ffwrn dân fawr gyda chymylau o stêm yn codi i’r awyr. Wrth inni gerdded adref byddem yn arfer sefyll ar wal siafft gwaith mwyn Erw’r Hwch gan daflu cerrig i lawr iddi, a chyfrif tra’n gwrando’n astud am yr atsain dawel yna pan ddisgynnai’r garreg i’r gwaelodion. Yna fe osodwyd sgrin fawr drosti, a dyna ddiwedd ar ein hwyl. (Diolch am hynny, neu efallai byddai ein chwarae ni wedi troi’n dristwch.)
Nid ysgol yn unig oedd Ysgol Rhandirmwyn, ’roedd yn rhan annatod o fywyd cymunedol. Yn aml byddai’r ysgol yn cael ei thrawsnewid i fod yn neuadd gyngerdd gyda llwyfan a llenni. Yn ystod cyfnod y rhyfel cynhaliwyd cyngherddau “Welcome Home” i’r milwyr lleol i’w croesawu adref dros dro. Fe fyddai’r arweinydd dawnus, Mr. David Thomas, Nantgwyn, yn llwyddo i gadw’r gynulleidfa o dan ei gyfaredd gyda’i hiwmor a’i storïau gwych. Gwelwyd amrywiaeth o dalentau lleol yn ymddangos ar y llwyfan i ganu, adrodd neu talu teyrnged i’r gwr neu’r gwyr ifanc a fyddai, cyn bo hir, yn gorfod dychwelyd i faes y gad.
Yr ysgol hefyd oedd canolbwynt yr ardal; dyma’r lle byddai aelodau’r gymuned yn cwrdd adeg unrhyw argyfwng, e.e. cynllun Llyn Brianne neu unrhyw achlysur arall a olygai bod angen i’r trigolion ymgynnull.
Yn ystod fy mhlentyndod llwyfannwyd cyngherddau ardderchog yno ac ambell ddrama o bryd i’w gilydd. Cynhaliwyd hefyd Gyrfaon Chwist a “Play at your Peril”. ’Roedd rhai o’r gwragedd hŷn yn bencampwyr ar chwarae cardiau, ac ambell dro llwyddwyd i berswadio rhai o’r bobl ifanc i ymuno er mwyn gwneud fyny y rhifau. Hefyd fe fyddai chwaraewyr cardiau profiadol yn teithio o Gilycwm a Chynghordy a’u bryd ar ennill. Llawer gwaith bu rhaid i mi ysgwyddo cynddaredd rhai o’r gwragedd yma, oherwydd un carden anghywir oedd angen, a dyma hi! Yn sydyn byddem yn ganolbwynt y sylw i gyd. Fe’m disgrifiwyd ganddynt yn ‘llo’; ‘penbwl twp’; neu ‘mae e’ fel bat’. Dros y blynyddoedd fe ddefnyddiwyd y termau yma i gyd i’m disgrifio. Erbyn yr Yrfa Chwist nesaf byddai’r cyfan wedi ei anghofio a byddem unwaith eto yn barod i ymuno er mwyn gwneud fyny y rhifau. Fe glywyd y geiriau “good boy” ar draws yr ystafell nes imi unwaith eto chwarae carden anghywir, ac yna byddent yn dychwelyd at ddefnyddio’r un termau ag a ddefnyddiwyd yn yr ornest flaenorol. Nid wyf bellach yn chwarae cardiau.
(Alun Jones)
Nid oes angen dweud ein bwriad yw ychwanegu at straeon yma ynglŷn â bywyd yn, ac o amgylch, Ysgol Rhandirmwyn. Os oes gennych stori neu hen luniau, a wnewch chi gysylltu â ni?.
Hanes Addysg yn Rhandirmwyn Gan Dafydd Dafis
Cynhaliwyd yr ysgol gyntaf yn Rhandirmwyn yng Nghapel Peulin, Ystradffin. Yn berchen ar y capel yn y Canol Oesoedd oedd Sistersiaid Ystrad Fflur. Yr oedd yn ardal o ddiddordeb arbennig i’r Sistersiaid oherwydd eu bod nhw’n berchen ar fferm fawr Nant-y-Bai (neu ‘Nant Bey’ fel y’i gelwid ar fapiau cynnar o Granges yr Abaty); yma y lleolir Capel Peulin hefyd. Dyma’r man felly lle sefydlodd Griffith Jones un o’i ysgolion mewn capel bach diarffordd yng nghanol ardal o brydferthwch naturiol arbennig iawn.
Brodor o Benboyr, sir Gaerfyrddin oedd Griffith Jones (1683 – 1761). Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin ac fe’i ordeiniwyd ym 1708. Tra’n gwasanaethu fel curad yn Nhalacharn aeth yn athro yn ysgol y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol (SPCK) ac yno y cafodd yr awydd i sefydlu Ysgolion Cylchynol Cymreig. Symudodd i fod yn rheithor yn Llanddowror ym 1716 ac yno a bu am bum mlynedd ar hugain fel iddo gael ei adnabod o hynny ymlaen yn ‘Griffith Jones Llanddowror’. Rhoddwyd iddo’r rheithoriaeth gan ei ffrind a’i noddwr, Syr John Philipps, a chadarnhawyd y cyfeillgarwch rhyngddynt pan briododd Margaret, chwaer Syr John, ym 1720.
Ym 1731 sefydlodd Griffith Jones ei Ysgol gyntaf a honno yn Llanddowror, yn ei sir enedigol. Daeth iddo’r syniad wedyn o sefydlu rhagor o ysgolion yn yr ardal o gwmpas. Byddai athrawon yr ysgolion hyn yn dysgu am gyfnod hyd at dri mis yn yr un man cyn symud ymlaen i’r ysgol nesaf. Yn y modd hwn llwyddwyd sefydlu rhif uchel o ysgolion drwy ddefnyddio nifer gymharol fechan o athrawon. Fel arfer, ym misoedd y gaeaf cynhelid yr ysgolion pan oedd y dyletswyddau ar y ffermydd wedi lleihau. Cafodd plant ac oedolion eu dysgu i ddarllen yr Ysgrythurau yn eu hiaith eu hun ac i adrodd Catecism Eglwys Loegr. Bu’r canlyniadau yn rhai ysgubol o lwyddiannus. Erbyn 1740 roedd 150 o ysgolion wedi ei sefydlu gyda 8,767 o ysgolorion, ac erbyn 1761, blwyddyn marwolaeth Griffith Jones, cofnododd Welch Piety bod cyfanswm o 3,495 o ysgolion wedi ei sefydlu a bod 158,237 o ddisgyblion wedi ei dysgu ynddynt.
Wedi ei farwolaeth parhawyd â’r gwaith gan Madam Bridget Bevan (1698 – 1779), un a fu’n brif noddwraig iddo yn ystod ei fywyd.
Sefydlwyd un o ysgolion Griffith Jones yng Nghapel Peulin, Ystradffin, ac fe barodd yr ysgol yno yn nydd Madam Bevan. Gwraig Arthur Bevan oedd hi, Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin o 1727 – 1744. Bu hi farw ym 1779 a gadawodd £10,000 er mwyn ffurfio ymddiriedolaeth i redeg yr ysgolion ar ôl ei marwolaeth ond oherwydd ymryson ynglŷn â’r ewyllys gan ddau o’i hymddiriedolwyr, ei nai, Dirprwy Lyngesydd William Lloyd o Danyrallt, Llangadog, a’i nith, y Fonesig Elizabeth Stepney o Lanelli, rhoddwyd y gymynrodd mewn Siawnseri, lle bu am ddeng mlynedd ar hugain yn crynhoi llog nes iddo gynyddu i dros £30,000. Erbyn hynny roedd yr ysgolion wedi hen gau oherwydd prinder arian.
Photo - Capel Peulin.
Ond ym 1809 tarwyd ar gynllun i wneud defnydd o’r arian trwy sefydlu ysgolion cylchynol Cymreig lle dysgwyd darllen, ysgrifennu a rhifyddeg. Yr enw arnynt oedd, ‘Ysgolion Elusennol Madam Bevan’. Erbyn 1854, pan ddaeth y cynllun i ben, roedd naw ysgol ar ôl yn sir Gaerfyrddin, sef: Eglwysfair Glantaf, Llandeilo, Llanelli, Llanfihangel-rhos-y-corn, Llangain, Llanllawddog, Llanllwch, San-cler ac Ystradffin. Felly, roedd Ysgol Capel Peulin, Ystradffin yn un o naw ysgol a lwyddodd i gadw eu drysau ar agor hyd y diwedd. Ond, ni bu’r dysau ar agor drwy’r cyfnod 1809 i 1854 canys bu raid iddi gau eu drysau am beth amser. Yr oedd hyn gan Samuel Lewis (1833) i’w ddweud: ‘RHANDIR ABBOT,.........The chapel of Nant y Bai is in This hamlet, having been ref-erected here instead of at Ystrad Ffin, where the original building stood. The living is a perpetual curacy, endowed with £200 private benefaction, and £1,000 royal bounty, and in the patronage of Earl Cawdor. Here is a day school, containing 25 children, which is supported partly by Earl Cawdor, who allows the teacher £5 p.a. and partly by the parents: also 3 Sunday Schools, in which about 120 males and females are gratuitously taught’.
Yn ôl adroddiad ystadegol ar Gyfrifiad 1841, trigai ysgolfeistr, John Williams, yn y cyntaf o’r wyth tŷ yn Nantybai. Yn sicr, yr oedd yr ysgol hon yng Nghapel Nant-y-Bai yn nes at drwch poblogaeth yr ardal nag oedd honno yng Nghapel Ystradffin.
(Photo Tŷ Cwrdd)
Cysegrwyd y ddwy Eglwys, Ystradffin a Nantybai, i Beulin. Tair eglwys yn unig a gysegrwyd i Beulin yng Nghymru a’r llall yw Llanbeulin yn Llangors, sir Frycheiniog. Ail adeiladwyd Capel Peulin, Ystradffin ym 1821, a chynhelir gwasanaethau yno unwaith y mis o hyd. Erbyn hyn mae Capel Peulin, Nantybai yn adfeilion er bod cof gan rai o drigolion yr ardal bod tŷ ger pont Nantybai a elwid Tŷ Cwrdd ac mai Dai Tŷ Cwrdd oedd yr olaf i drigo yno.
Sefydlwyd Cymdeithas yr Ysgol Sul yn Llundain ym 1785. Bu’r gymdeithas hon, a gwaith ardderchog Robert Raikes (1736 – 1811), arloeswr yn y maes, yn ysbrydoliaeth i’r mudiad yng Nghymru. Yn flaenllaw yn y mudiad yng Nghymru oedd Thomas Charles o’r Bala ac o dan ei arweiniad ef gwelwyd twf cyflym yn yr ysgolion.
Mantais fawr yr Ysgol Sul oedd ei bod hi’n cael ei chynnal ar y Sul a’i bod hi’n rhad, a’i bod hi hefyd yn agored i hen ac ifanc ac i wŷr a gwragedd. Cynhaliwyd yr Ysgol Sul cyntaf mewn capeli ac eglwysi, mewn ysguborion a ffermdai, mewn tafarndai hyd yn oed neu mewn unrhyw dŷ lle roedd lle i bobl ymgynnull. Dysgwyd plant a phobl i ddarllen ac yn aml i ysgrifennu hefyd gan ddefnyddio’r Beibl fel gwerslyfr. Byddai safon y dysgu’n amrywio gan ddibynnu ar allu yr athro a’r hyfforddiant a dderbyniodd. Rhyw awr i ddwy awr byddai’r dosbarth yn para fel arfer.
Mae’n amlwg bod yna alwad am addysg o’r fath yn Rhandirmwyn o ystyried y nifer uchel a oedd yn mynychu’r Ysgol Sul. Mae’n siŵr i’r ysgol lwyddo i droi llawer a oedd yn anllythrennog yn llythrennog ac i drawsffurfio’r gwerinwr swil di-ddweud i fod yn siaradwr hyderus a fyddai’r ddawn i fynegi ei hun yn rhugl yn iaith ei hun; hyn yn deillio o’r darllen, y cyd-adrodd a’r dadlau brwd ar bynciau crefyddol a ddigwyddai yn y dosbarthiadau. Ac yn sicr, mewn cyfnod pan oedd yr ysgolion dyddiol yn anwybyddu’r iaith Gymraeg roedd y defnydd a wnaed o’r iaith yn yr Ysgol Sul o bwys aruthrol ac yn sicrhau dyfodol yr iaith.
Yr Ysgol Genedlaethol
Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gwelwyd sefydlu dwy gymdeithas genedlaethol gyda’r bwriad o hyrwyddo sefydlu ysgolion elfennol drwy’r wlad. Am y deng mlynedd a thrigain nesaf roedd y cymdeithasau hyn yn mynd i fod yn flaenllaw ym myd addysg yng Nghymru. Er i’w nod fod yn debyg o ran cynnwys y cwricwlwm ac addysg grefyddol, roedd yna hollt athrawiaethol rhyngddynt. Roedd yr ysgolion o dan ofal y Gymdeithas Ysgolion Prydeinig a Thramor (British and Foreign Schools Society) yn anenwadol ac yn anathrawiaethol tra bod rhai a berthyn i’r Gymdeithas Genedlaethol (National Society) yn Anglicanaidd yn ei modd o weithredu ac o addysgu.
Roedd ysgolion eisoes wedi eu sefydlu ar ddechrau’r ganrif gan bobl fel Joseph Lancaster (1778 – 1838) a gredai y dylai addysg fod ar gael i bob aelod o’r gymuned ac y dylai’r addysg honno fod yn anathrawiaethol ac yn anenwadol; agorwyd yr un gyntaf o’i ysgolion yng Nghymru yn Abertawe ym 1808. Roedd sawl Crynwr blaenllaw yn cefnogi ac yn ariannu ysgolion o’r fath fel, er enghraifft, Peter Price, Crynwr a oedd yn un o’r meistri haearn, a sefydlodd ysgol yn Abaty Castell Nedd i blant tlawd yr ardal. Sefydlwyd ysgolion o’r math hefyd yn Aberhonddu, Tremadoc, Y Fenni a Machen. Trosglwyddwyd y faich o redeg yr ysgolion hyn i’r Gymdeithas Ysgolion Prydeinig a Thramor a lansiwyd yn ffurfiol yn 1814. Gwelwyd twf bychan yn y rhif o ysgolion a agorwyd yn ystod y cyfnod 1814 – 1832. Mewn rhai ysgolion codwyd tâl bach – dimau neu geiniog y dydd – ac mewn ysgolion eraill codwyd tâl o geiniog yr wythnos. Serch hynny, roedd hi’n arferiad i blant y tlodion gael eu haddysg yn rhad ac am ddim.
Roedd y twf yn Anghydffurfiaeth a’r rhif cynyddol o Ysgolion Prydeinig (fel y gelwyd ysgolion y Gymdeithas Ysgolion Prydeinig a Thramor) anenwadol yn beri peth pryder i’r Eglwys Sefydledig, ac ym 1811 sefydlwyd y Gymdeithas Genedlaethol er Hyrwyddo Addysg y Tlodion yn Egwyddorion yr Eglwys Sefydledig (National Society for Promoting the Education of the Poor in the Principles of the Established Church). Roedd gan y Gymdeithas hon y nod uchelgeisiol o sefydlu ysgol ym mhob plwyf yng Nghymru a Loegr ble byddai’r tlodion yn cael eu haddysgu yn egwyddorion yr Eglwys sefydledig. Tu ôl i’r cynllun hwn oedd dymuniad cryf i wrthwynebu dylanwad cynyddol ymneilltuwyr canys fe’u gwelwyd fel bygythiad i’r Eglwys. Gelwyd ysgolion y Gymdeithas Genedlaethol hon yn Ysgolion Cenedlaethol (National Schools).
Yr Ysgol Genedlaethol gyntaf i’w sefydlu yng Nghymru oedd honno ym Mhenley, yn ardal Maelor, Clwyd, ysgol a fabwysiadwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol ym 1812. Roedd hi’n 1815 pan sefydlwyd Cenedlaethol yn Nyfed – yn Aberteifi, Llanymddyfri a Phenfro. Yn aml, ysgolion Eglwysig gynt oedd y rhain, ysgolion a unodd o dan adain y Gymdeithas Genedlaethol.
Roedd hi’n 1860 cyn i Ysgol Genedlaethol Rhandirmwyn agor ei drysau.
(Photo Rhandirmwyn School). Serch hynny, roedd hi’n 1863 cyn i’r cofnod cyntaf ymddangos yn y llyfr log cyntaf yr ysgol, llyfr sydd yn cynnwys cofnodion am y blynyddoedd 1863 i 1897. mae’n agor gyda’r cofnod hwn:
‘Rhandirmwyn National School
The above School was established in the year 1859 by the influence and efforts of the Revd. Joshua Hughes, Llandovery.
It was first opened on the 7th day of February 1860 under the care of James Thomas as its Principal Teacher and Thomas Evans, Pupil Teacher, who entered on his apprenticeship 1st April 1860.’
Bu’r prifathro cyntaf hwn yn bennaeth ar yr ysgol nes ei ymddiswyddiad ar y 29ain o Ionawr 1964, ac mae’n amlwg iddo benderfynu ymuno â’r weinidogaeth canys ar y 31 Mawrth 1869 mae’r cofnod canlynol yn y llyfr log:
‘Revd. J Thomas, formerly a Master of the School, paid us a visit in the afternoon’.
Dysgwyd elfennau darllen, ysgrifennu a rhifyddeg i fechgyn a merched yn yr Ysgolion Cenedlaethol ac mewn llawer ohonynt, gan gynnwys Ysgol Rhandirmwyn, defnyddiwyd cyfundrefn fonitoraidd o ddysgu, lle byddai’r goreuon o’r plant hŷn yn cymryd eu tro i ddrilio’r babanod yn yr elfennau hyn. Dyma ddau gofnod yn y llyfr log am y flwyddyn 1866 sydd yn cyfeirio at y monitorion:
‘July 4. The monitor reproved for neglecting his home lessons.’
Mae’n amlwg bod merch hefyd yn cario cyfrifoldebau’r swydd oherwydd nes ymlaen yn y mis gwelir y cofnod hwn:
‘July 23. Monitor resigned her Office at 12 noon’.
Sefydlwyd Ysgolion Cenedlaethol gan Bwyllgor Esgobaethol ac fe roddwyd grantiau gogyfer ag adeiladau’r ysgolion gan y Gymdeithas Genedlaethol ond wedi hynny cyfrifoldeb y pwyllgorau lleol oedd codi arian i dalu am gynnal a rhedeg yr ysgol ac i dalu cyflogau’r athrawon. Fel arfer, codwyd tâl o geiniog neu ddwy geiniog yr wythnos er nad oedd unrhyw dâl i blant nad oedd eu rhieni’n medru fforddio talu. Nid oes unrhyw gyfeiriad at y disgyblion yn talu’r geiniog neu ddwy yma yn llyfrau log Ysgol Rhandirmwyn ond disgwyliwyd iddynt dalu am lo i wresogi’r ysgol:
‘1865. March 1. A warning was today given to the children to bring money for fire to the School.’
‘1866. Jan 10. Told the children to bring money to get coal.’
Roedd yr un drefn yn bodoli dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach ac erbyn hyn roedd wedi mynd yn bwnc llosg!
’16 Oct. 1899. The vicar (Rev. E. Morgan) called and asked the children to bring money for coal – 7d if only one child attends from a family, 6d each for two, and 5d each for more than two. The master refuses to receive the money so the Vicar told the Pupil Teacher, J. Thomas to take it.’
d – ceiniog mewn hen arian.
Ar adegau disgwyliwyd i’r plant nid yn unig i dalu am y glo ond hefyd ei gario i’r ysgol, fel y gwelir yn y cofnod canlynol am y flwyddyn 1875. Gan fod lefel yr ysgol dipyn yn uwch na’r heol sydd yn rhedeg o’i blaen, mae’n amlwg nad oedd modd i geffyl a chart drosglwyddo’r llwyth i’r iard pryd hynny:
‘School not opened until 10.25 a.m. [yr amser arferol oedd 9 y.b.] owing to the children assisting in carrying coal for the School into the yard.’
Prif amcan yr Ysgolion Cenedlaethol oedd i ddarparu cyfarwyddyd moesol a hyfforddiant crefyddol ond dysgwyd hefyd darllen, ysgrifennu a rhifyddeg yn ogystal a chrefftau tŷ. Denu plant i’r Eglwys Sefydledig oedd y bwriad tu ôl sefydlu llawer o’r ysgolion hyn a disgwylid i’r disgyblion fynychu gwasanaethau’r Eglwys ar y Sul fel amod o’u derbyn i’r ysgol. Achosodd hyn dipyn o bryder i’r rhieni hynny a oedd yn Anghydffurfwyr a bu raid i lawer ohonynt aberthu eu credoau er mwyn sicrhau addysg ffurfiol i’w plant. Yn sicr, mewn pentre bach diarffordd ym mherfedd cefn gwlad fel Rhandirmwyn rhaid oedd i’r rhieni dderbyn y gyfundrefn addysg fel ag yr oedd hi, nid oedd ganddynt ddewis. Bu dylanwad yr Eglwys yn drwm ar yr ysgol drwy ei hanes, o’r dydd yr agorwyd ar y 7 Chwefror 1860 hyd at ddyddiad ei chau dros ganrif yn ddiweddarach ar Rhagfyr 1969. Yn y blynyddoedd cynnar, ymwelwyr cyson â’r ysgol oedd y Parchedig Joshua Hughes o Lanymddyfri a’r curad:
‘1866 Jan. 15: Number present was 46. Revd. Joshua Hughes of Llandovery called this morning and heard all the children read.’
‘1866. Feb. 14: The Reverend Mr. Williams, the curate, called here this afternoon and examined the slates of the 1st. and 2nd. Classes who had been writing a part of the Catechism.’
‘1880 March 17: Mrs. Morgan, Vicarage, attended the Sewing this afternoon. The Revd. E. Morgan, took the Higher Standards in Reading and Grammar.’
Yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg un peth a boenai’r awdurdodau yn fawr oedd sut i ddysgu plant a oedd yn uniaith Gymraeg trwy gyfrwng iaith estron, Saesneg. Yr unig fodd o ddod ymlaen yn y byd oedd trwy feistroli’r iaith Saesneg. Diystyrwyd yr iaith Gymraeg fel dim byd amgenach nag ‘iaith frodorol’ gan Gomisiynwyr Rebecca ym 1843 ac yn yr un modd roedd adroddiadau gan wahanol Gomisiynau yn ymwneud â phynciau fel gwaith i fenywod a phlant, perchnogaeth tir, addysg ac hyd yn oed yr Eglwys Sefydledig yn dangos yr un amarch tuag at yr iaith Gymraeg ac yn sôn byth a beunydd am ddiffyg y mwyafrif o’r boblogaeth i feistroli’r Saesneg. Roedd yr agwedd hon tuag at y Gymraeg i bara hyd ein dyddiau ni. Ar Dudalen gyntaf llyfr log cyntaf Ysgol Rhandirmwyn ceir crynodeb o Adroddiad yr Arolygwr Ysgolion ar yr Ysgol am y flwyddyn 1863:
‘........the attainments of the Scholars are for the most part creditable considering the nature of the district and the few opportunities they have for hearing and becoming accustomed to English.’
O dan Côd Diwygiad 1861, blwyddyn ar ôl agor Ysgol Rhandirmwyn, roedd yr Ysgolion yn medru manteisio ar grantiau petai nhw’n cyrraedd safonau arbennig. Dibynnai swm y grant a dderbynnid ar lefel presenoldeb y plant ac ar eu perfformiad mewn arholiad flynyddol gan Arolygwr Ysgolion mewn pynciau arbennig, sef, Saesneg, darllen, ysgrifennu a rhifyddeg. Rhoddwyd tystysgrifau am bresenoldeb cyson a chosbwyd plentyn am ei absenoldeb o’r Ysgol. Er mwyn derbyn y grant llawn rhaid oedd wrth ganlyniadau da yn y pynciau detholedig. Y canlyniad oedd i blant gael eu drilio yn y pynciau hyn ac yn aml fe anwybyddwyd eraill yn llwyr.
Mae crynodeb o Adroddiadau yr Arolygwr Ysgolion a ddyddiwyd 12 Mehefin 1867 yn llyfr log yr ysgol yn dangos yr effaith a gafodd y Côd hwn ar ysgol fach wledig:
‘The attainment of the children in the School are below average. The Master is a tolerable fair teacher but he and the children must exert themselves more if they would have the School pass a creditable examination.
My Lords cannot sanction the issue of a certificate for Mr. Jones until they receive a better report on his School.
N.I. Williams
Secretary.’
Ond mae’r Adroddiad am y flwyddyn 1887 yn gorffen yn y modd hwn:
‘A very fair knowledge of English for a Welsh country school was shown.
Total Grant £50.7.0.’
Un canlyniad o wneud ariannu’r ysgol yn ddibynnol ar y pedwar pwnc hyn oedd i sicrhau nad oedd y Gymraeg ar gwricwlwm yr ysgol. ‘Doedd yr athrawon (llawer ohonynt heb gael eu hyfforddi) ddim am faich o iaith arall a gwnaethpwyd pob ymdrech i gael gwared ohoni tu mewn i furiau’r ysgol ac ar iard yr ysgol. Defnyddiwyd gwahanol ddulliau i rwystro plant rhag siarad Cymraeg a’r modd mwyaf enwog oedd trwy ddefnyddio’r ‘Welsh Not’. Darn o bren oedd hwn gyda’r llythrennau ‘W.N.’ neu ‘Welsh Not’ wedi eu cerfio arno. Roedd darn o gordyn yn cysylltu pob pen a phe clywid plentyn yn siarad Cymraeg o fewn cyffiniau’r ysgol crogid y pren wrth ei wddf. Petai ef yn ei dro yn clywed plentyn arall yn siarad yr iaith trosglwyddai’r pren i hwnnw neu honno. Ar ddiwedd y dydd cosbid y disgybl a wisgai’r darn cythreulig. Nid oes sôn yn llyfrau log Rhandirmwyn am yr arferiad barbaraidd hwn ond ar 30 Tachwedd 1882 ceir y cofnod canlynol:
‘Several boys were sent into School today during the dinner hour for speaking Welsh in the yard, it being general wish of the parents that the habit of speaking Welsh in School be stopped.’
Yn y blynyddoedd Fictorianaidd nid oes sôn am lyfrau Cymraeg yn yr Ysgol, nac am wersi Cymraeg neu wersi ar unrhyw bwnc arall drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid oes amserlen ar gael o’r pynciau a ddysgid bryd hynny and mae’r llyfrau log yn cyfeirio at y math o bynciau a arferiad eu dysgu:
‘1869. Feb.22: William James and James Jones examined in Scripture, Grammer and Arithmetic.’
‘1869. Aug.26: William James commenced studying Geography from Cornwell’s Manual.’
‘1869. Sept. 1: William James commenced Book Keeping.’
‘1869. Nov. 18: Gave a lesson on Cube Root to William James and James Jones.’
‘1870. April. 21: Revd. J Jones questioned the 3rd. Class in the multiplication tables.’
‘1870. June. 10: The First Class wrote out the parable of the ‘Rich Fool’ on paper instead of copy-writing in the morning. Sewing and Singing in the afternoon.’
Yma a thraw yn y llyfrau log ceir rhestrau o ganeuon ac adroddiadau a oedd naill wedi eu dysgu neu i’w dysgu:
‘1879. March 24:
List of Songs
1. Catch the Sunshine
2. One true Heart
3. Men of Harlech
4. Birds are Singing
5. Try John
6. Lazy John
7. The Stately Homes of England
8. Winter Song
9. Summer Song
10. The Letters
11. The Tables
12. Come Away’
‘1882. Sept. 29: Taught a new song to the whole School – “Hearts of Oak”.’
‘1896. April 7: List of Recitation
Stds. I & II – A Mother’s Love
Stds. III & IV - The Battle of Blenheim
Stds. V, VI, VII – Legend of Horatius
Grammar Group I Stds. I & II: Pointing out Nouns and Verbs.
Grammar Group II Stds. III & IV: Pointing out the different parts of speech and parsing easy sentences etc.’
Nid oes sôn am ddysgu alaw Gymraeg nac o adrodd darn o farddoniaeth Gymraeg.
Ni cheir unrhyw gyfeiriad chwaeth yn y cofnodion at ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi nac unrhyw sôn am gyngerdd neu ddrama neu barti Nadolig a gynhaliwyd yn yr Ysgol yn yr oes Fictorianaidd, ar wahân i’r cofnod hwn:
‘1890. Jan. 27: Holiday. A tea-treat, kindly given by some ladies in the neighbourhood to the Schoolchildren. There was also a Magic Lantern Entertainment in the evening.’
Roedd yr achlysur byth gofiadwy hwn siŵr o fod wedi rhoi’r pleser mwyaf i’r plant ac yn destun siarad ymhlith trigolion yr ardal am wythnosau.
Ni chyfeirir at ddaearyddiaeth Cymru nac at hanes ein cenedl yn llyfrau log y cyfnod ac nid oes sôn am hanes lleol neu ddaearyddiaeth y cylch. Mae cof gan lawer o’r genhedlaeth hŷn heddiw am gydadrodd yn yr ysgol rhestrau hir o frenhinoedd a breninesau Lloegr, prif ddinasoedd gweledydd y byd, mynyddoedd ucha’r byd a’u huchder ac enwau afonydd hiraf y byd; anwybyddwyd yn llwyr bywyd a gwaith enwogion lleol ac ni ddilynwyd astudiaethau lleol fel na wyddent enwau’r afonydd a’r nentydd a redai heibio’r ysgol na’r bryniau a welsant drwy ffenestri’r ysgol. Ac ni cheir gair yn sôn am y plant a’r athrawon yn mentro tu allan i furiau’r Ysgol i wneud astudiaeth o fyd natur a hyn mewn un o’r ysgolion breintiedig hynny a leolir mewn ardal o brydferthwch naturiol digymar lle mae bywyd gwyllt yn gyfoethog ei amrywiaeth a lle ceir labordy awyr agored wrth garreg drws yr Ysgol.
Ond, roedd y cyfnod pan gynigwyd addysg gyfyng i blant anffodus yr oes mewn iaith estron gan athrawon heb eu hyfforddi ac yn ennill cyflogau isel iawn, yn raddol dod i ben. Diddymwyd tâl am fynychu ysgol ym 1891, cam a berodd i’r prifathro gofnodi:
‘1891. Oct. 2: Free education being adopted there has been an increase in attendance.’
Gwellodd ansawdd yr athrawon ac, yn ôl tystiolaeth y llyfrau log, John Hughes a ddechreuodd ei yrfa fel prifathro Ysgol Rhandirmwyn ar y 3 Medi 1895, oedd y cyntaf o brifathrawon y Ysgol a feddai ar dystysgrif athro ar ôl dilyn cwrs mewn coleg, a hyn bymtheng mlynedd ar hugain ar ôl agor yr Ysgol a saith mlynedd a deugain ar ôl i Goleg y Drindod, Caerfyrddin, dechrau hyfforddi athrawon ym 1848. Yr oedd pob prifathro, yn dilyn John Hughes, yn berchen ar dystysgrif a daeth amser pan oedd yn ofynnol i bob athro ar staff yr Ysgol ddal tystysgrif ac o ganlyniad ennill cyflog derbyniol fel na welwyd mwyach cofnod truenus fel y canlynol:
‘1899. March 15: John Thomas, pupil teacher, requested leave of absence at 3.15 p.m. to dig a grave; leave was granted.’
John Hughes, felly, oedd y prifathro pan ddechreuodd Alice Harries, Erwrhwch (y mae cof gan lawer yn y pentre amdani)(Photo Miss Harris,) fel plentyn bach yn adran babanod yr Ysgol ar 14 Ebrill 1896. Yn mynd i’r Ysgol am y tro cyntaf ar y diwrnod hwn hefyd oedd Charles Renowdon a Lillian Robins. Y flwyddyn ganlynol, ar y 17 Tachwedd 1897, cofnodwyd bod 120 o blant ar gofrestrau’r Ysgol, y rhif uchaf yn hanes yr Ysgol. Fel arwydd o’r gwelliannau a welwyd bryd hynny ym myd addysg yn gyffredinol ac yn hanes Ysgol Rhandirmwyn yn arbennig, ceir y cofnod hwn:
‘1898. July 26:
Bessie Thomas, a pupil of the School, has won a Scholarship at the Llandovery Intermediate School, appearing 6th. On the list; also Thomas Theophilus gained a Scholarship at the Welsh Collegiate Institution, Llandovery, appearing 5th on the list.’
Yn y modd hwn gwawriodd cyfnod newydd a mwy llewyrchus yn hanes Ysgol Rhandirmwyn, pan symudai plant ymlaen i addysg eilradd, symudiad oedd i arwain at goleg a phrifysgol a gyrfa academaidd ddisglair i nifer o ddisgyblion dros y blynyddoedd i ddod.
O dan Deddf Addysg Forster (canys dyna y gelwid hi) ym 1870, sefydlwyd Byrddau ôcymal yn y Ddeddf yn datgan bod unrhyw hyfforddiant crefyddol i fod yn anenwadol ac yn wir fe allai’r rhieni ddewis i’w plant beidio a chael unrhyw addysg grefyddol. Canlyniad i’r ddeddf hon a deddfau eraill a’i dilynodd oedd sefydlu erbyn 1902, 379 o Fyrddau Ysgolion yng Nghymru. Agorwyd 821 o Ysgolion Bwrdd gyda 171,500 o ddisgyblion yn eu mynychu o’u cymharu a’r 840 o Ysgolion Gwirfoddol gyda’u 96,000 o blant.
Ceisiwyd cael y cyfan o addysg elfennol o dan reolaeth Awdurdodau Lleol pan basiwyd Deddf Addysg 1902. Disgwylid i’r awdurdod Lleol sefydlu Awdurdodau Addysg i gymryd gofal o ysgolion bwrdd ac o ysgolion gwirfoddol. A’r rhain i’w hariannu o hyn ymlaen o drethi lleol. Rhoddwyd i’r Awdurdodau Addysg bwerau i arolygu ysgolion gwirfoddol a’r enw arnynt o hyn ymlaen fyddai ysgolion ‘non-provided’; roedd Ysgol Rhandirmwyn yn un ohonynt ac yr oedd gan yr awdurdodau yr hawl i ddewis dau allan o’r chwech rheolwr ar bob ysgol.
Ni allent, serch hynny, wahardd hyfforddiant crefyddol enwadol yn yr ysgolion hynny a fu’n ysgolion gwirfoddol, ac yr oedd apwyntiad athrawon yn nwylo’r ysgolion i raddau helaeth a’r canlyniad oedd mai ‘Anglicanwyr’ a apwyntiwyd i’r swyddi.
Presenoldeb
O 1892 i 1897 cyflogwyd ysgolion yn ôl eu canlyniadau (‘payment by results’). Roedd maint y grant a dderbynnid wedi ei seilio ar berfformiad y plant mewn arholiad yn y dair ‘R’ a hefyd yn ôl eu presenoldeb yn yr ysgol. Ym mlwyddyn olaf y cynllun hwn mae’r prifathro wedi sgrifennu’r nodyn canlynol wrth ymyl y ddalen sydd yn cario crynodeb o Adroddiad yr Arolygwr Ysgolion
Principal Grant 12/6
Discipline & Organisation 1/6
Singing (ear) 6d
1st Class Subj. (Obj. Lesson & Eng.) 1/-
Total grant on 72 average = £55. 16. 0.
Felly presenoldeb y plant ar gyfartaledd am y flwyddyn oedd 72 ac fe welwch sut roedd y grant yn dibynnu ar y ffigur hwn ac efallai deall pam oedd y prifathrawon byth a beunydd yn cwyno am absenoldeb y plant. Er hynny, mewn ardaloedd gwledig roedd galw ar i’r plant helpu ar y fferm adeg cywain gwair neu gneifio defaid ac fe allai’r tywydd effeithio ar y presenoldeb. Tro ar ôl tro ceir cyfnodau yn y llyfrau log fel a ganlyn:
‘1864. July 15: Attendance small today and all this week averaging from 30 to 40 on account of sheep shearing and hay harvest in the neighbourhood.’
‘1864. Sept. 22: Several children were absent this afternoon in consequence of a sale being held at Ystradffin.’
‘1864. Oct. 28: Children absent because of pay day in the village.’ ( It is obvious that the lead miners were paid at the end of the month.)
‘1864. Nov. 16: Absence today – fair at Llandovery.’
‘1867. March 14: Roads were stopped up with drifts of snow so that but 14 children were present.’
‘1867. April 12: Many of the children were kept at home to set the gardens.’
‘1867. Aug. 2: Attendance very low, there being a fair at Llandovery and a bidding in the neighbourhood.’ ( Bidding – Carmarthenshire tradition to announce a wedding.)
‘1869. April 26: Attendance very low. Many of the School children gone to work in the woods. Several also gone to Cynghordy station with their friends who are going away to America.’
‘1870. Aug. 24: Attendance very small owing to a Society at Salem to which several children belong.’
‘Summary of the Inspector’s Report on the School for 1871 (Revd. S. Pryce): The attendance at this School has decreased – the number present at inspection this year was 66. It is to be noted that the number of boys present was only 24. I was informed that they were sent at a very early age to work in the neighbouring lead mines.’
Gwnaethpwyd mynychu ysgol yn orfodol ym 1880 ond, serch hynny, am amryw resymau roedd rhieni yn para i gadw eu plant gartref. Yr oedd hyn gan y prifathro i’w ddweud ar y 3 Ionawr 1881:
‘I find that the Education Act as far as compulsory attendance is concerned is a dead letter in this parish.’
Ac ar y 25 Mawrth 1881, mae’n datgan:
‘There are several families with from three to five children of school age within easy distance who do not send a single child to school. It may be noticed that few children are admitted until they are between 8 and 9 years old.’
Yn y cyfnod hwn, mae’n amlwg oddi wrth y dyfyniad nesaf o’r llyfr log bod plant o oedran ysgol yn gweithio yn y gwaith mwyn lleol:
‘1884. Sept. 29; re-admitted David Walters. Children can attend School or go ‘to work on the crusher’ at their own sweet will. The Attendance and Factory Acts have no terror for them.’
Yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg mae’n siŵr bod mynd i’r ysgol yn brofiad digon diflas i’r plant. Doedd yr argymhellion i athrawon da ddim llawer gwell; disgwylid iddynt ddysgu plant trwy gyfrwng iaith nad oedd llawer ohonynt yn deall; roedd yr absenoldeb yn uchel ac o ganlyniad araf oedd y gwelliant yng ngwaith y plant felly gwael oedd ei canlyniadau yn yr arholiadau. Byddai’r ysgol wedyn ddim yn gymwys i dderbyn y grant. Nid yw’n syndod felly i weld newid cyson yn y prifathrawon – bu wyth prifathro ar Ysgol Rhandirmwyn yn ystod yr ugain mlynedd cyntaf (1860-1880).
Os byddai’n edrych yn debyg bod llawer o blant yn mynd i absennu oherwydd bod rhyw achlysur arbennig yn yr ardal byddai’r prifathro yn cau’r ysgol; roedd hyn yn fwy derbyniol na dangos cofrestr i Arolygwr Ysgolion ag arni absenoldeb uchel am y dydd:
‘1863. Aug. 17: No School today on account of the National Eisteddfod at Swansea; both Masters were down for the day only.’
‘1864. Oct. 5: School given up this afternoon, sale being at Gwernpwll. (local farm).
‘1866. Nov. 13: No School – fair at Cilycwm.’
‘1867. May 28: No School kept today, the Master and many of the children having gone to the
Eisteddfod which was held a little distance off at Cefngefel.’
‘1867. July 12: No School in consequence of monthly meetings being held at Salem.’
‘1867. Aug. 1: No School – Master gone to a lecture at Soar.’
Ar Ionawr 13eg 1868, cymerodd George Thomas Bright ofal o’r Ysgol. Parodd fel prifathro nes ei ymddeoliad am ddeuddeg o’r gloch canol dydd ar y 30 Orffennaf o’r un flwyddyn. Roedd hyn gan ei olynydd i’w ddweud ar ei ddydd cyntaf:
‘1869. Jan. 11: Entered upon duties as Master of the Rhandirmwyn National school, John Davies, Master. I find that the School is in a very backward condition. A great number of children do not know the Alphabet. The Master has taken charge of the School under very unfavourable circumstances. The School has been closed about six months and its state was so bad at the last examinations that no Grant was obtained.’
‘1870. July 13: Holiday, owing to Mr. Campbell Davies Junior reaching his majority.’ (Campbell Davies were a wealthy family who resided in a country mansion called Neuadd Fawr, Cilycwm).
‘1871. Sept. 26: The first marriage was celebrated at St. Barnabas, so a holiday was given.’
‘1876. May 18: Great Meetings held at the Baptist Chapel.’
‘1897. June 22: Two days holiday was given to celebrate the Queen’s Jubilee.’
(Queen Victoria reigned from 1837 to 1901, so this holiday was to celebrate her diamond jubilee.)
Yn dilyn marwolaeth y frenhines ym 1901, coronwyd Edward VII ac fe geir y cyfnod byr hwn:
‘1902. June 24: Coronation – Holiday.’
Wrth gwrs, nid achlysuron mawreddog yn ymwneud a’r wladwriaeth oedd yr unig droeon pan gynhaliwyd gwyliau, roedd yna adegau yn y calendr ffermio pan ddathlwyd gwyliau:
‘1895. July 2: Holiday. Shearing at Ystradffin.
‘1902. July 11. Sheep-shearing holiday.’
Yr oedd gwaith ar y fferm yn gyfrifol am lawer o absenoldeb o’r ysgol:
‘1894. Oct. 12: Attendance much smaller this week. Several children kept at home to assist in drawing potatoes.’
Mae’r llyfr log hefyd, pan yn cyfeirio at absenoldeb plant am resymau amaethyddol, yn dangos y newid a ddaeth yn y defnydd a wnaeth o’r tir, fel yn y cyfnod canlynol:
‘1892. Sept. 9: Corn harvest has commenced. Several children kept home.’
Mae rhai o drigolion y pentre yn cofio cnydau o wenith, ceirch a haidd (neu farlys) yn cael eu tyfu’n gyffredin ar ffermydd y cylch yn negawdau cynnar y ganrif hon, fel bod digon o waith i’r felin yn Nant-y-bai lle gwelir John Williams, y melinydd a thad y diweddar David Williams, saer, yn wyn gan flawd o’i gorun i’w draed. Yr oedd felly digon o wellt lleol i gyweirio toi’r ardal er nad oes cof am neb yn dilyn y grefft o döwr – pawb yn cyweirio toi eu hunain. Ychydig erbyn hyn sy’n cofio toi gwellt i’r ffermydd ac i’r tai ar wahân i’r stryd o dri o dai yn Nant-y-bai a hefyd bythynnod Troedrhiwafallen, Tŷ Cwrdd a Gorofmelyn, y cyfan erbyn hyn yn adfeilion ar wahân i’r olaf. Yn Nant-y-bai hefyd oedd yr efail ac yno arferid clywed sŵn morthwyl y gof, Jacob Hughes, yn tincian ar yr eingion ar ddechrau’r ganrif canys onid oedd o leiaf ‘dou geffyl a phoni’ ar bob fferm? Nid oes ryfedd felly bod prysurdeb y gwaith mwyn, gweithgareddau’r fferm, bywyd cymdeithasol yr ardal a digwyddiadau ar raddfa genedlaethol yn dylanwadu ar bresenoldeb plant yn yr ysgol yn y cyfnod hwn.
Prifathrawon Ysgol Rhandirmwyn
Agorwyd yr Ysgol ar y 7fed dydd o Chwefror 1860 ac fe’i caewyd ar 19 Rhagfyr 1969
Chwefror 1860 - Ionawr 1864 James Thomas
Chwefror 1864 - Rhagfyr 1865 Owen Evans
Ionawr 1866 - Rhagfyr 1867 Thomas Jones
Ionawr 1868 - Gorffennaf 1868 George Thomas Bright
Ionawr 1869 - Chwefror 1870 John Davies
Chwefror 1870 - Mawrth 1871 Elizabeth Anne Williams
Ebrill 1871 - Awst 1878 Anne George
Awst 1878 - Gorffennaf 1880 Hugh Solomon Williams
Awst 1880 - Rhagfyr 1885 Thomas Jones
Ionawr 1886 - Awst 1895 David Owen
Medi 1895 - Gorffennaf 1898 John Hughes
Ionawr 1899 - Hydref 1900 Edgar John Stanbury
Tachwedd 1900 - Awst 1902 Thomas Owen
Hydref 1902 - Tachwedd 1903 John T Jones
Tachwedd 1903 - Gorffennaf 1904 Ebenezer Davies
Medi 1904 - Awst 1922 David Vincent Lewis
Hydref 1922 - Hydref 1930 Isaac Williams Thomas
Tachwedd 1930 - Ebrill 1950 W Brynmor Jones
Ebrill 1950 - Rhagfyr 1957 P Vernon Griffiths
Ionawr 1958 - Rhagfyr 1969 Dafydd Dafis
Chwefror 1860 - Ionawr 1864 James Thomas
Chwefror 1864 - Rhagfyr 1865 Owen Evans
Ionawr 1866 - Rhagfyr 1867 Thomas Jones
Ionawr 1868 - Gorffennaf 1868 George Thomas Bright
Ionawr 1869 - Chwefror 1870 John Davies
Chwefror 1870 - Mawrth 1871 Elizabeth Anne Williams
Ebrill 1871 - Awst 1878 Anne George
Awst 1878 - Gorffennaf 1880 Hugh Solomon Williams
Awst 1880 - Rhagfyr 1885 Thomas Jones
Ionawr 1886 - Awst 1895 David Owen
Medi 1895 - Gorffennaf 1898 John Hughes
Ionawr 1899 - Hydref 1900 Edgar John Stanbury
Tachwedd 1900 - Awst 1902 Thomas Owen
Hydref 1902 - Tachwedd 1903 John T Jones
Tachwedd 1903 - Gorffennaf 1904 Ebenezer Davies
Medi 1904 - Awst 1922 David Vincent Lewis
Hydref 1922 - Hydref 1930 Isaac Williams Thomas
Tachwedd 1930 - Ebrill 1950 W Brynmor Jones
Ebrill 1950 - Rhagfyr 1957 P Vernon Griffiths
Ionawr 1958 - Rhagfyr 1969 Dafydd Dafis
Rhandirmwyn - Plant Noddedig 1940
1950
1953
1958
Logiau yr Ysgol

Yma mi welwch dri copi o gylchgrawn yr ysgol. 1959, 1960 a 1961.
Roedd fy niweddar fam yn dda at gasglu hen bethau a’i cadw mewn bocs a roedd yn fwynhad mawr ei darllen unwaith eto. Roedd yn angenrheidiol felly ei bod yn cael ei cynnwys ar y wefan.
Am fod safon rhai o’r tudalennau yn wael fu rhaid gwneud cöpiau ond rydym wedi cynnwys y rhai gwreiddiol hefyd. Mi gododd Mr Dafis y prifathro arian drwy wahanol weithgareddau i brynu peiriant ‘Gestetner’ dyblyg a teipiadur Bar-loc a felly cafwyd y cylchgrawn ei cynhyrchu.
Rydwyf ddim in sicr am faint o flynyddoedd cyhoeddwyd y cylchgrawn ond os oes yna göpiau arall ar gael, rhowch alwad.
Alun Jones
Lawrlwytho
Cylchgrawn Ysgol 1959
Cylchgrawn Ysgol 1960 - 1960 -1
Cylchgrawn Ysgol 1961 - 1961-1
Roedd fy niweddar fam yn dda at gasglu hen bethau a’i cadw mewn bocs a roedd yn fwynhad mawr ei darllen unwaith eto. Roedd yn angenrheidiol felly ei bod yn cael ei cynnwys ar y wefan.
Am fod safon rhai o’r tudalennau yn wael fu rhaid gwneud cöpiau ond rydym wedi cynnwys y rhai gwreiddiol hefyd. Mi gododd Mr Dafis y prifathro arian drwy wahanol weithgareddau i brynu peiriant ‘Gestetner’ dyblyg a teipiadur Bar-loc a felly cafwyd y cylchgrawn ei cynhyrchu.
Rydwyf ddim in sicr am faint o flynyddoedd cyhoeddwyd y cylchgrawn ond os oes yna göpiau arall ar gael, rhowch alwad.
Alun Jones
Lawrlwytho
Cylchgrawn Ysgol 1959
Cylchgrawn Ysgol 1960 - 1960 -1
Cylchgrawn Ysgol 1961 - 1961-1